Mae cynlluniau ar gyfer cyfleuster gweithgynhyrchu deunydd inswleiddio carbon isel yn Shotton, i'w adeiladu gan Knauf Insulation Ltd., wedi symud ymlaen wrth gymeradwyo ei achos busnes amlinellol am arian gan y Cynllun Twf. Ar ôl cael sêl bendith gan Uchelgais Gogledd Cymru i symud ymlaen i'r cam nesaf, disgwylir i'r prosiect fod yn fanteisiol iawn i economi ac amgylchedd y rhanbarth – gan greu swyddi newydd yn y maes gweithgynhyrchu gwerth uchel.
Gyda £14.397miliwn o'r Cynllun Twf – sy'n rhan o fuddsoddiad sy’n werth £180miliwn - mae Knauf Insulation yn bwriadu ailddatblygu safle sy'n eiddo i Tata Steel ar hyn o bryd, i fod yn ffatri wlân ddatblygedig sy’n defnyddio mwynau o greigiau. Bydd y cyfleuster yn defnyddio technoleg ffwrnais arc tanddwr i gynhyrchu deunyddiau inswleiddio carbon isel, anllosgadwy.
Mae'r prosiect yn anelu i greu 137 o swyddi hirdymor uniongyrchol ac o leiaf 131 o rolau anuniongyrchol eraill yn yr ardal. Mae hefyd yn cefnogi nodau rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer cynaliadwyedd a gwytnwch, yn enwedig wrth ymateb i newidiadau rheoleiddiol yn dilyn trychineb Grenfell, sydd wedi arwain at fwy o alw am ddeunyddiau adeiladu nad ydynt yn llosgi.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, yr Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglen Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel Uchelgais Gogledd Cymru, ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
"Dyma brosiect cyffrous sy'n dod ag arloesedd a chynaliadwyedd at ei gilydd. Rydym yn falch o gefnogi prosiect sy'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf dybryd yn y byd adeiladu – o ddatgarboneiddio i ddiogelwch tân – tra'n sicrhau cyflogaeth a buddsoddiad hirdymor i'n cymunedau."
Bydd buddsoddiad Knauf yn angori ei weithrediadau yn y rhanbarth ac yn cryfhau cysylltiadau gyda'i safle sydd gerllaw yn Queensferry. Rhagwelir y bydd y cyfleuster newydd yn gallu cynhyrchu dros 100,000 tunnell y flwyddyn, gan ddod yn rhan flaenllaw o'r sector gweithgynhyrchu adeiladu cynaliadwy yn y DU.
Dywedodd Ian Gornall Cyfarwyddwr Prosiect, Knauf Insulation Ltd:
"Rydym yn falch iawn o weld arian y Cynllun Twf yn cael ei gymeradwyo – mae'n garreg filltir bwysig i ni ac yn dangos yr ymrwymiad rydyn ni'n ei rannu gydag Uchelgais Gogledd Cymru i ddarparu gweithgynhyrchu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn tanlinellu ein hyder yng Ngogledd Cymru fel canolbwynt ar gyfer arloesi a gweithgynhyrchu uwch. Bydd y cyfleuster newydd yn ein helpu i gwrdd â'r galw cynyddol am ddeunydd inswleiddio carbon isel nad yw'n llosgi, gan gefnogi nodau sero net y DU a nodau diogelwch adeiladu."
Mae angen i bob prosiect yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru ddatblygu achos busnes amlinellol, sy'n ffurfio rhan o broses strwythuredig. Fe wnaeth cymeradwyo’r achos busnes baratoi’r ffordd ar gyfer cymeradwyo’r prosiect terfynol gan uwch reolwyr Grŵp Knauf ym mis Tachwedd 2025, a bwriedir dechrau ar y gwaith adeiladu yn ystod 2026.