Mae cynlluniau i ddatblygu cyn safle Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych wedi derbyn hwb, gyda phenderfyniad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gymeradwyo achos busnes amlinellol Jones Bros Civil Engineering.
Wedi blynyddoedd o ansicrwydd, mae'n edrych yn debyg y gall y safle ddod yn rhan ganolog o'r gymuned unwaith eto, gan ddarparu cyflogaeth a chartrefi i bobl leol. Mae cynnig Jones Bros yn cynnwys adfer yr adeilad rhestredig Gradd 2*, datblygu cartrefi a mannau gwyrdd, creu canolfan sgiliau a hyfforddiant, yn ogystal â darparu dros 1,000m2 o ofod masnachol.
Ers iddo gau yn 1995, mae cyflwr yr adeilad wedi dirywio ac er gwaethaf sawl cynllun adfywio, does dim wedi dwyn ffrwyth hyd yma. Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi penderfynu rhoi caniatâd cynllunio hybrid yn amodol ar gytundeb pellach ar amodau cynllunio a thelerau cyfreithiol.
Cyng. Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych yw aelod arweiniol rhaglen Tir ac Eiddo ar y Bwrdd Uchelgais, dywedodd:
“Mae dod a sicrwydd i’r safle hanesyddol hwn yn dyst i’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy iddo. Wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf y prosiect, ein gobaith trwy’r Cynllun Twf, yw trawsnewid y safle gan ddod â chartrefi newydd a chyfleoedd cyflogaeth y mae mawr eu hangen i’r dref a’r gymuned ehangach.”
Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Tir ac Eiddo Cynllun Twf Gogledd Cymru sy’n ceisio mynd i’r afael â heriau a hyrwyddo cyfleoedd sy’n gysylltiedig â safleoedd datblygu. Drwy fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu’r farchnad eiddo yng Ngogledd Cymru, nod y rhaglen yw trawsnewid safleoedd yn ardaloedd preswyl a chanolfannau ar gyfer swyddi.
Ychwanegodd Huw Jones, perchennog Jones Bros Civil Engineering:
“Rydym yn falch bod ein achos busnes amlinellol wedi’i gymeradwyo a bod y datblygiad yn gallu symud ymlaen i’r cam nesaf.
“Mae’r safle hanesyddol hwn yn haeddu cael ei adfer a bod yn rhan o’r gymuned yn Ninbych unwaith eto, rydym wedi cymryd cam allweddol arall i wireddu hynny.”
Yn dilyn penderfyniad y Bwrdd Uchelgais Economaidd, gall y prosiect symud i ymlaen i ddatblygu achos busnes llawn – y cam olaf cyn sicrhau cyllid y Cynllun Twf.
Mae achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae pob cynllun busnes yn cynnwys cyfnod cynllunio'r prosiect ac yn nodi opsiynau sy'n sicrhau'r gwerth cyhoeddus gorau yn dilyn gwerthusiadau manwl.