Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer prosiect mawr yng Ngogledd Ynys Môn, gan ddatgloi'r cam nesaf mewn buddsoddiad o £10.4miliwn i adfywio safleoedd allweddol a chefnogi twf economaidd hirdymor yn Amlwch ac ar draws y rhanbarth.
Dan arweiniad Cyngor Sir Ynys Môn, bydd y prosiect yn adnewyddu hen Adeilad y Derfynfa Forol ym Mhorth Amlwch ac yn adeiladu deg uned fusnes yn yr Ystâd Ddiwydiannol gerllaw. Gyda'i gilydd, disgwylir i'r datblygiadau hyn gefnogi 95 o swyddi newydd, creu 2,300m² o arwynebedd llawr masnachol newydd a rhoi hwb o £33.9miliwn i economi Gogledd Cymru erbyn 2036.
Mae Prosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Ynys Môn yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru a gyflawnir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Mae'n eistedd yn benodol o fewn Rhaglen Tir ac Eiddo y Cynllun Twf, sy'n anelu at fynd i'r afael â heriau hirsefydlog yn y farchnad eiddo ranbarthol.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Rhaglen Tir ac Eiddo Uchelgais Gogledd Cymru, ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:
"Mae'r gymeradwyaeth hon yn gam sylweddol arall ymlaen i'r prosiect arbennig hwn ac i Ynys Môn – mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi cymunedau ac economïau lleol ledled y rhanbarth.
"Bydd y prosiect yn darparu mannau busnes o ansawdd uchel, yn creu cyfleoedd swyddi newydd, ac yn helpu i ddenu buddsoddiad i ardal sydd â photensial sylweddol. Rydym yn falch o gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer y prosiect sy'n golygu y gall symud ymlaen i'r cam nesaf i sicrhau cyllid, gan ddod â buddion i bobl a busnesau Ynys Môn."
Gall y prosiect nawr fwrw ymlaen gyda chaffael a chwblhau'r Cytundeb Menter ar y Cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn fel noddwr y prosiect:
"Mae hwn yn fuddsoddiad hanfodol i Amlwch ac ardal ehangach Gogledd Ynys Môn. Bydd adnewyddu Adeilad y Derfynfa Forol a chreu unedau diwydiannol newydd yn darparu gofod modern, hyblyg i fusnesau lleol dyfu a ffynnu.
"Rydym yn ddiolchgar i Uchelgais Gogledd Cymru a'n partneriaid am eu cefnogaeth, ac edrychwn ymlaen at symud ymlaen gyda'r prosiect pwysig hwn. Bydd yn chwarae rhan ganolog wrth adfywio'r economi leol a darparu buddion parhaol i'n cymunedau."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae Prosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Môn yn rhan allweddol o weledigaeth adfywio feiddgar sy’n dod yn realiti i drigolion a busnesau.
“Gyda £120m o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn trawsnewid economi’r rhanbarth.”
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin:
“Mae cynnydd yn y prosiect adfywio hwn yn newyddion gwych i Ynys Môn.
“Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud gyrru twf economaidd a chreu swyddi newydd yn brif genhadaeth i ni. Rydym yn cefnogi’r ymrwymiad hwn trwy ariannu Cynllun Twf Gogledd Cymru, rhoi arian ym mhocedi pobl, a darparu cyfleoedd ym mhob cornel o Gymru.”
Dywedodd Jamie Reed, Cyfarwyddwr Economeg Gymdeithasol yr Awdurdod Digomisiynu Niwclear:
"Rydym yn falch o adeiladu ar ymrwymiad blaenorol ein grŵp i adfywio Gogledd Ynys Môn, gan helpu nawr i wireddu’r datblygiadau trawsnewidiol. Bydd hyn yn hybu’r economi leol, yn creu cyfleoedd cyflogaeth leol, yn cadw treftadaeth ac yn cefnogi iechyd a lles.”
Amcangyfrifir bod prosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Ynys Môn yn costio £10.4m. Mae'r ffrydiau ariannu arfaethedig yn cynnwys £6.994m o Gynllun Twf Gogledd Cymru ochr yn ochr â chyllid gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn ar Awdurdod Digomisiynu Niwclear (NDA).
Ar ôl cael ei gymeradwyo, disgwylir i'r gwaith caffael drwy Bartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru ddechrau mis Ionawr 2026, gan ddisgwyl penodi contractwyr mis Mawrth 2026. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Ebrill , a'i gwblhau yng Ngwanwyn 2027.