Daeth hwb pellach i safle Gogledd Cymru fel ardal flaenllaw yn y sector ynni llanw yn ddiweddar wedi i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gymeradwyo’r achos busnes amlinellol ar gyfer prosiect Cydnerth.
Mae’r penderfyniad yn golygu y gall y prosiect symud ymlaen i ddatblygu achos busnes llawn – y cam olaf o ran sicrhau cyllid y Cynllun Twf, cyn gweithredu’r prosiect.
Mae Cydnerth yn rhan o gynllun ynni llanw Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn, sy’n cael ei reoli gan Menter Môn. Bydd y buddsoddiad newydd yn ariannu cysylltiad grid capasiti uwch, gan alluogi Morlais i gyrraedd ei gapasiti cynhyrchu posibl o 240 MW.
Yn un o saith prosiect sydd wedi’u cynnwys yn rhaglen ynni carbon isel Cynllun Twf Gogledd Cymru, mae Cydnerth yn golygu y gall Morlais weithio gyda datblygwyr dyfeisiau ynni llanw i osod rhagor o dyrbinau yn ardal Morlais. Nod yr cynllun ehangu yw creu swyddi newydd a chyfleoedd cadwyn gyflenwi i’r rhanbarth, yn ogystal â sicrhau bod yr ardal yn parhau ar flaen y gad o ran ynni llanw.
Dywedodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru:
“Mae’r cam hwn i’w groesawu ac yn golygu ein bod yn nes at fod mewn sefyllfa lle gallwn harneisio rhagor o’n hadnoddau llanw naturiol, gan drawsnewid ein rhanbarth yn ganolbwynt ar gyfer ynni cynaliadwy. Mae disgwyl i Morlais ddod a budd economaidd sylweddol, creu cyfleoedd swyddi, a chyfrannu at amcanion lleihau carbon Cymru. Trwy dechnoleg arloesol a phartneriaethau strategol, bydd Cydnerth yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol ynni llanw a chynhyrchu trydan glân.
“Mae’n bwysig bod prosiectau’n cyflawni at gyfer ein cymunedau lleol, ac yn cyfrannu at ein hymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu a’r effaith gadarnhaol y mae cyllid y Cynllun Twf yn ei chael.”
Roedd Gerallt Llywelyn Jones, cyfarwyddwr gyda Morlais, yn croesawu’r cyhoeddiad. Dywedodd:
“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Uchelgais Gogledd Cymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall yn stori Morlais.
“Fel cwmni lleol, mae sicrhau bod y prosiect o fudd i’n cymunedau wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Y weledigaeth ar gyfer Morlais erioed yw sicrhau bod potensial y sector ynni morol o ran swyddi, sgiliau, buddsoddiad a’r gadwyn gyflenwi yn cael eu gwireddu’n lleol ar gyfer Ynys Môn, ac ar draws y rhanbarth ehangach. Mae cael cymeradwyaeth achos busnes amlinellol yn hwb gwirioneddol a bydd yn gymorth i sicrhau bod Morlais yn cyrraedd ei botensial.”
Morlais yw’r cynllun ynni llanw mwyaf yn Ewrop, sydd wedi cael caniatâd. Cwblhawyd yr is-orsaf sy’n gysylltiedig â’r prosiect yn 2023, ac mae disgwyl i’r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026.
Mae achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf, ac mae pob achos busnes amlinellol yn cwmpasu cyfnod cynllunio’r prosiect ac yn nodi opsiynau sy’n sicrhau gwerth cyhoeddus yn dilyn gwerthusiadau manwl. Mae disgwyl i’r achos busnes llawn ar gyfer Cydnerth gyrraedd Bwrdd Uchelgais Economaidd yn ddiweddarach eleni er mwyn derbyn cymeradwyaeth.