Mae Gogledd Cymru am gyflymu ei drawsnewidiad digidol ar ôl i Uchelgais Gogledd Cymru gymeradwyo Achos Busnes Llawn y prosiect Di-wifr Uwch. Bydd y prosiect, sydd i'w ariannu gan Gynllun Twf Gogledd Cymru, yn cyflwyno cynllun grant cyfalaf i gefnogi buddsoddiad mewn technolegau di-wifr uwch ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus dros y pedair blynedd nesaf.

Gyda chyfanswm y gyllideb yn £18.8 miliwn, bydd y prosiect yn hybu twf economaidd, cynaliadwyedd, ac yn creu swyddi drwy annog busnesau a sefydliadau i fabwysiadu datrysiadau di-wifr arloesol. Mae'r rhain yn cynnwys rhwydweithiau preifat symudol 5G, Systemau Antena Dosranedig (DAS) 4G/5G, rhwydweithiau Wi-Fi 6/7, a rhaglenni Industry 4.0, sydd yn cyd-fynd â Strategaeth Seilwaith Di-wifr y DU. 

Mae'r fenter hon yn ffurfio rhan allweddol o Raglen Cysylltedd Digidol ehangach Uchelgais Gogledd Cymru, sy'n canolbwyntio ar gyflawni mynediad digidol, fforddiadwy o ansawdd uchel ledled y rhanbarth. Mae'n ategu prosiectau mawr eraill, megis 4G+, sy'n edrych ar signal ffonau symudol a rhwydweithiau ardal eang pŵer isel (LPWAN). 

Mae disgwyl i'r buddion economaidd fod yn sylweddol, gydag amcan o greu rhwng 315-380 o swyddi newydd a chreu rhwng £130m-£158m mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) i Ogledd Cymru erbyn 2036. Mae'r cynllun hefyd yn ceisio denu cyfanswm buddsoddiad rhwng £37m-£46m. 

quotation graphic

Meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglen Cysylltedd Digidol Uchelgais Gogledd Cymru, ac Arweinydd Cyngor Gwynedd

"Mae technolegau di-wifr uwch yn hanfodol er mwyn hybu cynhyrchedd, arloesedd a bod yn gystadleuol ar draws Gogledd Cymru. Mae cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn hwn yn golygu y gallwn nawr gefnogi sefydliadau ledled y rhanbarth i fuddsoddi mewn seilwaith digidol addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn o fantais i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus ledled Gogledd Cymru ac yn creu swyddi newydd i’r rhanbarth sy’n rhywbeth i’w groesawu." 

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:  

“Mae cymeradwyo’r buddsoddiad hwn o £18.8 miliwn yn nodi moment allweddol i ddyfodol digidol Gogledd Cymru. Bydd technolegau di-wifr uwch nid yn unig yn cryfhau cysylltedd ar draws ein trefi a’n cymunedau gwledig, ond yn datgloi cyfleoedd newydd ar gyfer arloesi a thwf economaidd. 

“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi rhaglen sy’n gosod Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran strategaeth seilwaith digidol y DU.” 

quotation graphic
quotation graphic

Meddai’r Fonesig Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru:

“Er mwyn hybu cynhyrchiant, mae’n hanfodol bod gan fusnesau a chymunedau’r seilwaith digidol cywir. 

“Mae’r buddsoddiad hwn gan Lywodraethau’r DU a Chymru drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru yn gam arall ymlaen yn ein cenhadaeth ganolog i roi hwb i dwf economaidd, creu swyddi da a datgloi cyfleoedd i bobl ledled Cymru.” 

quotation graphic

Mae'r prosiect yn adlewyrchu strategaethau Llywodraethau'r DU a Chymru sy'n hybu cysylltedd digidol er mwyn galluogi ffyniant economaidd, cynaliadwyedd a llesiant cymdeithasol. Hefyd, bydd y prosiect yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn cwrdd â thargedau Llywodraeth y DU ar gyfer band llydan gigabit a signal ffonau symudol lled band uchel ar hyd coridorau trafnidiaeth allweddol, gan gynnwys yr A55, yr A483 a'r A5. 

Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y cynllun yn cefnogi hyd at 200 o fusnesau a defnyddwyr sector cyhoeddus ledled Gogledd Cymru i fabwysiadu technolegau di-wifr uwch, er mwyn adeiladu marchnad ddigidol sy’n fwy gwydn a chystadleuol.