Mae prosiect Porth y Porthladd Rhydd, sy'n werth £19.1 miliwn, wedi cymryd cam mawr ymlaen yn dilyn cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes gan Uchelgais Gogledd Cymru.
Bydd y cynllun, sy'n rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru o dan ofal Uchelgais Gogledd Cymru, yn creu 6,700m² o arwynebedd llawr newydd at ddiben cyflogaeth, 223 o swyddi, ac yn cynhyrchu amcangyfrif o £65.4miliwn mewn gwerth economaidd erbyn 2036.
Cefnogir y prosiect gan £3.48 miliwn o gyllid y Cynllun Twf a £4 miliwn o gronfa Cyfalaf Sbarduno Porthladd Rhydd Ynys Môn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Bydd gweddill y cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei ddarparu gan y sector preifat a fydd yn datblygu adeiladau newydd ar hen safle Eastman Peboc. Nod y prosiect yw creu swyddi o safon a denu busnesau newydd i'r ynys.
Bydd y prosiect yn clirio hen safle segur Eastman Peboc ar gyrion Llangefni ac yn creu lleiniau datblygu ar y tir. Caeodd y safle yn 2008, gan arwain at golli 60 o swyddi. Mae cymeradwyo'r prosiect yn cryfhau sefyllfa noddwr y prosiect, Cyngor Sir Ynys Môn, i gaffael y safle, lle mae'n bwriadu ehangu a gwella mynediad i Barc Diwydiannol Tregarnedd.
Mae Safle Porth y Porthladd Rhydd yn rhan o Raglen Tir ac Eiddo Cynllun Twf Gogledd Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu'r farchnad eiddo yn y gogledd.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Rhaglen Tir ac Eiddo Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:
"Byddai'r cynigion hyn yn dod â'r safle hwn yn ôl i ddefnydd, gan sicrhau manteision gwirioneddol i Langefni a'r rhanbarth ehangach. Gyda chefnogaeth y Cynllun Twf, gellir adfywio'r cyn-safle diwydiannol i greu swyddi o ansawdd da. Trwy wella isadeiledd, mabwysiadu dylunio cynaliadwy, ac alinio â chynlluniau'r Porthladd Rhydd, bydd y prosiect yn cryfhau'r economi leol ac yn atgyfnerthu Ynys Môn fel lleoliad ar gyfer busnes ac arloesi."
Ychwanegodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn:
"Mae'r prosiect hwn o bwysigrwydd strategol i Ynys Môn. Mae'n cefnogi amcanion Cynllun Twf Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o hyrwyddo mewnfuddsoddiad a defnyddio ein statws Porthladd Rhydd i gynyddu'r galw am ddatblygiadau diwydiannol. Bydd ail-ddefnyddio hen safle Peboc ac ehangu Parc Diwydiannol Tregarnedd yn creu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel ac yn atgyfnerthu ein sefyllfa wrth i ni geisio cryfhau economi'r ynys."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Bydd y prosiect hwn yn adfer safle diwydiannol pwysig i'w ddefnyddio eto, gan ddarparu gwerth economaidd sylweddol i'r rhanbarth a'i drigolion.
"Gyda chefnogaeth o £120m gan Lywodraeth Cymru, bydd Cynllun Twf Gogledd Cymru yn trawsnewid economi'r rhanbarth."
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin:
"Mae'r camau tuag at gyflawni'r prosiect hanfodol hwn yn newyddion gwych i Ynys Môn. Bydd dod â'r safle hwn yn ôl i ddefnydd ar gyfer datblygu yn creu swyddi newydd ac yn annog buddsoddiad, ddaw â budd i bobl leol wrth i ni helpu i dyfu'r economi leol.
"Mae buddsoddiad gan Lywodraeth y DU drwy gynllun Twf Gogledd Cymru a Phorthladd Rhydd Ynys Môn yn fodd o ddatgloi potensial Ynys Môn, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl leol."
Mae sicrhau statws Porthladd Rhydd gan lywodraethau Cymru a'r DU wedi datgloi £25 miliwn o gyfalaf sbardun y Llywodraeth, gan ddileu'r rhwystrau i fasnach a darparu mesurau i hwyluso busnesau i weithredu.
Mae angen i bob prosiect yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru ddatblygu Achos Busnes, sy'n ffurfio rhan o broses gymeradwyo strwythuredig. Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar y safle yn 2026 a'i gwblhau yn 2027.