Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn falch o gyhoeddi bod Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae hyn yn nodi cam arwyddocaol ymlaen i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, cynaliadwy, fforddiadwy ac integredig ar draws y rhanbarth.
Wedi'i ddatblygu gan Uchelgais Gogledd Cymru – fel Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) y rhanbarth, mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, mae'r Cynllun yn amlinellu gweledigaeth feiddgar i wella cysylltedd, lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat a chefnogi twf cynhwysol.
Mae'r Cynllun yn amlinellu polisïau ac ymyriadau strategol tan 2030 ar draws gwahanol ddulliau trafnidiaeth, yn cynnwys teithio llesol. Ei nod yw sicrhau y bydd gan Ogledd Cymru rwydwaith trafnidiaeth integredig diogel, cynaliadwy, fforddiadwy, gwydn ac effeithiol – sy'n cefnogi twf economaidd, ffyniant i bawb ac yn hyrwyddo cynhwysiant a lles.
Bydd cynlluniau yn dechrau cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ym mis Ebrill 2026, gyda'r gwaith monitro ac adolygu yn cael ei arwain gan Is-bwyllgor Trafnidiaeth y CBC.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig:
"Mae hon yn foment bwysig i Ogledd Cymru. Mae'r Cynllun sydd wedi'i gymeradwyo yn adlewyrchu'r anghenion yn ein cymunedau a'r uchelgais i greu system drafnidiaeth sy'n gweithio i bawb – p'un a ydych yn cymudo, yn rhedeg busnes, yn teithio i wasanaethau hanfodol neu'n ymweld â'n rhanbarth hardd.
"Mae'r cynllun yn amlinellu'r dyheadau sy'n cyd-fynd â pholisi cenedlaethol, a amlinellwyd yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, a gweledigaeth Rhwydwaith Gogledd Cymru. Bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn darparu dull cydlynol rhanbarthol i ddatblygu gwasanaeth trafnidiaeth strategol, integredig ar gyfer y rhanbarth."
Ychwanegodd y Cynghorydd Glyn Banks, Is-gadeirydd y Pwyllgor:
"Mae cymeradwyo'r Cynllun hwn yn adlewyrchu'r ymrwymiad a rennir i gyflawni system drafnidiaeth sydd, nid yn unig yn addas ar gyfer y dyfodol, ond hefyd yn deg, gwyrdd a hygyrch. Mae hyn yn ymwneud â chysylltu pobl a llefydd mewn ffyrdd sy'n cefnogi llesiant, cyfle a chynaliadwyedd ar draws Gogledd Cymru."
Dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:
"Mae cymeradwyo’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gam mawr ymlaen ar gyfer mwy o gydweithredu ar draws ein rhanbarthau yng Nghymru. Mae Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi polisïau ar gyfer gweithredu Llwybr Newydd, ein strategaeth trafnidiaeth, gan awdurdodau trafnidiaeth leol ym mhob rhanbarth o Gymru. Byddwn yn darparu cyllid i helpu i gyflawni’r cynlluniau drwy ein Cronfa Trafnidiaeth Ranbarthol newydd. Bydd hyn yn sicrhau bod y buddsoddiad a wnawn mewn trafnidiaeth yn cael ei addasu i anghenion pob rhanbarth ac yn cael ei lywio gan y rhai sy’n adnabod y rhanbarth orau. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r pedwar rhanbarth ar y daith sydd o’n blaenau."