Ymunodd Daniel Powell, myfyriwr gradd Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor, â thîm Uchelgais Gogledd Cymru ym mis Medi 2023 ar leoliad gwaith blwyddyn wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o ddenu talent newydd i mewn i gaffael. 

Fel rhan o'n Tîm Caffael, dan arweiniad Sara Jones - Rheolwr Caffael a Gwerth Cymdeithasol, mae Daniel wedi ennill ehangder o brofiad, sgiliau a chymwysterau gwerthfawr y gwyddom y byddant yn ei helpu wrth iddo ein gadael a symud i'w flwyddyn olaf o astudio yn y brifysgol.

Dyma beth a ddywedodd Daniel am ei brofiad gyda ni:

Daniel Powell yn derbyn ei bortffolio o waith gan Sara Jones
Daniel Powell yn derbyn ei bortffolio o waith gan Sara Jones
quotation graphic

Beth ddaeth â chi i Uchelgais Gogledd Cymru a sut oeddech chi'n teimlo am ymuno â'r tîm?

"Yn wreiddiol, gwelais hysbyseb swydd Uchelgais Gogledd Cymru diolch i fy nhiwtor personol ym Mhrifysgol Bangor, ac ar ôl gwneud rhywfaint o waith ymchwil, roedd gen i ddiddordeb mawr yn y gwaith yr oedd y sefydliad hwn yn ei wneud i wella Gogledd Cymru. Pan ymunais â'r tîm i ddechrau, roeddwn yn hynod o nerfus ac yn ansicr a fyddwn i'n gallu ffitio i mewn gyda phawb, o ystyried mai dyma'r tro cyntaf i mi brofi bod yn rhan o dîm proffesiynol mawr. Yn ffodus, ar fy niwrnod cyntaf yn y swyddfa roedd pawb wnes i gyfarfod yn neis iawn, felly tawelodd hyn gryn dipyn ar fy nerfau."

Beth fu eich prif feysydd gwaith yn Uchelgais Gogledd Cymru a sut fydd y profiad hwn yn eich helpu i gwblhau eich gradd?

"Tra roeddwn i'n cael fy nghyflogi yn Uchelgais Gogledd Cymru, roeddwn fel arfer yn gweithio ochr yn ochr â Sara Jones, Rheolwr Caffael a Gwerth Cymdeithasol, roedd hyn yn golygu creu, gwirio ac adolygu dogfennau pwysig fel contractau a gwahoddiadau i dendro a fyddai'n cael eu defnyddio ar gyfer prosiectau Uchelgais Gogledd Cymru."

Beth fyddech chi'n ei ddweud rydych chi wedi'i ddysgu yn ystod eich amser gydag Uchelgais Gogledd Cymru?

"Rwy'n credu fy mod wedi dysgu llawer iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n siŵr y byddaf yn gallu ei roi ar waith mewn unrhyw yrfa rwy'n ei cheisio yn y dyfodol. Erbyn hyn mae gen i ddealltwriaeth dda o ddogfennau cytundebol; beth sydd ynddynt, sut y dylid eu hysgrifennu a'r termau a ddefnyddir mewn dogfennau o'r fath. Rwyf hefyd wedi cael cipolwg defnyddiol ar fyd caffael, y prosesau y mae sefydliadau'n mynd drwyddynt er mwyn caffael nwyddau a/neu wasanaethau, a'r ffyrdd y mae'n gweithredu drwy gydol oes contract.

Rwyf wedi ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant caffael ffurfiol i'm galluogi i ddeall a gweithio yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol yn ogystal â deddfwriaeth.  Rwyf hefyd wedi cael cipolwg ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i phwysigrwydd o fewn cadwyni caffael a chyflenwi yng Ngogledd Cymru. 

Beth sydd wedi bod yn fwyaf heriol i chi yn ystod y flwyddyn?

"Er mawr syndod i mi, gwelais mai'r cam mwyaf heriol yn fy mlwyddyn ar leoliad oedd y cyfnod cychwynnol lle roedd popeth o'm cwmpas yn hollol newydd i mi; yr awyrgylch, y bobl, y gwaith a hyd yn oed yr oriau. Yn ffodus, mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi ymrwymo i les gweithwyr ac felly maent wedi mabwysiadu dull hybrid o weithio, a olygai fy mod yn mynd i mewn i'r swyddfa ddwywaith yr wythnos. Fe wnaeth hyn fy helpu i symud yn araf i'r tîm ar fy nghyflymder fy hun, gan fy ngalluogi i oresgyn fy mhryderon fel gweithiwr newydd yn gynt nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl."

Beth fyddech chi'n ei ddweud oedd eich uchafbwynt yn ystod y flwyddyn?

"Byddwn i'n dweud mai uchafbwynt fy mlwyddyn oedd pan wnaethon ni, fel tîm, gymryd rhan yn nigwyddiad tîm y 5 Ymddygiad. Fe ddysgodd wybodaeth werthfawr iawn i mi am sut mae gwahanol fathau o bobl yn gweithredu o fewn amgylchedd gwaith, yn ogystal â deall fy ffordd fy hun o weithredu o fewn awyrgylch o'r fath. Credaf y bydd y wybodaeth hon yn bendant yn hanfodol i'm gyrfa yn y dyfodol agos."

Beth fu'r peth gorau am fod yn Uchelgais Gogledd Cymru y flwyddyn ddiwethaf?

"Y peth gorau yn fy marn i o fod yn Uchelgais Gogledd Cymru oedd teimlo fy mod i'n rhan o'r tîm mewn gwirionedd. Tîm y Swyddfa Rheoli Portffolio yn Uchelgais Gogledd Cymru yw rhai o'r bobl neisiaf rwyf wedi cwrdd â nhw ac fe wnaethant fy nghroesawu i'r gwaith gyda breichiau agored. Roedd yn gysur mawr profi hyn, yn enwedig o fewn yr ychydig wythnosau cyntaf o fynd i mewn i'r byd newydd hwn nad oeddwn eto wedi ei archwilio. Mae ymdeimlad mawr o gymuned gan y tîm hwn, boed hynny yn ystod oriau gwaith rheolaidd, cyfarfod tîm, neu tu allan i'r gwaith, mi fyddaf yn colli bod yn rhan ohono."

A oes unrhyw beth nad oeddech yn ei hoffi?

"Roedd adegau yn ystod fy nghyfnod yn Uchelgais Gogledd Cymru lle byddwn yn teimlo'n lletchwith gyda'r gwaith a ddarparwyd i mi, yn ogystal â'r dyddiadau cau oedd wedi’u gosod, gan mai dyma'r tro cyntaf i mi wneud tasgau o'r fath. Fodd bynnag, diflannodd y teimlad yma'n gyflym wrth i fy rheolwr llinell fy helpu i amserlennu fy ngwaith a deall pwysigrwydd strwythur wrth weithio mewn sefydliad gyda therfynau amser. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cymorth hwn a byddaf yn sicr o barhau i ddefnyddio'r hyn rwyf wedi'i ddysgu yn y dyfodol."

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth unrhyw un arall sy'n ystyried mynd at Uchelgais Gogledd Cymru ar gyfer lleoliad gwaith?

"Y cwbl fyddwn i'n ei wneud fyddai argymell y sefydliad anhygoel hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector cyhoeddus, gan ei fod wedi dysgu cymaint i mi mewn ychydig llai na blwyddyn ac nid wyf wedi difaru fy newis i wneud cais am eiliad. Mae'r gwaith y mae Uchelgais Gogledd Cymru yn ei wneud, wedi'i wneud, ac mae'n bwriadu ei wneud yn rhyfeddol. Mae'r bobl y tu ôl i'r gwaith hwnnw yr un mor rhagorol ac mae gennyf y parch pennaf iddynt - gan eu bod yn gweithio'n glos gyda'i gilydd fel tîm trefnus i roi yn ôl i Ogledd Cymru yn y ffyrdd gorau posibl."

quotation graphic
quotation graphic

Mae Sara Jones, Rheolwr Caffael a Gwerth Cymdeithasol - rheolwr Daniel yn ystod y lleoliad wedi gweld twf cadarnhaol iawn yn Daniel yn bersonol ac yn broffesiynol dros y flwyddyn ddiwethaf, a dywedodd:

"Mae Dan wedi datblygu cymaint o sgiliau ac wedi tyfu fel person ers dechrau gyda ni. Mae wedi mynd i'r afael â phob her yn uniongyrchol ac wedi gweithio trwyddynt mewn ffordd sydd wedi gwella ei ddealltwriaeth a'i ddysg. Mae wedi fy ngalluogi i ddysgu llawer amdanaf fy hun fel rheolwr - ynghylch y ffordd orau o gefnogi rhywun newydd i'r proffesiwn caffael mewn ffordd sy'n gyffrous ac yn ddiddorol. Mae Dan wedi cwblhau astudiaeth / prosiect diddorol iawn ar y defnydd o AI mewn caffael a gobeithiwn y gallwn barhau â'r gwaith hwn i ddatblygu ein systemau a'n prosesau pan fydd yn gadael."

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rwy'n teimlo bod Dan ac Uchelgais Gogledd Cymru wedi elwa o'r cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant. Mae gallu cael safbwyntiau gan berson ifanc sydd yng nghanol eu taith drwy addysg bellach wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi ychwanegu cyfoeth at amrywiaeth ein tîm Swyddfa Rheoli Portffolio. Mae Dan yn ein gadael yn amlwg wedi gwella ei sgiliau, o ran ei hyder, ei allu i droi ei law at ddogfennaeth gaffael gymhleth, ei sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu - yn ysgrifenedig ac ar lafar, a hefyd y ddealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r contract seicolegol hwnnw sy’n cael ei ffurfio rhwng gweithiwr a chyflogwr yn yr amgylchedd gwaith. Byddwn yn annog Dan i barhau i adeiladu ar ei hyder ac ystyried sut y gall ddefnyddio'r sgiliau proffesiynol y mae wedi'u hennill trwy weithio'n agos gyda Sara, Nia a chydweithwyr allweddol eraill yn ein tîm, i'w helpu i ddiffinio llwybr gyrfa a fydd yn foddhaus ac yn rhoi boddhad iddo ar lefel bersonol a phroffesiynol.

Rydym yn dymuno'r gorau i Dan ar ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor ac roeddem eisiau mynegi ein diolch am ei gadernid a'i ddycnwch yn yr hyn sydd fwy na thebyg wedi teimlo fel blwyddyn heriol ar adegau iddo."

quotation graphic

Pob lwc Dan!