Cyflwynwyd menter Defaid Llaeth Cymru mewn digwyddiad bwrdd crwn i randdeiliaid lefel uchel yn ddiweddar. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddod â llunwyr polisïau a chyllidwyr ynghyd i archwilio cyfleoedd ar gyfer datblygu sector defaid llaeth cynaliadwy yng Nghymru.
Fel rhan o Hwb Economi Wledig ehangach Glynllifon, mae Grŵp Llandrillo Menai yn croesawu buddsoddiad gwerth £4.7 miliwn i sefydlu canolfan arloesi bwrpasol i brosesu llaeth defaid.
Wedi'i gefnogi gan fuddsoddiad o £3.5m gan Cynllun Twf Gogledd Cymru, a ariennir ar y cyd gan lywodraethau'r DU a Chymru, ynghyd â £1m arall gan Lywodraeth Cymru a £200k gan Grŵp Llandrillo Menai, bydd y prosiect yn darparu cyfleuster o'r radd flaenaf ar gampws Glynllifon ger Caernarfon. Bydd y ganolfan yn cefnogi godro defaid mewn modd cynaliadwy, datblygu cynnyrch, hyfforddiant sgiliau a datblygu mentrau, gan helpu i adeiladu economi wledig wydn ar gyfer y dyfodol.
Wrth i'r galw am gynhyrchion llaeth defaid barhau i gynyddu ar draws y byd, nod y prosiect yw sicrhau bod gan ogledd Cymru le blaenllaw yn y sector wrth iddo ddatblygu, a mynd i'r afael â bylchau presennol mewn seilwaith ar gyfer ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio.
Mae Defaid Llaeth Cymru yn un o bedair elfen allweddol Hwb Economi Wledig Glynllifon, sy'n rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £19.2 miliwn a gefnogir drwy Cynllun Twf Gogledd Cymru a gyflwynir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Mae'r Hwb wedi'i gynllunio i ryddhau potensial economaidd ardaloedd gwledig drwy arloesi, cynaliadwyedd ac arallgyfeirio. Mae elfennau eraill yn cynnwys Datblygu Diwydiant Llaeth Cynaliadwy a Chanolfan Wybodaeth, gyda thechnoleg amaethyddol yn chwarae rhan ganolog yn y rhaglen.
Drwy greu canolfan ragoriaeth yng Nglynllifon, bydd y prosiect yn helpu i arallgyfeirio incwm ffermydd, yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr, ac yn cryfhau safle gogledd Cymru mewn marchnad sy'n tyfu ar gyfer cynhyrchion llaeth defaid premiwm o ansawdd uchel. Bydd y fenter llaeth defaid yn anelu at greu 42 o swyddi newydd, yn cydweithio ag o leiaf 80 o fusnesau, yn darparu 185 o gyfleoedd hyfforddi a yn cynhyrchu Gwerth Ychwanegol Gros o £10-£20m.
Dywedodd Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol Busnes@LlandrilloMenai:
“Mae Defaid Llaeth Cymru yn nodi cam sylweddol ymlaen i economi wledig gogledd Cymru. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â mwy na seilwaith – mae'n ymwneud â chreu cyfleoedd newydd i ffermwyr, cefnogi arloesedd, a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu sector llaeth defaid cynaliadwy a chystadleuol. Drwy ddod ag addysg, ymchwil a diwydiant ynghyd yng Nglynllifon, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer twf, gwydnwch ac arallgyfeirio hirdymor ar draws ein cymunedau gwledig.”
Meddai'r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Arweiniol Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth y Cynllun Twf, Uchelgais Gogledd Cymru:
“Sefydlwyd Cynllun Twf Gogledd Cymru i gefnogi diwydiannau rhanbarthol allweddol, fel amaethyddiaeth. Mae buddsoddiad Defaid Llaeth Cymru yn enghraifft o’r genhadaeth hon — gan sicrhau bod gogledd Cymru yn arwain y ffordd yn fyd-eang mewn cynhyrchu llaeth defaid mewn modd cynaliadwy a chreu swyddi o ansawdd uchel ar draws cymunedau gwledig.
Ychwanegodd Huw Irranca Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
“Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i feddwl yn wahanol am ffermio defaid ac i gadw teuluoedd ffermio ar y tir drwy greu dyfodol cynaliadwy i ffermio yng Nghymru.
"Gan fod yr hinsawdd yng Nghymru yn parhau'n ffafriol ar gyfer cynhyrchu llaeth defaid, a chan fod y galw'n tyfu wrth i'r cynnyrch mewn mannau eraill yn Ewrop ostwng, mae'r cyfle o'n blaenau'n glir."
"Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gefnogi datblygiad sector defaid llaeth. Drwy gydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi, gallwn greu diwydiant llaeth defaid yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth, cynaliadwyedd ac ansawdd."
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin:
“Bydd prosiect Defaid Llaeth Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth y DU, yn helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant ffermio yng ngogledd Cymru drwy fanteisio ar y galw byd-eang cynyddol am gynhyrchion llaeth defaid.
“Drwy weithio gyda’n partneriaid rydym yn helpu i dyfu’r economi yng ngogledd Cymru drwy greu swyddi a chyfleoedd i bobl leol.”
Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad gwerth £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.