-
Alwen Williams Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru
Mae deallusrwydd artiffisial eisoes yn trawsffurfio economïau ar draws y byd – ac yng Ngogledd Cymru, mae gennym wir botensial i fod yn rhan o'r stori honno. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni stopio edrych yn fewnol a dechrau gwneud yr achos am yr hyn sydd gan y rhanbarth hwn i'w gynnig.
Mewn nifer o ffyrdd, rydym mewn safle cryf. Mae gennym glwstwr o fusnesau gweithgynhyrchu uwch sy'n tyfu yn y gogledd-ddwyrain, cyfle enfawr gydag ynni carbon-isel, ac isadeiledd digidol cryf sydd mewn nifer o achosion yn well na'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Llundain neu'r de-ddwyrain. Mae gennym hefyd sylfaen gynyddol o entrepreneuriaid, ymchwilwyr a phobl newydd, yn benodol o amgylch llefydd fel M-SParc.
Yr hyn na fu gennym hyd yma yw cynllun cyfunol ar gyfer mynd â’r cryfderau hyn allan i'r byd.
Yn rhy aml, mae buddsoddwyr ond yn clywed amdanom ni os ydynt eisoes mewn cyswllt â'r llywodraeth neu’n chwilio am wasanaeth penodol. Nid yw hynny'n ddigon. Mae nifer o fusnesau, buddsoddwyr a chydweithredwyr eraill a fyddai gan ddiddordeb yn yr hyn sydd gan ogledd Cymru i'w gynnig – pe baent yn gwybod amdano.
Dyna pam y credaf fod angen i ni ddatblygu dull ar y cyd. Cynllun sy'n dod ag Uchelgais Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac eraill at ei gilydd i osod ein cynnig yn glir, a sut byddwn yn mynd ag ef i'r farchnad.
Nid yw hyn ar gyfer denu buddsoddiad yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â chreu'r amodau cywir i fusnesau lleol ffynnu, ac i bobl dalentog aros ac adeiladu gyrfaoedd yn y rhanbarth. Rydym yn gwybod bod risg o golli arbenigedd – rydym eisoes wedi gweld pobl yn cael eu denu i lefydd eraill i weithio. Fodd bynnag, pe byddem yn creu'r cyfleoedd cywir yma, mae pob cyfle y gallwn gadw'r talent hwnnw a denu mwy.
Mae edrych at allan hefyd yn golygu dysgu o lefydd eraill. Yn ystod ymweliad i MIT yn Boston rai blynyddoedd yn ôl, cefais fy synnu gan y ffordd yr oedd ymchwil academaidd, entrepreneuriaeth a buddsoddiad masnachol yn bodoli ochr yn ochr. Dylai'r math hyn o integreiddio fod yn uchelgais gennym ni.
Wrth gwrs, nid oes modd i ni wneud popeth ar unwaith. Ond, gallwn fod yn glir ar sut yr ydym eisiau cael ein adnabod. I mi, mae gweithgynhyrchu gwerth uchel ac ynni carbon-isel yn ddau faes amlwg o gryfder, a gyda'r gefnogaeth ac isadeiledd cywir, gallwn adeiladu clystyrau sydd o bwysigrwydd byd-eang yn y ddau faes.
Mae hefyd angen i ni gefnogi'r sefydliadau sy'n helpu i ddod â'r ecosystem at ei gilydd. O gefnogaeth cysylltiedig (spin-out) i fentora, o ddatblygu sgiliau i ymgysylltu â buddsoddwyr, nid tasg ar gyfer un sefydliad yn unig yw hon. Ond, drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud cynnydd go iawn.
Felly, mae'r neges yn glir. Mae gan ogledd Cymru y cynhwysion cywir. Dyma'r amser i ddweud y stori honno i'r byd – a'i chefnogi drwy weithredu.