Gall teithio o amgylch Gogledd Cymru fod yn her. Fel rhanbarth wledig gyda rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd yn aml o dan bwysau, nid oes llawer o amheuaeth bod angen gwella trafnidiaeth a chysylltedd lleol. Heddiw, mae ymgynghoriad cyhoeddus 12-wythnos yn cael ei lansio, sy’n rhoi’r cyfle i breswylwyr, busnesau, ac ymwelwyr siapio dyfodol teithio yn y rhanbarth.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru, sydd hefyd yn gwasanaethu fel Cyd-Bwyllgor Corfforedig y rhanbarth – gyda chyfrifoldeb dros gynllunio trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir strategol a gwella lles economaidd, yn gwahodd adborth ar gynllun drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae'r ddogfen yn nodi polisïau ac ymyriadau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gwmpasu pob dull o deithio, gan gynnwys rheilffordd, ffyrdd, bws, cerdded a beicio, gyda’r nod o ddarparu gwell opsiynau teithio, gwella cysylltedd digidol, a lleihau effeithiau amgylcheddol.
Mae'r ymgynghoriad yn cynrychioli ymdrechion ac arbenigedd Cyd-Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, ei Is-bwyllgor Trafnidiaeth a'i bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth:
"Mae hwn yn gyfle i bobl ddweud wrthym beth sy'n bwysig iddyn nhw a sut y gallwn ni wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Mae systemau trafnidiaeth effeithiol yn cysylltu pobl â gwasanaethau hanfodol, yn cysylltu busnesau â gweithwyr a chwsmeriaid, ac yn cefnogi economi ffyniannus. Rwy'n annog preswylwyr i gymryd rhan a dweud eu dweud."
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Is-gadeirydd y Pwyllgor y canlynol:
"Mae cysylltiadau trafnidiaeth dda yn hanfodol i'n cymunedau. Maen nhw’n lleihau unigedd mewn ardaloedd gwledig, yn gwella mynediad at wasanaethau fel gofal iechyd ac addysg, ac yn rhoi hwb i economïau lleol drwy ddenu ymwelwyr a chefnogi busnesau bach. Dyna pam rydyn ni’n awyddus i gael cymaint o fewnbwn â phosibl fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i greu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n gweithio i bawb ar draws y rhanbarth."
Nod y cynllun yw llunio polisi a buddsoddiad trafnidiaeth hyd at 2030, gan ddisodli cynlluniau trafnidiaeth leol presennol er mwyn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol. Mae'n cael ei ystyried yn hanfodol i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cwrdd â heriau economaidd yn y dyfodol, yn cefnogi teithio cynaliadwy, ac yn cyfrannu at amcanion hinsawdd.
Gweld ac ymateb ar-lein
Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg tan 14 Ebrill 2025 – gyda chais i drigolion Gogledd Cymru i beidio â cholli'r cyfle i ddylanwadu ar ddyfodol trafnidiaeth yn y rhanbarth drwy ymweld â'n Hystafell Ymgysylltu Rithwir: