⭐Byddwn ar y Maes⭐
Dydd Iau 7fed a dydd Gwener 8fed Awst
Cwt 8, Pentref Wrecsam
Dewch i ddweud helo!
👉Ymunwch â'n 'helfa sticeri'
👉Darganfyddwch ein jig-so a'n gemau hwyliog
Dysgwch am ein gwaith a'n prosiectau gan gynnwys:
👉y Gronfa Ynni Glân
👉y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
👉Portal Sgiliau Gogledd Cymru
👉llawer mwy
⭐Trafodaeth Banel⭐
2:00-2:45pm, Dydd Gwener, 8 Awst, safle Prifysgol Wrecsam, Maes D
Subject - The Enterprise Engineering and Optics Centre - and the opportunities this creates for young people in North Wales.
Ar y cyd gyda Phrifysgol Wrecsam rydym yn cynnal y drafodaeth hon, gan ganolbwyntio ar ein prosiect adeiladu cyntaf ein Cynllun Twf - y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter newydd. Bydd y datblygiad arloesol hwn yn annog twf economaidd ac yn creu cyfleoedd gyrfa gyffrous sy'n ysbrydoli pobl ifanc i adeiladu eu dyfodol yn y rhanbarth. Bydd y datblygiad yn hwb hanfodol i sector Gweithgynhyrchu Uwch y rhanbarth - gan gefnogi cyflogwyr lleol a grymuso'r genhedlaeth nesaf gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Panel:
👉Gwesteiwr: Alwyn Jones, Prif Weithredwr Dros Dro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
👉Ethan Edwards, Darlithydd mewn Peirianneg, Prifysgol Wrecsam
👉Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen - Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch, Uchelgais Gogledd Cymru
👉Cath Morris-Roberts, Uwch Swyddog Cyflawni Sgiliau, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
👉Arwel Staples, Ymgynghorydd Caffael, Prifysgol Wrecsam
Please note that entry ticket to the Eisteddfod site is not included.