Fe wnaeth ymwelwyr â'r Eisteddfod Genedlaethol eleni, a gynhaliwyd yn Is-y-coed, Wrecsam, rhwng 2il a’r 9fed o Awst 2025, elwa o gysylltedd symudol gwell diolch i gydweithrediad Uchelgais Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop ac mae'n ddathliad allweddol o'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig. Gan ddenu hyd at 170,000 o ymwelwyr a llawer o fasnachwyr bob blwyddyn, mae rhwydweithiau symudol yn wynebu cynnydd sylweddol mewn galw, a all arwain at ryngrwyd arafach, amharu ar alwadau, anhawster wrth gyrchu apiau, neu broblemau gwneud taliadau â cherdyn.
O ystyried yr heriau posibl, cyn yr ŵyl, fe wnaeth Uchelgais Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam weithio'n uniongyrchol gyda Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol i dynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaeth symudol dibynadwy yn y digwyddiad. Rhoddodd VodafoneThree, O2 ac EE welliannau dros dro yn eu lle i roi hwb i'r capasiti ar draws y safle, gan helpu ymwelwyr i wneud galwadau, rhannu lluniau, cyrchu'r rhyngrwyd yn haws, a defnyddio ap swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol i wirio amserlenni, canlyniadau, a gwybodaeth arall am ddigwyddiadau.
Defnyddiodd VodafoneThree ôl-gerbyd dros dro.
A elwir yn 'Cell on Wheels' (COW), darparodd yr ôl-gerbyd wasanaeth 2G, 4G a 5G trwy gydol y digwyddiad gyda'r diwrnodau prysuraf ar ddydd Gwener 8fed a dydd Sadwrn 9fed Awst.
O ganlyniad, roedd cwsmeriaid Vodafone yn yr ŵyl wedi:
- gwneud mwy na 170,000 o alwadau llais
- defnyddio tua 14 terabytes o ddata – digon i ffrydio dros 112,000 awr o gerddoriaeth o ansawdd uchel
- gweld cyflymderau lawrlwytho yn cyrraedd 136 Mbps ar Vodafone 5G – digon cyflym i uwchlwytho fideo o berfformiad mewn eiliadau
- Wedi mwynhau signal 4G a 5G cryf, cyflym a dibynadwy gan Vodafone trwy gydol y digwyddiad
-
Mast Dros Dro VodafoneThree
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd y mast yn cefnogi cwsmeriaid Vodafone ac O2.
Fe wnaeth O2 gefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol eleni hefyd drwy ddarparu capasiti rhwydwaith ychwanegol drwy ddefnyddio 'Cell on Wheels' Vodafone, diolch i gytundeb rhannu rhwydwaith rhwng y ddau weithredwr.
Fe wnaeth ymwelwyr elwa o hyn mewn sawl ffordd dros yr wythnos. Ar gyfer cwsmeriaid O2, fe wnaeth defnydd o'r un mast arwain at:
- 1995 o alwadau llais
- Ychydig dros 12.5 terabytes o ddata yn cael ei ddefnyddio yn ystod yr wythnos – sy'n cyfateb i gefnogi cannoedd o fasnachwyr ac ymwelwyr i gael mynediad at apiau, gwneud taliadau, a chadw mewn cysylltiad ar draws y maes.
-
Fe roddodd EE hwb i'w wasanaeth hefyd drwy sefydlu rhwydwaith dros dro i gryfhau'r gwasanaeth i'w gwsmeriaid.
Fe wnaeth mast dros dro EE (llun i'r chwith), sicrhau y canlynol dros yr wythnos:
- 233,588 o alwadau llais yn cael eu gwneud. Tua 29 terabytes o ddata yn cael ei ddefnyddio (wedi'i rannu rhwng 21TB ar 4G a 7.5TB ar 5G) - sy'n cyfateb i filiynau o negeseuon WhatsApp a negeseuon cyfryngau cymdeithasol neu alwadau fideo i gartref dros filoedd o oriau.
- Cyflymderau lawrlwytho 4G ar gyfartaledd yn 31 Mbps, gan gadw ymwelwyr mewn cysylltiad ar gyfer ffrydio, rhannu, a darganfod eu ffordd o amgylch yr ŵyl.
- y rhwydwaith dros dro yn aros ar-lein ac ar gael 100% o'r amser, gan roi gwasanaeth dibynadwy i ymwelwyr p'un a oeddent yn y pafiliynau neu yn yr awyr agored.
Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer gwell cysylltedd
Mae'r gwelliannau hyn yn tynnu sylw at werth cydweithio ac ymgysylltu a sut, drwy weithio'n uniongyrchol gyda Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn helpu i sicrhau bod cymunedau a digwyddiadau mawr yn y rhanbarth yn gallu cadw mewn cysylltiad.
Mae gweithio'n agos gyda diwydiant yn rhan allweddol o Raglen Cysylltedd Digidol Uchelgais Gogledd Cymru, sy'n canolbwyntio ar ddarparu mynediad digidol o ansawdd uchel ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys cyflawni prosiectau mawr fel 4G+, sy'n targedu gwelliannau i gysylltedd symudol mewn safleoedd economaidd allweddol yng Ngogledd Cymru, megis llwybrau trafnidiaeth, busnesau a chanolfannau twristiaeth. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn enghraifft wych o'r dull hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:
“Rwy'n falch bod Wrecsam wedi bod yn gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae'n ddigwyddiad hynod arwyddocaol i Gymru gyfan ac roedd yn wych gweld yr ŵyl mor llwyddiannus yma yn y gogledd. Drwy weithio gyda gweithredwyr rhwydwaith symudol, roeddem yn gallu sicrhau bod pawb yn elwa o well cysylltedd – gan ychwanegu'n gadarnhaol at eu profiad fel ymwelwyr.”
Meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Arweiniol Rhaglen Cysylltedd Digidol Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad arbennig sy’n dathlu ein diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg. Yn ystod yr ŵyl byddwn yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae’n holl bwysig fod ymwelwyr, cystadleuwyr a masnachwyr yn gallu ymgysylltu, mwynhau a rhannu’r profiad yn llawn, o bell neu’n agos. Drwy gydweithio gyda gweithredwyr rhwydwaith symudol fel rhan o'r Rhaglen Cysylltedd Digidol, bu'n bosib i ni wella cysylltedd a gwasanaethau digidol ar draws y safle i bawb.”
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol:
“Mae gallu defnyddio ffonau symudol yn hollbwysig mewn gŵyl o faint ac arwyddocâd yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r profiad digidol – o rannu atgofion arbennig ar gyfryngau cymdeithasol, gwirio amserlenni ar yr ap swyddogol, gwneud taliadau, hyd yn oed cysylltu â ffrindiau ar y maes – yn rhan annatod o brofiad yr ŵyl heddiw. Rydym yn falch iawn o’r cydweithio gwnaeth sicrhau cysylltedd dibynadwy i’n hymwelwyr eleni.”