Darn barn gan Reolwr Rhaglen Cynllun Twf, Robyn Lovelock
Mae'r sectorau bwyd a ffermio wrth wraidd ein bywydau a'n diwylliant yma yng Ngogledd Cymru. Maen nhw'n elfen ganolog o'n heconomi, yn sylfaen i'r Gymraeg, ac yn gyrru elfen allweddol o'n cyfoeth allforio.
Ond nid yw’r sector hwn wedi wynebu cymaint o newid ar yr un pryd erioed o’r blaen. Yr unig sicrwydd ar gyfer y dyfodol yw mwy o newid a mwy o gymhlethdod. Mae newid gwleidyddol, economaidd, technolegol, cymdeithasol ac amgylcheddol i gyd yn bwydo i mewn i'w gilydd gan greu heriau. Ond hefyd fe ddaw hyn a chyfleoedd.
Mae Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru Cynhadledd 2023 Conference – CGFFfC 2022 WRFFC yn dod i Ogledd Cymru am y tro cyntaf eleni, wedi ei gynnal gan Goleg Cambria Llysfasi - coleg amaethyddol pwysig i'r rhanbarth. Mae'r Gynhadledd yn dwyn ynghyd ffermwyr a busnesau bwyd gyda grwpiau ac unigolion sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, caffael ac addysg bwyd, sofraniaeth bwyd a chyfiawnder cymdeithasol – gan gwmpasu'r holl sbectrwm o’r ffarm i’r fforc. Mae’r digwyddiad wedi tyfu dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae bellach yn denu hyd at 400 o fynychwyr, ac yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i integreiddio'r traddodiadol â'r blaengar, yr uchelgeisiol gydag ymarferoldeb allweddol – y cyfan yn drafodaeth bwysig yn ystod y cyfnod cymhleth hwn.
Fel Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth Uchelgais Gogledd Cymru, byddaf yn arwain sesiwn gyda rhanddeiliaid allweddol y Cynllun Twf, yn edrych ar sut mae sefydliadau dysgu ledled Cymru yn newid datblygiad a darpariaeth eu cyrsiau yng nghanol yr holl newid hwn. Yn ymuno â fi fydd panel yn cynrychioli Coleg Cambria Llysfasi, Coleg Amaethyddol Glynllifon, Canolfan Tir Glas, Black Mountains College a Cyswllt Ffermio.
Beth fydd ar yr agenda felly?
Byddwn yn agor gyda thechnoleg. Lansiwyd tractor ymreolaethol cyntaf Cymru yng Ngogledd Cymru y mis hwn, ac mae ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yma ar flaen y gad o ran cydbwyso buddsoddiadau mewn technoleg yn erbyn gwerth a sgiliau arbenigwyr dynol. Bydd y panelwyr yn trafod sut maen nhw’n mynd i'r afael â'r cydbwysedd hwn o arloesi ac addewidion effeithlonrwydd, ochr yn ochr â'r risg o golli sgiliau pobl a phrofiad llawr gwlad o'n tirweddau sydd wedi'u mireinio dros genedlaethau.
Byddwn hefyd yn edrych ar yr elfen wleidyddol. P'un a ydym yn ei hoffi ai peidio, mae dynameg wleidyddol yn llunio penderfyniadau y bydd angen i'n gweithlu bwyd a ffermio yn y dyfodol fynd i'r afael â nhw. Cododd cost gynyddol gwrtaith yn 2022 oherwydd y rhyfel yn Wcráin gwestiynau pwysig am opsiynau ffermio mewnbwn isel; ac mae Brexit a bargeinion masnach dilynol wedi arwain at newidiadau mewn patrymau mewnforio ac allforio, yn ogystal â newidiadau i argaeledd gweithwyr amaethyddol rheng flaen.
Trydydd maes fydd yn cael sylw fydd tueddiadau cymdeithasol - tra bod cenedlaethau iau yn fwy tebygol o ddewis prydau heb gig na chenedlaethau hŷn, maen nhw hefyd yn llai tebygol o fod eisiau tyfu llysiau eu hunain ac mae cofrestriadau ar gyfer cyrsiau garddwriaeth coleg wedi arafu a hyd yn oed wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gyda'r DU yn dibynnu ar fewnforion o dros 70% o'i ffrwythau a'i llysiau a bron i 30% o'i chig, bydd panelwyr yn ystyried sut mae sefydliadau yn ymgorffori'r ystyriaethau gwleidyddol a chymdeithasol hyn yn eu cynlluniau a faint o gyfrifoldeb y gall sefydliadau addysg ei gymryd ar gyfer llunio tueddiadau, yn ogystal ag ymateb iddynt.
Yn olaf, ac yn hollbwysig, bydd trafodaeth ar newid hinsawdd. Mae'r sylw wedi bod ar amaethyddiaeth a thir am ei gyfraniad i broffil allyriadau Cymru ac am ei rôl yn y broses o atafaeliad. Mae rhagamcanion diweddar y Comisiwn Hinsawdd yn dangos y bydd sectorau bwyd a ffermio yn dod yn allyryddion domestig mwyaf nwyon tŷ gwydr (GHG) erbyn tua 2035, gydag allyriadau amaethyddol yng Nghymru yn parhau i godi. Wrth i ni gydbwyso datgarboneiddio â'r angen i hybu bioamrywiaeth, bydd angen ystod eang o sgiliau ar weithlu'r dyfodol yn ychwanegol i dechnegoldeb cynhyrchu bwyd, boed dda byw neu arddwriaeth. Gyda ffrydiau ariannu'r llywodraeth yn symud i ddarparu 'nwyddau cyhoeddus' a chwaraewyr mawr y sector bwyd fel Nestle yn ymrwymo i 50% o amaethyddiaeth adfywiol erbyn 2030, byddwn yn trafod sut mae ein partneriaid yn cefnogi dysgwyr i reoli newidiadau mor sylweddol.
Bydd llawer i'w gynnwys mewn sesiwn fer, ond heb os, dim ond hadau ar gyfer trafodaethau a fydd yn dod drwy rannau eraill o'r gynhadledd a - gobeithio - i drafodaethau ehangach yn y sector.