Bydd cryfhau rhwydweithiau symudol a mynd i'r afael â heriau cyfathrebu digidol ar frig yr agenda ar gyfer Fforwm Telathrebu Rhanbarthol Gogledd Cymru a lansiwyd yn ddiweddar. Cynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr, gan nodi carreg filltir gadarnhaol mewn ymdrechion i wella cysylltedd a hyrwyddo trawsnewidiad digidol y rhanbarth. 

Mae'r fforwm newydd yn dod ag awdurdodau lleol, llywodraeth, arweinwyr diwydiant, gwasanaethau brys, gweithredwyr telathrebu a thrafnidiaeth, a Pharc Cenedlaethol Eryri at ei gilydd i helpu i lunio dyfodol seilwaith symudol a band eang yng ngogledd Cymru. Ei nod yw cael gwared ar rwystrau buddsoddi, hwyluso prosesau cynllunio a symleiddio ymgysylltu â diwydiant i wneud y mwyaf o effaith cyllid o'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn y pen draw, y nod yw gwneud gogledd Cymru yn gyrchfan fwy deniadol ar gyfer buddsoddiad digidol. 

Cadeiriwyd y sesiwn gyntaf gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, a rannodd ei gweledigaeth ar gyfer y rôl y byddai'r sefydliad – fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth – yn ei chwarae wrth gefnogi'r Fforwm a hyrwyddo'r diwydiant symudol. Rhoddwyd cipolwg i'r aelodau hefyd ar Gynllun Datblygu Strategol Gogledd Cymru dros 25 mlynedd a sut y bydd yn cefnogi polisi cynllunio cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Lleol, gan dynnu sylw at gyfleoedd i ddiwydiant ymgysylltu â datblygiadau mawr ledled y rhanbarth. 

quotation graphic

Meddai Alwen Williams:

"Mae gwella cysylltedd digidol yn hanfodol i ffyniant gogledd Cymru yn y dyfodol. Mae'r Fforwm hwn yn gyfle i bartneriaid cyhoeddus a phreifat weithio gyda'i gilydd, cael gwared ar rwystrau, a chyflymu buddsoddiad yn y seilwaith sydd ei angen ar ein cymunedau a'n busnesau i ffynnu a chadw mewn cysylltiad." 

quotation graphic

Mae'r fenter yn rhan o Raglen Cysylltedd Digidol Cynllun Twf Gogledd Cymru yn ehangach, sy'n canolbwyntio ar ddarparu mynediad digidol safonol a fforddiadwy ar draws y rhanbarth. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â phrosiectau mawr eraill y Cynllun Twf, gan gynnwys Safleoedd Allweddol Cysylltiedig, sy'n mynd i'r afael â signalau symudol a rhwydweithiau ardal eang pŵer isel, yn enwedig mewn ardaloedd o bwysigrwydd economaidd strategol. 

quotation graphic

Meddai Niall Waller, Rheolwr Gwasanaeth - Arloesi ac Adfywio, Cyngor Sir y Fflint ac Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer prosiect Uchelgais Gogledd Cymru 4G+:

"Mae ein cydweithrediad ag Uchelgais Gogledd Cymru a phartneriaid mewn diwydiant eisoes wedi cyflawni canlyniadau gwirioneddol, gan gynnwys buddsoddiad preifat drwy ddefnyddio celloedd bach yn Sir y Fflint. Roedd y Fforwm Telathrebu cyntaf yn gyfarfod cyffrous ac yn gyfle i adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan sicrhau bod yr ymdrechion hyn o fudd nid yn unig i Sir y Fflint ond i ranbarth ehangach gogledd Cymru gan wella cysylltedd, cefnogi twf economaidd, a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau a chymunedau." 

quotation graphic

Bydd y Fforwm yn dod at ei gilydd bob chwarter, gyda'r cyfarfod cyntaf hwn yn nodi dechrau rhaglen waith gydgysylltiedig, gyda chynlluniau i wella darpariaeth symudol a chyflymu cyflwyno 4G a 5G ledled gogledd Cymru. Disgwylir i sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat gyfrannu at y broses hon, fydd yn canolbwyntio ar fesurau ymarferol i oresgyn heriau cysylltedd ar safleoedd allweddol, cryfhau seilwaith digidol, a chefnogi twf economaidd hirdymor ledled y rhanbarth. 

Os hoffech drafod y Fforwm Telathrebu Rhanbarthol gyda’r Tîm Rhaglen Ddigidol, anfonwch e-bost cychwynnol atynt drwy digidol@uchelgaisgogledd.cymru