Mae pentref yn sir Wrecsam yn gobeithio cysylltu â band eang cyflym diolch i fenter ddigidol sy'n cael ei hyrwyddo gan bartneriaid cymunedol. 

Roedd ardal Dyffryn Ceiriog wedi cael sylw yn y newyddion yn 2020 oherwydd y diffyg signal i’r we yno. Bellach, diolch i Gysylltedd Digidol Gwledig, prosiect Uchelgais Gogledd Cymru sydd wedi’i reoli gan Cadwyn Clwyd a Menter Môn, mae trigolion Dolywern yn gobeithio manteisio o’r Bartneriaeth Gymunedol Ffeibr (Fibre Community Partnership - FCP), menter sy’n cael ei rhedeg gan Openreach. a’i chefnogi drwy gynllun Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU. 

I gyrraedd y nifer gofynnol o gyfranogwyr ar gyfer y band eang cyflym mae gofyn i breswylwyr gofrestru gyda’r cynllun. Ac os yn llwyddiannus, byddant mewn sefyllfa well i gwrdd â gofynion digidol cynyddol bywyd bob dydd ac yn gallu manteisio ar ddatblygiadau technoleg yn y dyfodol.

Dyma'r unig FCP yn Wrecsam ac mae'n dod o ganlyniad i gydweithio rhwng arweinwyr cymunedol a phartneriaid prosiect, wrth iddyn nhw geisio sicrhau newid.

quotation graphic

Un o'r rheiny yw'r Cynghorydd Trevor Bates, sy'n cynrychioli Dyffryn Ceiriog, meddai:

“Bydd hyn yn hwb mawr i ni. Ar ôl blynyddoedd o frwydro gyda band eang cyfyngedig, mae gan ein cymuned y cyfle rŵan i gael y cysylltiad sydd ei angen arnynt i wneud yn fawr o gyfleoedd digidol yn yr oes sydd ohoni.

“Dydyn ni ddim eisiau colli allan, felly rydw i am annog pobl i gofrestru os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni wrth weithio gyda'n partneriaid. Bydd o fudd i'n trigolion a'n busnesau, ac yn ein helpu ni gyd i gadw mewn cysylltiad ac i gymryd rhan yn fwy eang.”

quotation graphic

Mae'r FCP wedi bod yn bosibl drwy gyllid cynllun Talebau Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU. Mae'r gymuned yma’n Nyffryn Ceiriog ymhlith 21 ar draws Gogledd Cymru sy'n gweithio tuag at gael band eang cyflym yn y modd yma drwy fenter Cysylltedd Digidol Gwledig. Ochr yn ochr â chyfeirio at y FCP, mae cynllun Uchelgais Gogledd Cymru hefyd yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau lloeren a 4G mewn gwahanol ardaloedd i gysylltu cymunedau na fyddai fel arall yn gallu cael mynediad at rwydweithiau dibynadwy.

quotation graphic

Mae’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd yn Arweinydd Rhaglen Cysylltedd Digidol ar Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru. Ychwanegodd:

“Rydyn ni’n falch iawn bod Dolywern ym mhlith rhai o’r ardaloedd sydd yn gobeithio elwa o’n Cysylltedd Digidol Gwledig. Rydyn ni am weithio gyda chymunedau fel hyn i wella’r gallu ar draws y rhanbarth cyfan i ateb y galw cynyddol am fynediad at wasanaethau digidol.”

“Nid dim ond cysylltu pobl â’r rhyngrwyd yw pwrpas y prosiect yma; mae'n ymwneud â chysylltu cymunedau â chyfleoedd newydd. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer ardaloedd fel Dolywern, a bydd yn galluogi busnesau i dyfu, i fyfyrwyr gael cyfleoedd ychwanegol i ddysgu ar-lein, ac i deuluoedd gadw mewn cysylltiad."

quotation graphic

Mae Cysylltedd Digidol Gwledig ar gael ar draws pob un o chwe sir y gogledd. Mae’n cael ei reoli gan Cadwyn Clwyd a Chyngor Sir Ddinbych yn y dwyrain a Menter Môn yn y gorllewin. Bydd y cynllun yn rhedeg am fis arall gan gefnogi cymunedau gwledig i sicrhau mynediad at wasanaethau band eang a digidol cyflymach. 

Mae mwy o fanylion ar gael drwy: