-
Gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, Uchelgais Gogledd Cymru
Mae'r Gogledd wedi datblygu'n raddol fel pwerdy i weithgynhyrchu, wedi'i yrru gan rwydwaith cadarn o ddiwydiannau, gweithlu hynod o fedrus, ac ymrwymiad i arloesi.
Gyda channoedd o gwmnïau, miloedd o swyddi, dwy brifysgol a dau o golegau addysg bellach gorau'r DU, mae'r rhanbarth wedi dod yn ganolbwynt i weithgynhyrchu gwerth-uchel, gan gyfrannu’n sylweddol i economïau Cymru a'r DU. Ond dim ond y dechrau yw hyn. Mae ein gweledigaeth ar gyfer y Gogledd hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol.
Mae ein rhanbarth mewn sefyllfa berffaith i fanteisio ar y don nesaf o ddatblygiadau gweithgynhyrchu.
Mae arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth-uchel yn un o'n blaenoriaethau allweddol, ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo elfennau masnachol technolegau newydd sydd â'r gallu i chwyldroi'r sector. Trwy fanteisio ar ein cryfderau presennol ac adeiladu ar sylfeini diwydiannol cadarn, gall rhanbarth y Gogledd arwain y ffordd mewn gweithgynhyrchu cynaliadwy a blaengar.
Wrth wraidd ein strategaeth economaidd mae'r nod o sicrhau cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant gwerth-uchel i bobl yng ngogledd Cymru. Mae gweithgynhyrchu wedi bod yn gyflogwr hanfodol yn y rhanbarth ers amser maith, ond mae'r diwydiant yn esblygu, ac yn yr un modd, rhaid i'r gweithlu ddatblygu. Bydd y genhedlaeth nesaf o weithgynhyrchu yn cael ei yrru gan dechnoleg, awtomeiddio a chynaliadwyedd, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithlu yn meddu ar sgiliau a hyfforddiant i ffynnu yn yr amgylchedd newydd hwn.
Agwedd hanfodol o'n gweledigaeth yw cefnogi datgarboneiddio o fewn y sector gweithgynhyrchu. Wrth i ymdrechion cenedlaethol a byd-eang ddwysáu i frwydro yn erbyn newidiadau yn yr hinsawdd, mae'n hanfodol bod ein diwydiannau gweithgynhyrchu yn cyd-fynd â'r amcanion hyn. Ein nod yw hyrwyddo a hwyluso'r newid i ddulliau amgen carbon isel, gan sicrhau ein bod ar flaen y gad ym maes gweithgynhyrchu cynaliadwy.
Mae dau o'n prosiectau blaenllaw yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu'r sector gweithgynhyrchu. Mae'r mentrau hyn, o dan arweiniad Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam, yn fuddsoddiadau sylweddol yn nyfodol y Gogledd a'i gallu i gystadlu ar y llwyfan byd-eang.
Y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (Prifysgol Bangor)
Mae'r prosiect arloesol hwn yn archwilio'r defnydd o brosesau biolegol fel dewisiadau amgen carbon isel i ddulliau gweithgynhyrchu traddodiadol. Drwy ysgogi systemau biolegol, gallwn ddatblygu dulliau glanach a mwy cynaliadwy i gynhyrchu ystod eang o gynnyrch a phrosesau diwydiannol. Mae'r ganolfan yn rhan allweddol o'n strategaeth i ddatgarboneiddio'r sector gweithgynhyrchu, gan sicrhau bod gogledd Cymru yn gweithredu’n unol ag amcanion hinsawdd cenedlaethol a byd-eang wrth yrru arloesedd ym maes biotechnoleg.
Y Ganolfan Peirianneg Menter ac Opteg (Prifysgol Wrecsam)
Drwy ganolbwyntio ar opteg, ffotoneg, a deunyddiau cyfansawdd, bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i ymchwilio i opsiynau ysgafn ar gyfer defnyddiau diwydiannol. Yn benodol, mae deunyddiau cyfansawdd yn cynnig potensial enfawr i leihau allyriadau carbon trwy ddisodli deunyddiau trymach, sy'n defnyddio mwy o ynni. Drwy ddatblygu deunyddiau arloesol, bydd y ganolfan hon yn helpu diwydiannau ledled y Gogledd i ddod yn fwy cystadleuol wrth leihau eu hôl troed amgylcheddol.
Nid yr elfen arloesol yn unig sy'n bwysig am y prosiectau hyn; maent yn ymwneud ag adeiladu dyfodol cynaliadwy i'n rhanbarth. Drwy roi'r amgylchedd wrth wraidd ein strategaeth weithgynhyrchu, rydym yn sicrhau bod y Gogledd yn parhau i fod ar flaen y gad wrth drawsnewid i economi carbon sero-net.
Mae hyn, ynghyd â llwyddiant ein gweledigaeth, yn dibynnu ar rwydwaith gref o bartneriaid. Fel y mae'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Aelod Arweiniol ein rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel a Chadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yn pwysleisio:
"Mae'r prosiectau hyn yn dangos, drwy gydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, y gallwn gyflawni pethau gwych – datblygu economaidd, buddsoddiad, swyddi a hyfforddiant - sydd oll yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer rhanbarth flaengar, cysylltiedig, gwydn a chynaliadwy."
Mae'r ymrwymiad hwn i gynaliadwyedd yn mynd y tu hwnt i brosiectau unigol. Rydym yn cydweithio ar draws pob un o'n chwe chyngor lleol i ddatblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol. Bydd y cynlluniau hyn yn amlinellu gweledigaeth gref ar gyfer system ynni carbon sero-net erbyn 2050 ac yn darparu cynllun gweithredu clir ar gyfer cyflawni'r nod uchelgeisiol hwn. Mae’r mentrau hyn yn fodd o sicrhau bod isadeiledd ynni'r rhanbarth yn cefnogi ein hamcanion amgylcheddol ynghyd â thwf y sector gweithgynhyrchu uwch.
Yn y Bwrdd Uchelgais Economaidd, credwn fod gan ogledd Cymru botensial i arwain y ffordd nid yn unig o fewn y DU, ond ar y llwyfan rhyngwladol. Trwy fuddsoddi mewn arloesi a chynaliadwyedd heddiw, rydym yn adeiladu dyfodol gwell i'n rhanbarth, ein heconomi a'n pobl.