Gogledd Cymru yw y lle i ddatblygu sgiliau ynni carbon isel - dyma'r neges glir yr wythnos hon wrth i Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru lansio prosbectws newydd i gyflogwyr.
Mewn cyfnod sydd wedi'i nodi gyda heriau amgylcheddol a newid byd-eang tuag at arferion gwyrdd, mae'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn awyddus i ailddiffinio sut mae cyflogwyr a darparwyr addysg yn cydweithio i ddatblygu sgiliau. Mae'r prosbectws yn canolbwyntio ar ynni carbon isel ac yn cynnwys ffilm sy'n tynnu sylw at straeon llwyddiant ar draws y rhanbarth a rhoi mewnwelediad i'r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.
Mae prifysgolion a cholegau yn y rhanbarth eisoes yn adnabyddus am eu cyfleusterau a'u cyrsiau sydd ar gael i sicrhau llif o weithwyr proffesiynol medrus sy'n barod i gyfrannu at ddiwydiant sy'n esblygu. Y gobaith yw y bydd yr adnodd newydd hwn yn tynnu sylw at y cyfleoedd hyfforddi a dysgu arloesol sydd ar gael yn yr ardal, gan ganiatáu i weithwyr ennill profiad ymarferol a datblygu sgiliau arbenigol mawr eu hangen.
Wrth gefnogi lansio'r prosbectws cymorth, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae gan y Gogledd nid yn unig yr adnoddau ffisegol i gefnogi cyfleoedd economaidd cynaliadwy, ond hefyd y gweithlu. Mae prifysgolion a cholegau mewn sefyllfa gref i gefnogi’r gwaith o ddarparu sgiliau ar gyfer prosiectau gwynt ar y môr a phrosiectau ynni carbon isel eraill yn y dyfodol, ar draws sbectrwm eang o sgiliau gofynnol.
"Mae'r sgiliau hyn yn mynd y tu hwnt i beirianwyr. Mae arnom angen arbenigwyr amgylcheddol, gwneuthurwyr penderfyniadau, dylunwyr graffig, ac unigolion sydd â sgiliau cyfathrebu cryf, i enwi ond ychydig. Gan ddefnyddio’r sgiliau cydweithredol cryf yn y rhanbarth, mae gan y Gogledd lawer i’w gynnig i fusnesau".
Dywedodd Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol yr Bartneriaeth Sgiliau, ei bod yn falch iawn o lansio'r prosbectws newydd.
"Rwy'n falch y gallwn nawr ddangos i fusnesau ledled Cymru a thu hwnt i'r cyfleoedd sydd gennym yma yn ein rhanbarth. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd presennol a helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fanteisio ar brosiectau ynni carbon isel yng Ngogledd Cymru.
"Os oes gennych ddiddordeb mewn adleoli eich busnes i Ogledd Cymru, neu os ydych eisoes wedi'ch lleoli yma ac eisiau elwa o'r cyfleoedd hyn - cysylltwch â ni. Byddem yn falch iawn o frocera sgyrsiau rhwng cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant am anghenion sgiliau a gwneud i bartneriaethau ddigwydd i hybu economi'r rhanbarth a lleihau carbon."
Darllenwch neu lawrlwythwch y prosbectws yma.
I gysylltu â'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol: info@rspnorth.wales