Daeth cyfarfod swyddogol i Dorri'r Dywarchen i ddathlu dechrau prosiect adeiladu cyntaf Cynllun Twf Gogledd Cymru â gweinidogion a phartneriaid at ei gilydd ym Mhrifysgol Wrecsam. 

Daeth Fay Jones AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru a Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at ei gilydd yn Wrecsam ar safle ar Gampws Plas Coch Prifysgol Wrecsam, ynghyd â chynrychiolwyr o’r Brifysgol, Uchelgais Gogledd Cymru a Wynne Construction. ⁠ Gyda'i gilydd, roeddent yn nodi achlysur dechrau ar y gwaith adeiladu ar safle’r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter  (EEOC) newydd. 

Mae'r datblygiad yn adeilad arloesol, a fydd yn darparu canolfan arbenigol sy'n cynnig mynediad hanfodol at gymorth i fusnesau gweithgynhyrchu rhanbarthol, i leihau effaith amgylcheddol eu cynhyrchion a'u prosesau. ⁠ 

Mae’r datblygiad yn adeilad arloesol, a fydd yn darparu canolfan arbenigol ar gyfer ymchwil a datblygu, cydweithredu busnes a datblygu sgiliau mewn opteg, ffotoneg a chyfansoddion fel dewisiadau amgen ysgafn ar gyfer gweithgynhyrchu, i gynnig cymorth i fusnesau gweithgynhyrchu rhanbarthol i leihau effaith amgylcheddol eu cynhyrchion a phrosesau. 

Bydd hydrogen gwyrdd hefyd yn cael ei ddatblygu ar y safle fel rhan o’r prosiect, diolch i osod electrolyser hydrogen fel rhan o’r gwaith adeiladu, a fydd yn cyfrannu at arferion cynaliadwy mewn diwydiant. 

quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Aelod Arweiniol y rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel  a Chadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:⁠  

"Mae hon yn garreg filltir enfawr i Gynllun Twf Gogledd Cymru.  

Dyma ein prosiect adeiladu cyntaf ac mae wedi’i ddylunio fel adeilad carbon isel, natur-bositif, y cyntaf a fydd yn cyflawni yn erbyn ein targedau cynaliadwyedd. Mae'n dangos, drwy gydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, y gallwn gyflawni pethau gwych – datblygu economaidd, buddsoddiad, swyddi a hyfforddiant – i gyd yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer rhanbarth craff, cysylltiedig, gwydn a chynaliadwy."  ⁠ ⁠

quotation graphic
quotation graphic

Meddai'r Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam:

"Mae torri'r dywarchen i nodi dechrau’r gwaith ar ein Canolfan Menter Peirianneg ac Opteg newydd yn ddiwrnod balch iawn i bawb yn y Brifysgol – a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr am eu gwaith caled yn sicrhau bod y prosiect yn cyrraedd y pwynt hwn. 

“Ni fyddai'r datblygiad carreg filltir hwn yn bosibl heb fuddsoddiad gan Gynllun Twf Gogledd Cymru.   

"Rydym hefyd wrth ein boddau y bydd Wynne Construction yn darparu'r adeilad hwn. Rydym yn hyderus y bydd y ganolfan o safon uchel o ran dyluniad, ymarferoldeb a hefyd, o ran dangos gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau carbon, i gyd wrth ddarparu gwerth cymdeithasol helaeth i Ogledd Cymru." ⁠⁠ 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Richard Day, Athro Peirianneg Cyfansawdd a Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam:

"Bydd y Ganolfan Fenter Peirianneg ac Opteg yn rhoi mynediad i'n myfyrwyr, staff, yn ogystal â phartneriaid yn y diwydiant, at ymchwil blaengar, cydweithredu busnes a datblygu sgiliau mewn opteg, ffotoneg a chyfansoddion fel dewisiadau amgen ysgafn ar gyfer gweithgynhyrchu. ⁠ ⁠ 

"Bydd yn ganolfan arbenigol, a fydd yn ein helpu i ddatblygu a gwella cwricwlwm peirianneg y dyfodol, yma yn Wrecsam.  

"Mae hefyd yn hynod gyffrous cyhoeddi y byddwn hefyd yn datblygu hydrogen gwyrdd ar y safle, diolch i osod ‘electrolyser’ hydrogen fel rhan o'r adeilad newydd. Bydd hyn yn cefnogi ymchwil hanfodol ac yn ein helpu i gefnogi partneriaid yn y diwydiant i weithio tuag at ddyfodol carbon isel." ⁠ 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wynne Construction:

“Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o’r datblygiad trawsnewidiol hwn i Brifysgol Wrecsam. Edrychwn ymlaen at ddod â’n harbenigedd, a chydweithio â thîm y Brifysgol a phartneriaid, i greu adeilad o’r radd flaenaf sy’n gadael gwaddol parhaol i Wrecsam a rhanbarth Gogledd Cymru. 

“Fel gyda'n holl adeiladau o ansawdd, mae gwerth cymdeithasol wrth galon ein gwaith; edrychwn ymlaen at sicrhau cyfathrebu tryloyw a chynnwys y gymuned wrth inni ddarparu cyfleuster sy’n adlewyrchu dyheadau economi ranbarthol arloesol. Gan ymestyn y tu hwnt i greu swyddi a chyfleoedd datblygu gyda’n cadwyn gyflenwi, byddwn yn gweithio i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a chefnogi mentrau sy’n cadw ac yn dathlu’r uchelgais y tu ôl i’r prosiect hwn.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol:

“Rwy’n falch o fod yma yn Wrecsam i weld dechrau’r gwaith adeiladu ar y prosiect cyffrous hwn sy’n rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru. Wedi'i seilio ar ddau safle bydd yn dod â manteision ar draws Gogledd Cymru. Mae’n newyddion da ar gyfer hyfforddiant a sgiliau, yn ogystal â helpu busnesau i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Bydd y datblygiad yn chwarae rhan bwysig yn ein nodau i gyrraedd sero net.” 
 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Fay Jones AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru:

“Roeddwn yn falch iawn o fod yn Wrecsam i weld dechrau’r gwaith o gyflawni’r prosiect gwych hwn. Mae’r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter newydd yn argoeli i fod yn gyfleuster gwych i Brifysgol Wrecsam a’u cydweithwyr yn y diwydiant. 

“Mae Llywodraeth y DU yn falch o fuddsoddi yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru, gan helpu i sicrhau newid gwirioneddol yng Ngogledd Cymru trwy greu swyddi a lledaenu ffyniant trwy brosiectau yn union fel hyn.” 

quotation graphic

Bydd y prosiect EEOC yn cael ei gyflwyno ar draws dau o safleoedd y brifysgol – y campws Plas Coch yn Wrecsam a Chanolfan Dechnoleg OpTIC ar gampws Llanelwy. Bydd cyllid Cynllun Twf, drwy Uchelgais Gogledd Cymru, yn darparu £11.55m o gyfanswm gwerth y prosiect.