• Sian Lloyd Roberts, Rheolwr, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru

    Mae llai nag un o bob pedwar o bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profiad gwaith. Ers 2015, mae niferoedd wedi gostwng yn sylweddol, gyda dim ond 24% erbyn hyn yn cael y siawns i fynd ar leoliad – a hynny yn  cyfyngu ar eu gallu i wneud penderfyniadau am eu dyfodol. Dyma ddim ond rhai o ganfyddiadau adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Senedd.

Mae’r adroddiad, gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf, yn dilyn ymchwiliad i lwybrau addysg a hyfforddiant ôl-16. Dros gyfnod o flwyddyn casglwyd tystiolaeth o bob cwr o Gymru, gan edrych ar y llwybrau sydd ar gael i bobl sy'n gadael yr ysgol a'r rhwystrau y mae llawer yn eu hwynebu ar hyd y ffordd. Mae’r heriau eraill sy’n cael eu hamlygu yn cynnwys diffyg ariannu a chydweithio, yn ogystal â'r angen am arweiniad cryfach i ddysgwyr wrth adael yr ysgol.

Yng nghanol y pryderon, fodd bynnag, mae rhai cynlluniau rhanbarthol yn cael eu cydnabod am wneud gwahaniaeth. Rwy’n falch bod ein gwaith ni fel Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSRGC), ynghyd â Phartneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd, yn cael ei amlygu yn yr adroddiad fel enghraifft o arfer da. Yn benodol, mae rhaglen beilot Llwybrau Gyrfa Ynys Môn yn cael sylw am helpu dysgwyr baratoi ar gyfer y gweithle gan gryfhau cysylltiadau rhwng pobl ifanc a chyflogwyr.

Fel un o bedair partneriaeth sgiliau rhanbarthol, wedi eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru, ein nod yw hyrwyddo buddsoddiad mewn sgiliau yn seiliedig ar anghenion lleol. Mae gweithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth yn rhan allweddol o’n gweledigaeth, ac rydym yn falch bod y ffordd yma o weithio yn cael ei gydnabod gan Bwyllgor y Senedd.

Rydym yn ymwybodol bod mynediad at brofiad gwaith wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dyna pam bod creu mwy o gyfleoedd yn flaenoriaeth i ni, er mwyn helpu dysgwyr i wneud dewisiadau sy'n addas iddyn nhw. Mae hyn yn golygu gweithio’n agos gyda chyflogwyr, gan fod eu cyfraniad nhw’n bwysig wrth greu profiadau a sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu’r sgiliau y mae busnesau’n chwilio amdanyn nhw.

Ein nod efo’r cynllun peilot ar Ynys Môn oedd paratoi dysgwyr ar gyfer eu gyrfa a chychwyn sgwrs am anghenion cyflogwyr lleol. Trwy gefnogi pobl ifanc i ddeall y cyfleoedd a’r llwybrau sydd ar gael yn lleol, gallwn eu helpu i wneud penderfyniadau am eu camau nesaf.

Un o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y peilot Llwybrau Gyrfa Ynys Môn oedd Freya Tomblin, myfyriwr Blwyddyn 13 o Ysgol Gyfun Llangefni sydd â’i bryd ar fod yn bensaer. Dywedodd bod y cynllun wedi agor ei llygaid i’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr ardal. Bob wythnos, byddai gwahanol gwmnïau o'r diwydiant adeiladu yn dod i siarad efo’r dysgwyr am eu prosiectau, y swyddi sydd ar gael, a’r sgiliau maen nhw’n chwilio amdanynt.

Cyn cymryd rhan dywedodd Freya ei bod hi’n cymryd yn ganiataol y byddai angen iddi symud i ddinas fawr i ddilyn ei gyrfa. Roedd clywed yn uniongyrchol gan gyflogwyr lleol yn ei helpu hi i sylweddoli faint o gyfleoedd sydd ar Ynys Môn ac mae hyn wedi helpu hi benderfynu mai pensaernïaeth mae hi eisiau astudio yn y brifysgol. Mae straeon fel rhai Freya yn dangos pam fod ein gwaith ni mor bwysig, trwy gysylltu addysg a chyflogwyr, gallwn roi’r cyfle i bobl wneud y dewisiadau cywir ac i ddeall y sgiliau mae busnesau eu hangen.

Mae adroddiad y Senedd yn cydnabod pwysigrwydd prosiectau fel yr un ar Ynys Môn ac yn galw am gydweithio ehangach i fynd i’r afael â’r gostyngiad mewn profiad gwaith a chryfhau cyngor gyrfaoedd. Bydd yr argymhellion yn cael eu trafod yn y Senedd yn gynnar y flwyddyn nesaf – ac fel partneriaeth rydym yn croesawu’r pwyslais ar sicrhau bod gan bobl ifanc ar hyd a lled Cymru lwybrau clir a chefnogaeth i addysg a hyfforddiant ôl-16.