Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn cael ei lansio'r wythnos hon, yn frand ac yn ddelwedd newydd ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
I gyd-fynd â’r enw bydd gwefan newydd yn cael ei lansio - a hyn oll yn nodi cyfnod newydd o gydweithio i hyrwyddo’r ardal fel lleoliad delfrydol i fuddsoddi.
Alwen Williams yw Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru. Mae hi yn egluro pam bod yr amser yn iawn i ail frandio: “Gyda £240miliwn o fuddsoddiad eisoes gan lywodraeth Cymru a’r DU drwy’r Cynllun Twf, roedden ni am sicrhau bod Gogledd Cymru yn sefyll allan gyda gweledigaeth newydd, hyderus ar gyfer economi lewyrchus.
“Mae cymaint i gynnig yma - ac rydyn ni’n awyddus i ddatblygu ein stori ac i ddangos bod y rhanbarth yn ddewis deniadol i fusnes ac i fuddsoddwyr.
“O’n hamgylchedd naturiol i’n harbenigedd cynyddol yn y sector carbon isel a thechnoleg ddigidol, yn ogystal â’n hanes o weithgynhyrchu - rydym am rannu’r neges bod y cyfleoedd yma cystal â’n huchelgais. Mae’r enw newydd, y brand a’r wefan yn helpu ni sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu hawlio’r sylw pan rydyn ceisio buddsoddwyr yn y dyfodol.”
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yw Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru sef y corff democrataidd y tu cefn i Uchelgais Gogledd Cymru. Dywedodd: “Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud yn barod i sicrhau arian i ddatblygu prosiectau fydd yn rhoi ein rhanbarth ar y map o ran buddsoddiad. Dyma ddechrau newydd ac rydw i yn falch iawn o weld y brand a’r wefan newydd yn mynd yn fyw - heb os bydd hyn yn ein helpu ni i rannu ein neges ac i adeiladu ar y gwaith mae’r tîm eisoes wedi ei wneud.”
Mae’r wefan newydd yn mynd yn fyw ar y 25ain o Dachwedd. Bydd y wefan yn gartref i’r wybodaeth a’r newyddion ddiweddaraf am brosiectau’r Cynllun Twf a buddsoddiad yn economi Gogledd Cymru.