Mae cyfnod newydd i dwristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru ar droed gyda lansiad swyddogol yr 'Academi Croeso' - partneriaeth arloesol dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai gyda chefnogaeth gan Uchelgais Gogledd Cymru drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru.

Nod prosiect yr Academi Croeso yw ceisio diogelu sector twristiaeth a lletygarwch y rhanbarth ar gyfer y dyfodol drwy greu rhwydwaith cyhoeddus-preifat sy'n canolbwyntio ar gydweithio, datblygu sgiliau a datblygu cynnyrch.

Daeth y digwyddiad lansio yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug ddydd Iau 13 Tachwedd â chyflogwyr blaenllaw, addysgwyr, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a DU, a phartneriaid cymunedol ynghyd i ddathlu'r hunaniaeth newydd a'r weledigaeth a rennir sydd y tu ôl i'r 'Academi Croeso', a elwid gynt yn Rhwydwaith Talent Twristiaeth.

Ymhlith y siaradwyr roedd Anna McMorrin AS, Is-ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa Cymru; Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol yng Ngrŵp Llandrillo Menai; a'r Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru. 

Drwy raglen ddiddorol o areithiau, trafodaethau panel, a datgeliad o'r brand newydd, clywodd y rhai a oedd yn bresennol sut bydd yr Academi Croeso yn helpu i ddatblygu gweithlu medrus, dwyieithog a chynaliadwy ar gyfer economi ymwelwyr y rhanbarth.

quotation graphic

Meddai Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol yng Ngrŵp Llandrillo Menai: 

“Mae'r Academi Croeso yn ymwneud â mwy na sgiliau – mae'n ymwneud â balchder, lle a phartneriaeth. Drwy gysylltu addysg a diwydiant, rydym yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i fod yn gyrchfan o'r radd flaenaf i ymweld â hi, i weithio ynddi, ac i fyw ynddi.”

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

“Nod prosiect yr Academi Croeso yw trawsnewid y sector twristiaeth a lletygarwch yn ein rhanbarth - gan greu 68 o swyddi, 250 o brentisiaethau a chynnig hyfforddiant i 750 o bobl. Dyma'n union y math o dwf a chyfle y mae Cynllun Twf Gogledd Cymru am ei greu, ac rydw i'n falch iawn bod ein buddsoddiad yn cefnogi canlyniadau mor effeithiol.”

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:

 “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i dwristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru. Mae'n cynnig cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant, wrth gefnogi'r diwydiannau yma sydd mor bwysig i'r rhanbarth drwy hyfforddi gweithlu medrus ac ymroddedig.”

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin AS:

“Mae'r Academi Croeso yn brosiect gwych sy’n cefnogi creu swyddi a thwf economaidd yn y sector twristiaeth, sydd mor hanfodol i economi Gogledd Cymru.

“Rwy’n falch y bydd buddsoddiad Llywodraeth y DU, drwy Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn galluogi pobl leol i ennill sgiliau mewn lletygarwch a fydd yn arwain at swyddi da. Bydd yr hyfforddiant maen nhw'n ei dderbyn yn sicrhau bod ymwelwyr i'r rhan hardd hon o Gymru yn cael profiad gwych ac yn lledaenu'r neges am bopeth sydd gan Ogledd Cymru i'w gynnig i dwristiaid.”

quotation graphic

Nod y prosiect £19m, sy'n cynnwys buddsoddiad o £4.43m gan Cynllun Twf Gogledd Cymru, yw mynd i'r afael â heriau hirhoedlog o ran recriwtio a sgiliau yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch drwy sefydlu rhwydwaith 'Hwb a Lloerennau' unigryw. Bydd y prosiect yn cysylltu campws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos â phartneriaid blaenllaw yn y diwydiant, gan gynnwys Zip World, Portmeirion, Theatr Clwyd, Snowdonia Hospitality & Leisure a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gyda'i gilydd, bydd y partneriaid yn darparu cyfleoedd hyfforddiant, arloesedd a datblygiad proffesiynol sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol ag anghenion cyflogwyr, gan sicrhau bod gan bobl leol y sgiliau, yr hyder a'r ysbrydoliaeth i ffynnu mewn gyrfaoedd ym meysydd twristiaeth a lletygarwch.

Mae'r lansiad yn nodi carreg filltir bwysig yn ymgyrch y rhanbarth i ennill cydnabyddiaeth i Ogledd Cymru fel model o ragoriaeth mewn twristiaeth gynaliadwy a lletygarwch.