-
Alwen Williams, Prif Weithredwr, Uchelgais Gogledd Cymru
Yn gynharach yr wythnos hon yn Nigwyddiad Arweinyddiaeth "Dolenni Digidol" CDPS yn Wrecsam, cefais y fraint o ymuno ag arweinwyr sector cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach o bob cwr o Gymru o dan y faner gyffredin o "ddeall mwy am AI." Roedd yn sgwrs bwysig ac amserol, nid yn unig am y dechnoleg ei hun, ond am y math o arweinyddiaeth sydd ei hangen ar Gymru bellach os ydym am elwa o'r chwyldro AI.
Gadewch i mi fod yn glir, mae AI yn brawf arweinyddiaeth.
Nid uwchraddio technegol yn unig mohono, nac ychwaith mater polisi i lywodraethau'r dyfodol pell ymrafael ag ef. Mae'n rym seismig sydd eisoes yn ail-lunio sut rydym yn gweithio, sut rydym yn byw a sut rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Ac yn wyneb newid mor sylfaenol, nid ‘a yw AI ar ei ffordd’ ydy'r cwestiwn go iawn, ond yn hytrach, pwy fydd â'r dewrder a'r eglurder i'w ddefnyddio fel grym ar gyfer da ac arwain newid, a phwy fydd yn cael ei adael ar ôl?
Gwyddwn o hanes ac ymchwil academaidd bod gan sefydliadau sy'n methu fel arfer un ffactor sy’n gyffredin iddynt ac sy'n cael ei briodoli'n uniongyrchol i leihad mewn cwsmeriaid a methiant – yn syml, y rhai sy'n methu ag adnewyddu’r hyn y maent yn ei gynnig mewn ymateb i yrwyr technolegol ac anghenion newidiol cwsmeriaid – yn syml, sefydliadau sy'n methu â newid.
Roeddwn i'n sgwrsio am Woolworths gyda rhywun yn ddiweddar. Mae'n enghraifft glasurol o sut mae cystadleuaeth ddwys ar y stryd fawr a mân-werthwyr ar-lein yn tanseilio ac yn goddiweddyd y fformiwla draddodiadol nad oedd Woolworths am ei newid.
Roedd Woolworths yn glynu at etifeddiaeth eu llwyddiant, eu systemau, diwylliannau oedd wedi dyddio, cynnig cwsmeriaid, brand a methiant i feddwl yn hyblyg. Dyma'r risg rydyn ni'n ei gymryd yn y sector cyhoeddus os nad ydym yn cydnabod yr angen a'r cyfle i addasu. Dyna pam mae arweinyddiaeth systemau addasol a beiddgar bellach yn rheidrwydd. Nid mater sector preifat yn unig ydy hyn, mae'n berthnasol i bob sefydliad sydd eisiau ffynnu yn yr hirdymor.
Mae Gogledd Cymru wedi hen arfer â newid. O drawsnewid cysylltiadau trafnidiaeth i ehangu ynni adnewyddadwy a meithrin arloesi yn ein cymunedau gwledig, rydym wedi profi fod arwain yn seiliedig ar leoedd yn gyrru effaith go iawn. Rwy'n credu bod gennym nawr gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wneud yr un peth gydag AI, i sefydlu Gogledd Cymru fel arweinydd, nid yn unig ar gyflawni digidol, ond ar fabwysiadu AI mewn modd cyfrifol sy'n canolbwyntio ar bobl.
Ond mae'n rhaid i ni weithredu gyda bwriad.
Oherwydd, er bod AI yn fyd-eang, mae ei risgiau a'i wobrau yn wirioneddol lleol. Pan fydd bwrdd iechyd yn colli'r cyfle i awtomeiddio diagnosteg, claf o fewn ein cymuned ni sy'n aros yn hirach. Pan fydd awdurdod lleol yn oedi cyn defnyddio AI i gael mwy o ddealltwriaeth, mae'n bosib mai teulu yma yng Ngogledd Cymru fydd ddim yn derbyn cefnogaeth mewn pryd.
Mae llawer yn y fantol, a hynny yn ein hardal ni.
Dyna pam mae grymuso gweithwyr proffesiynol rheng flaen mor hanfodol. Mae angen i ni sicrhau bod ein hathrawon, gofalwyr, gweithwyr achos, a chynllunwyr yn gweld AI nid fel bygythiad neu ddirgelwch, ond fel galluogwr pwerus. Cynghreiriad. Grym er gwell. Nid yw hyn yn golygu trosglwyddo penderfyniadau i algorithmau. Mae'n golygu rhoi gwell cyfarpar i'n pobl wneud eu gwaith gyda mwy o fewnwelediad, mwy o effaith, a mwy o ddynoliaeth.
Yng Ngogledd Cymru, rydym eisoes yn gweld sylfeini ecosystem ddigidol wirioneddol gynhwysol. Rydym yn buddsoddi yn ein seilwaith digidol gyda bwriad. Mae gennym glwstwr cynyddol o arloeswyr technoleg. Mae gennym gefnogaeth Llywodraethau i osod strategaeth a chyflawni amcanion cyffredin. Mae gennym sefydliadau angor sydd wedi ymrwymo i drawsnewid. Mae gennym gymunedau sy'n deall gwerth digidol, nid fel gair-gwneud, ond fel llwybr ymarferol i wasanaethau gwell, swyddi gwell, a bywydau gwell.
Ond ni fydd dim o hyn yn ffynnu heb gydweithio. Dull system gyfan sy'n cydnabod bod y cyfan yn fwy na chyfanswm ei rannau. Nid yw cydweithio, yn yr oes AI newydd hon, yn rhywbeth sy'n 'braf i'w gael'. Mae'n hanfodol. Mae angen y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector arnom i ddylunio atebion ar y cyd. Mae angen i'r byd academaidd a diwydiant rannu dealltwriaeth, nid cystadlu amdano. Rydym angen i arweinwyr adael, a chwalu, eu seilos cyfforddus a dod at ei gilydd ar sail un genhadaeth gyffredin, i adeiladu dyfodol wedi'i bweru gan AI sy'n gweithio i bawb yng Nghymru.
Felly, ydy wir, mae AI yn brawf arweinyddiaeth. Ond mae'n un yr ydym y medrwn ni lwyddo ynddo, os arweiniwn gydag eglurder, dewrder, a chyd-bwrpas.