-
Cath Morris-Roberts, Uwch Swyddog Cyflawni Sgiliau, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae CEF Berwyn yn Wrecsam a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn annog mwy o gyflogwyr i ystyried gweithio gyda charchardai ar ôl gweld canlyniadau cryf o raglenni sy’n paratoi ymadawyr ar gyfer gwaith cyn eu rhyddhau a’u cefnogi i mewn i swyddi wedyn.
O safbwynt sgiliau rhanbarthol, mae ein partneriaeth gyda CEF Berwyn yn Wrecsam yn arwyddocaol gan ei fod yn cysylltu hyfforddiant y tu mewn i'r carchar gydag anghenion marchnad lafur gogledd Cymru.
Mae ein rôl fel y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn canolbwyntio ar ddeall yr hyn y mae cyflogwyr eu hangen a helpu i bontio bylchau yn y gweithlu. Mae gweithio gyda'r carchar wedi dod yn rhan bwysig o'r gwaith hwnnw.
Rydym yn rhannu gwybodaeth am y farchnad lafur gyda CEF Berwyn fel bod yr hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu yn adlewyrchu realiti'r galw lleol. Ers tro byd, mae adeiladu wedi bod yn sector sy'n cydnabod gwerth recriwtio pobl sydd wedi gadael carchar, ac mae enghreifftiau gan Williams Homes Bala a Fulcrum Scaffold Safety and Training Ltd yn dangos pa mor llwyddiannus all y perthnasau rheini fod.
Fodd bynnag, mae potensial ymhell tu hwnt i adeiladu. Mae gweithgynhyrchu’n un o'n sectorau blaenoriaeth, ac mae nifer o gyflogwyr yn dweud wrthym eu bod yn wynebu prinder. Mae'n ddiwydiant sy'n tyfu yn y rhanbarth, ac mae cyfle clir i fwy o fusnesau ymgysylltu â'r gwaith sy'n digwydd y tu mewn i'r carchar.
Mae twristiaeth a lletygarwch hefyd yn feysydd lle mae'r carchar yn cynnig hyfforddiant cryf. Yn ystod ymweliad, gwelais y bwyty a'r cyfleusterau sy'n cael eu defnyddio i ddysgu sgiliau lletygarwch ansawdd uchel. Mae'n hawdd anghofio eich bod mewn carchar wrth weld safon yr offer a phroffesiynoldeb yr hyfforddiant. Yn aml, mae cyflogwyr yn dweud wrthym bod sgiliau meddal yr un mor bwysig â gallu technegol, ac mae'r rhain yn sicr yn rhan o'r hyn sy'n cael ei ddysgu yn CEF Berwyn.
Yn syml, un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddeall y potensial yw drwy ymweld neu gysylltu â'r carchar i ddysgu mwy. Pan wnaethom gynnal digwyddiad yn Venue Cymru ym mis Ebrill, daeth dros 50 o gyflogwyr o wahanol sectorau. Mae cael clywed yn uniongyrchol gan rywun fel Joe McNabb wedi cael effaith wirioneddol. Mae ei brofiad o gael ei gyflogi gan Fulcrum ddyddiau ar ôl gadael y carchar wedi dangos i gyflogwyr yr hyn sy'n bosib pan fo'r gefnogaeth gywir yn ei lle, a sut all pobl sy'n gadael carchar helpu i ymdrin â phrinder sgiliau tra'n adeiladu dyfodol sefydlog ar gyfer eu hunain.
Ar gyfer cyflogwyr nad ydynt wedi ystyried recriwtio pobl sy'n gadael carchar eto, mae'r neges gennym ni yr un fath â'r neges gan y carchar: ewch i ymweld â'r lle. Ewch i gwrdd â'r dynion, gweld y gweithdai a deall y lefel o hyfforddiant sy'n cael ei chyflawni. Mae'r talent yno ac mae'r gefnogaeth yno. Ar gyfer rhanbarth sydd eisiau tyfu ei economi a lleihau prinder sgiliau, dyma gyfle sydd werth ei gymryd.