Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn cryfhau ei allu gweithredol wrth i’w gyfrifoldebau fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth – gan gynnwys cyflawni Gynllun Twf Gogledd Cymru – ganolbwyntio’n fwyfwy ar weithredu prosiectau.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn cryfhau ei allu gweithredol wrth i’w gyfrifoldebau fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth – gan gynnwys cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru – ganolbwyntio’n fwyfwy ar weithredu prosiectau.
I gefnogi’r cam nesaf hwn, mae’r sefydliad yn buddsoddi mewn arbenigedd caffael uwch i gefnogi maint a chymhlethdod cynyddol y cynlluniau a’r prosiectau wrth iddynt symud o ddatblygu i gyflawni. Bydd y rôl yn greiddiol i sicrhau llywodraethu cadarn, cydymffurfiaeth â gofynion caffael cyhoeddus, a mewnblannu gwerth cymdeithasol, cynaliadwyedd a gwerth am arian ar draws yr holl weithgareddau cyflawni.
Bydd y swydd newydd, sef swyddog caffael uwch, yn rhan o Dîm Gweithrediadau’r sefydliad, gan gefnogi caffael a rheoli contractau ar draws rhaglen amrywiol o brosiectau trawsnewidiol. Mae’r penodiad wedi’i gynllunio i gryfhau llywodraethu, sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion caffael cyhoeddus ac, yn allweddol, mewnblannu gwerth cymdeithasol, cynaliadwyedd a’r gwerth gorau am arian i’r gwaith o gyflawni.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn cefnogi portffolio eang o fentrau cyfalaf a strategol sy’n rhychwantu trafnidiaeth, cynllunio a datblygu economaidd. Mae’r penodiad yn adlewyrchu ymrwymiad Uchelgais Gogledd Cymru i adeiladu’r systemau, y sgiliau a’r gallu sydd eu hangen i reoli cyflenwyr, contractau a phartneriaethau’n effeithiol ar raddfa ranbarthol.
Dywedodd Hedd Vaughan‑Evans, Pennaeth Gweithrediadau Uchelgais Gogledd Cymru, fod y recriwtio’n adlewyrchu esblygiad y sefydliad wrth i brosiectau symud ymlaen yn gyflym.
“Wrth i’n gwaith symud ymhellach i’r cam cyflawni, mae’n hollbwysig bod gennym yr arbenigedd cywir ar waith i reoli buddsoddi’n effeithiol ac yn gyfrifol.” meddai.
“Mae’r rôl hon yn ymwneud â sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn darparu gwerth gwirioneddol, hirdymor – nid yn unig o ran seilwaith, ond hefyd o ran canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i gymunedau ar draws Gogledd Cymru.”
Ychwanegodd fod caffael yn chwarae rhan ganolog wrth lunio effaith ranbarthol.
“Mae’r ffordd yr ydym yn caffael yn siapio cadwyni cyflenwi lleol, yn cefnogi datblygu sgiliau ac yn gyrru cynaliadwyedd. Mae cryfhau’r gallu hwn yn helpu i sicrhau bod y Cynllun Twf, ochr yn ochr â’n holl ffrwd waith arall, yn creu ac yn cefnogi economi wydn a chynhwysol a chyfleoedd ar draws y rhanbarth.”