• gan Alwen Williams, Prif Swyddog Gweithredol dros-dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd

    Yn ôl ym mis Tachwedd 2023 yn Natganiad yr Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fenter arloesol, sef dynodi Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam.  

Mae'r penderfyniad hwn, gyda chefnogaeth lwyr gan Lywodraeth Cymru yn y Senedd, yn garreg filltir arwyddocaol yn yr ymdrechion ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chynghorau Sir y Fflint a Wrecsam. Bydd y fenter yn arwain at gynnig am fuddsoddiad gwerth £160 miliwn wedi'i anelu at hwyluso twf busnesau gweithgynhyrchu uwch dros y ddegawd nesaf. 

Mae'r cyhoeddiad hwn yn fwy nag ymrwymiad ariannol - mae'n weledigaeth at  y dyfodol.  

Yr amcan yw trawsnewid Sir y Fflint a Wrecsam yn glwstwr arwyddocaol byd-eang  ar gyfer gweithgynhyrchu uwch. ⁠Mae'r rhanbarth eisoes yn adnabyddus am ei gryfder ym maes gweithgynhyrchu, a bwriad y fenter hon yw adeiladu ymhellach ar y sylfaen gadarn, gan ehangu ein enw da a'n gallu ar raddfa fyd-eang.  

Un nodwedd arbennig o'r Parth Buddsoddi yw'r hyblygrwydd a gynigir o ran dulliau ariannu. Cynlluniwyd y pecyn £160 miliwn i fod yn hawdd i'w addasu, er mwyn cyflwyno ymyriadau allweddol sydd wedi eu dylunio ar y cyd i gefnogi twf busnesau yn y sector gweithgynhyrchu uwch. Yr hyblygrwydd hwn sy'n gonglfaen i'r fenter, gan ein galluogi i deilwra'r dull i ddiwallu anghenion penodol a chyfleoedd o fewn ein cymuned. 

Mae'r erthygl hon heddiw felly yn wahoddiad ac yn alwad ar fusnesau a thirfeddianwyr i weithredu yn y rhanbarth. Rydym yn awyddus i glywed gan fusnesau sydd â safleoedd allweddol sy'n addas i'w datblygu neu fusnesau sy'n dymuno symud i Sir y Fflint a Wrecsam. Mae clywed eich safbwyntiau a'ch cynigion yn hanfodol wrth i ni weithio gyda'n gilydd i lunio ymyriadau a fydd yn gyrru twf economaidd ac yn creu swyddi. 

Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, gall busnesau gysylltu â chydlynydd y prosiect Iain Taylor: Iain@imtconsulting.co.uk