-
Alwen Williams, Prif Weithredwr, Uchelgais Gogledd Cymru
Pan siaradodd Uchelgais Gogledd Cymru yn y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd ym mis Mehefin, roeddem yn agored am realiti’r hyn yr ydym wedi’i wynebu. Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru, fel nifer o raglenni mawr sydd â buddsoddiad cyhoeddus hirdymor, wedi gorfod ymdopi drwy gyfnod o aflonyddwch digynsail. Mae pandemig byd-eang, argyfwng chwyddiant cenedlaethol, ac oedi na fu modd ei osgoi gyda rhai prosiectau, o ran cynllunio a chyllid, i gyd wedi effeithio ar ba mor sydyn yr ydym wedi medru cyflawni.
Wrth reswm, mae'r heriau hynny wedi golygu ein bod wedi bod yn destun craffu, ac rydym yn croesawu'r craffu hwnnw.
Mae tryloywder ac atebolrwydd yn greiddiol i werthoedd Uchelgais Gogledd Cymru, a byddwn bob amser yn glir ynghylch lle'r ydym wedi cyrraedd, pa gynnydd sy'n cael ei wneud, a lle y mae angen i ni fynd nesaf.
Ond, mae hefyd yn bwysig i ni gydnabod ein bod bellach yn symud yn gadarn i'r cyfeiriad cywir. Dros y 12 mis diwethaf, mae'r Cynllun Twf wedi bod yn magu gwir fomentwm.
Bellach, mae gennym chwe phrosiect sydd wrthi'n cael eu cyflawni ac mae'r rhain yn gyfystyr â buddsoddiad cyfunol o fymryn dros £55m o'r Cynllun Twf. Mae effaith amlwg ein buddsoddiad yn dechrau cydio ledled y rhanbarth.
Un o'r rhain yw CanfodAU – Canolfan Peirianneg ac Arloesi newydd ym Mhrifysgol Wrecsam. Dyma'r prosiect adeiladu llawn cyntaf dan y Cynllun Twf, ac fe gyflawnwyd hwn yn arbennig o gyflym. Mae hwn yn fwy nag adeilad, mae'n ddatganiad o fwriad: mae Gogledd Cymru yn buddsoddi yn nyfodol dysgu digidol, arloesedd a'r diwydiannau creadigol.
A dim ond un rhan o'r darlun yw hyn. Mae prosiectau allweddol eraill yn gyrru gwelliannau mewn cysylltedd digidol, yn cryfhau a sicrhau dyfodol ein sector twristiaeth a lletygarwch, ac yn ehangu gallu gwaith ymchwil i gefnogi twf gwyrdd gyda Phrifysgol Bangor. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn mentrau ynni carbon isel hanfodol - o brosiectau llif llanw i lansio ein Cronfa Ynni Glân, fydd yn helpu busnesau ar draws y sectorau i ddatgarboneiddio.
Rydym hefyd wedi cymryd cam rhagweithiol wrth sefydlu Rhestr Wrth Gefn, sy'n bortffolio o brosiectau ychwanegol sy'n caniatáu i ni addasu os bydd amgylchiadau'n newid. Mae'r dull hyblyg hwn eisoes yn talu ar ei ganfed, gan fod pedwar achos busnes o'r rhestr hwn wedi'u cyflwyno i'w hadolygu fis nesaf.
Pan gyfarfu Pwyllgor y Senedd, roedd nifer y swyddi oedd wedi'u creu hyd yma yn isel. Yn syml, mae hyn oherwydd bod union natur rhaglenni cyfalaf yn golygu bod swyddi'n tueddu i gael eu creu ar ôl i rywun gwblhau'r seilwaith. Nid yw'r swyddi sy'n gysylltiedig ag adeiladu ond yn cael eu hadrodd yn swyddogol unwaith y mae'r prosiectau yn weithredol. Wrth i fwy o brosiectau ddod yn fyw yn y 12 i 18 mis nesaf, bydd nifer y swyddi'n codi'n sylweddol.
Dyna'r gromlin twf yr ydym ni arni ar hyn o bryd.
Fel Prif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, gallaf ddatgan yn hyderus ein bod yn symud i gyfnod o gyflawni, effaith a gwir newid gweladwy. Ac rydym yn gwneud hynny mewn partneriaeth, gydag awdurdodau lleol, prifysgolion, busnesau a rhanddeiliaid cymunedol, i gyd yn chwarae eu rhan.
Roeddem yn gwybod o'r cychwyn cyntaf nad oedd hyn am fod yn hawdd. Ond rydym yn gwbl ymrwymedig. Mae gennym ffocws. Byddwn yn dal ati ac yn dyfalbarhau drwy dymhorau gwleidyddol er mwyn sicrhau y gall ein heconomi ffynnu yn yr hirdymor. Mae gennym ni undod parhaus yn ein cyd-genhadaeth: creu Gogledd Cymru sy'n gryfach, sy'n fwy gwydn, ac sy'n fwy llewyrchus heddiw ac ar gyfer y cenedlaethau i ddod.