• gan Iain Taylor, Cyfarwyddwr IMT Consulting ac Uwch Swyddog Cyswllt AMION Consulting

    Ym mis Tachwedd 2023, fel rhan o Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU, cyhoeddwyd menter arwyddocaol, sef dynodi Parth Buddsoddi yn Sir y Fflint a Wrecsam.  

Dyma ymdrech ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth cynghorau  Sir y Fflint a Wrecsam, gydag addewid o fuddsoddiad o £160 miliwn dros y deng mlynedd nesaf.  Bwriedir i'r fenter hon drawsnewid y rhanbarth yn ganolbwynt ar gyfer rhagoriaeth ym maes gweithgynhyrchu uwch, a'i datblygu yn lleoliad deniadol ar gyfer buddsoddwyr a mewnfuddsoddi. 

Un o agweddau mwyaf arwyddocaol y Parth Buddsoddi yw'r ymrwymiad hirdymor y mae'n ei gynrychioli.  Mae'r pecyn ariannu gwerth £160 miliwn yn llawer mwy nag ysgogiad tymor-byr; mae'n addewid o ddegawd o fuddsoddi parhaus yn isadeiledd y rhanbarth.  I fuddsoddwyr, bydd yn creu amgylchedd sefydlog a chefnogol i alluogi i'w busnesau ffynnu. Mae hwn yn ymrwymiad eithriadol, a phrin iawn yw'r rhanbarthau sy'n cynnig sicrwydd o gefnogaeth am o leiaf ddeng mlynedd. 

Wrth ystyried lleoliad ar gyfer buddsoddi, mae busnesau yn gwerthuso nifer o ffactorau allweddol sy'n cynnwys mynediad i adnoddau, agosrwydd at gwsmeriaid a'r gweithlu medrus sydd ar gael.  

Mae Sir y Fflint a Wrecsam yn rhagori yn yr agweddau hyn. Mae'r rhanbarth eisoes yn gartref i'r sector gweithgynhyrchu gwerth-uchel a safleoedd diwydiannol strategol. ⁠Mae'r isadeiledd hwn, ynghyd â'r tir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer twf cynlluniau lleol, yn darparu amgylchedd perffaith i fusnesau ehangu ac arloesi. 

⁠Mae'r Parth Buddsoddi yn cynnig cyfuniad unigryw o gefnogaeth a chymhellion sydd wedi eu dylunio i ddenu a chynnal busnesau. Mae'r rhain yn cynnwys rhyddhad trethi busnes, rhyddhad Yswiriant Gwladol cyflogwyr, a rhyddhad treth trafodion tir. Mae'r cymhellion hyn yn lleihau’r costau gweithredu ac yn gwella gallu cystadleuol y rhanbarth, gan annog busnesau i sefydlu a thyfu eu gweithrediadau yma. 

Mae gan Sir y Fflint a Wrecsam sylfaen ddiwydiannol sefydledig gyda photensial sylweddol am dwf. Mae tir eisoes wedi’u glustnodi ar gyfer datblygu cynlluniau lleol, ac mae awydd cryf yn y gymuned fusnes leol i ddenu cadwyni cyflenwi a chynnyrch newydd. Bwriad y Parth Buddsoddi yw manteisio ar y potensial hwn drwy ddarparu isadeiledd a chymhellion ariannol i yrru twf economaidd. 

Un o'r nodweddion sy'n neilltuol am Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yw'r agwedd holistaidd tuag at ddatblygu economaidd. Mae'n ehangach na chanolbwyntio ar un agwedd, megis isadeiledd neu gymhellion treth.  

I fuddsoddwyr sy'n chwilio am leoliad sy'n cynnig sefydlogrwydd, potensial am dwf, ynghyd â chefnogaeth gadarn, mae Sir y Fflint a Wrecsam yn cynnig cyfle heb ei ail.  

Drwy dynnu ar gryfderau'r rhanbarth a darparu cymhellion wedi eu targedu, daw'r Parth Buddsoddi yn fagned ar gyfer mewnfuddsoddi ac yn gonglfaen i ddatblygu economaidd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. 

Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, gall busnesau gysylltu â chydlynydd y prosiect Iain Taylor Iain@imtconsulting.co.uk