Bu cam sylweddol ymlaen ar gyfer cynlluniau cyn safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych yr wythnos hon yn dilyn cymeradwyo Achos Busnes Llawn (FBC) y datblygwr gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a’r penderfyniad ym Mhwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych ym mis Gorffennaf i gymeradwyo telerau Cytundeb Cynllunio. 

Bwriad y prosiect cyfalaf gwerth £107m, sy’n cael ei gyflawni gan Jones Bros, yw ailddatblygu y safle 53 erw. Mae’r cynllun yn cynnwys adfer yr adeilad rhestredig Gradd 2*, datblgyu cartrefi newydd, creu dros 1,000m2 o unedau masnachol, yn ogystal â mannau gwyrdd cymunedol. Ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd, bydd gwaith yn dechrau i drawsnewid y safle nodedig hwn fel y gall ddod yn rhan ganolog o'r gymuned eto, gan ddarparu cyflogaeth a chartrefi i bobl leol. 

Gyda’r cyllid wedi’i gytuno arno bellach, mae’r datblygiad wedi’i gynllunio i greu 360 o gyfleoedd pretisiaeth wedi’i gefnogi gan gyfleuster hyfforddiant newydd ar y safle, yn ogystal â 70 o swyddi llawn-amser erbyn 2035. Bydd Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cyfrannu £6.94m tuag at gyflawni gwaith dymchwel, adfer a bioamrywiaeth. 

Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Tir ac Eiddo Cynllun Twf Gogledd Cymru sy’n hyrwyddo cyfleoedd ac yn mynd i’r afael â heriau sy’n gysylltiedig â safleoedd datblygu ar draws y rhanbarth. 

quotation graphic

Cyng. Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych sy’n arwain ar y rhaglen Tir ac Eiddo ar Fwrdd Economaidd Uchelgais. Dywedodd:

“Mae cynlluniau ar gyfer adfywio'r adeilad hanesyddol hwn yng Ngogledd Cymru yn hanfodol i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r safle a bydd y prosiect hwn o fudd gwirioneddol i Ddinbych. Fel bwrdd, roedden ni’n fodlon bod popeth yn ei le, ac rydym yn falch o allu cymeradwyo’r achos busnes i’r prosiect symud ymlaen. Diolch i gyllid Cynllun Twf a Chyllid Llywodraeth y DU, ein gobaith yw y gallwn helpu i drawsnewid y safle adfeiliedig hwn, gan ddod â chartrefi a swyddi newydd y mae mawr eu hangen i’r dref a’r gymuned ehangach.” 

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd Huw Jones, perchennog Jones Brothers Civil Engineering:  

“Mae gan y prosiect dipyn o ffordd i fynd eto, ac mae angen mynd i'r afael â llawer o elfennau a chytuno arnynt cyn y gallwn ddechrau gweithio ar y safle.  

Fodd bynnag, mae sicrhau cyllid y Cynllun Twf yn garreg filltir allweddol i ni, ac i’r cynllun hwn. Mae ein tîm yn hyderus y gall symud ymlaen i'r cam nesaf, rwan bod cyllid wedi'i gytuno. Fel cwmni lleol rydym yn ymwybodol iawn o arwyddocâd y safle, a’r rhan y mae wedi chwarae yn hanes y dref. Mae’n haeddu cael ei adfer a dod yn ganolbwynt yn y gymuned hon unwaith eto. Yn ychwanegol i ddatblygu canolfan o’r radd flaenaf i hyfforddi ein prentisiaid, nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y bydd y cynllun yn denu buddsoddiad pellach i’r dref.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Rydw i’n falch o weld y prosiect yn cymryd y cam sylweddol hwn ymlaen. Mae gan y safle yng nghyn ysbyty Dinbych botensial aruthrol, ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd pellach. Byddwn yn parhau i weithio gydag, a chefnogi Uchelgais Gogledd Cymru ar y Cynllun Twf.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith: 

“Mae’n newyddion gwych bod y datblygiad hwn yn symud ymlaen er mwyn adfywio’r safle eiconig hwn, sy’n adfail ers cyhyd. I bobl yn Ninbych a’r cyffiniau, bydd y cyfnod adeiladu yn darparu swyddi newydd a chyfleoedd am hyfforddiant. Ac unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd cartrefi newydd, gofodau busnes, a llefydd gwyrdd agored er budd y gymuned gyfan. 

“Rydw i’n falch iawn bod buddsoddiad gan Lywodraeth y DU yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru, a chyllid Ffyniant Bro yn gymorth er mwyn cyflawni’r prosiect adfywio allweddol hwn a fydd yn effeithio mor gadarnhaol ar y gymuned.” 

quotation graphic

Bydd swyddogion y Cyngor nawr yn ceisio cymeradwyaeth i'r Cytundeb Cynllunio gael ei gwblhau gan Grŵp Aelodau Ardal Dinbych. Unwaith y bydd y broses hon wedi'i chwblhau, gellir rhyddhau'r hysbysiad caniatâd cynllunio a rhoi caniatâd cynllunio - sy'n galluogi'r gwaith i ddechrau.