Fe wnaeth Samuel Valentine, disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Dyffryn Ogwen Bethesda, ymuno â'r tîm yma yn Uchelgais Gogledd Cymru yr wythnos ddiwethaf am wythnos o brofiad gwaith.
Mae Samuel yn angerddol am gelf gysyniadol ac animeiddio felly bu'n gweithio ochr yn ochr â'n Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, Bethan, ar ychydig o animeiddiadau cyfryngau y bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn eu lansio yn y dyfodol.
Fe wnaethom holi Samuel am ei wythnos efo ni:
Sut oeddet ti'n teimlo am ymuno â'r tîm?
Roeddwn i mor nerfus i ddechrau, dydw i erioed wedi gweithio mewn amgylchedd swyddfa o'r blaen a dweud y gwir, a doeddwn i ddim wir yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ond doedd dim angen i mi boeni. Mae pawb wedi edrych ar fy ôl yn dda ac roedd yr holl dîm mor hyfryd, yn cynnig help a chefnogaeth i mi os oedd angen. Roedd yr awyrgylch yn hamddenol braf yn y swyddfa. Cefais flas go iawn o weithio mewn swyddfa ac rwyf wedi cael trio pethau nad ydw i wedi eu gwneud o'r blaen, fel creu ar Canva, gweithio aml-sgrin a defnyddio desg sefyll. Roeddwn i'n hoffi'r ffaith fy mod wedi cael darn o waith i'w wneud a'u bod wedi ymddiried ynof i'w wneud, fe wnaeth hyn i mi weithio'n galetach oherwydd roeddwn i eisiau dangos beth gallwn i ei wneud.
Beth oedd y peth gorau wnest ti yn ystod yr wythnos?
Treuliais ddiwrnod yn M-SParc gyda Rees Brown, sef Rheolwr Prosiect y Porth Sgiliau. Fe wnaeth Rees fy ngwahodd i fod yn rhan o gyfarfod oedd yn trafod datblygiad y porth sgiliau a fydd yn helpu pobl ifanc drwy Gymru i ganfod gwybodaeth ynghylch pa sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rolau penodol, a lle gallant gael hyd i hyfforddiant ac ati. Roedd hi'n ddiddorol iawn gweld datblygiad y porth hyd yn hyn, a hefyd gallu rhoi adborth fel person ifanc am y platfform a rhannu fy marn a'm syniadau. Dwi'n meddwl y bydd yn declyn defnyddiol dros ben pan mae'n weithredol ac rwy'n gobeithio bod fy nghyfraniad i wedi helpu gyda'r elfen ddylunio.
Oedd yna unrhyw beth nad oeddet yn ei hoffi?
Ddim wir, nag oedd. Roedd popeth yn grêt.
Beth wnest ti ei ddysgu?
Efallai fod hyn yn swnio'n wirion, ond fe ddysgais sut i ddal trên i Landudno (o Fangor) ac yn ôl ar fy mhen fy hun a theimlo'n hyderus wrth wneud hynny. Dysgais hefyd, hyd yn oed os oes gennyt un darn o waith unigol mae'n cymryd tîm i'w wneud yn wych a bod gwaith tîm mor bwysig. Dysgais fy mod yn gallu ac y dylwn bob tro ofyn am help. Dysgais gryn dipyn am leihau carbon a bioamrywiaeth a sut mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio'n galed i leihau Carbon 40% yn ystod gwaith adeiladu o fewn ei brosiectau.
Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth unrhyw un arall sy'n meddwl am holi Uchelgais Gogledd Cymru am leoliad gwaith?
Dos amdani! Cysyllta efo nhw, mae'r tîm mor gyfeillgar a chefnogol, gydag amrywiaeth mor eang o sgiliau a meysydd o ddiddordeb ac arbenigedd. Cefais flas go iawn o fywyd yn Uchelgais Gogledd Cymru, sut beth yw gweithio fel rhan o dîm, sut beth yw gweithio yn y swyddfa a gartref, a chefais gymaint o gyfleoedd mewn amser mor fyr.
Dwi eisiau diolch i bawb yn Uchelgais Gogledd Cymru am y cyfle yn enwedig Nia Medi Williams, Bethan Airey, Rees Brown a Dan Powell (mae Dan ar leoliad o Brifysgol Bangor a chymerodd fi dan ei adain ar y diwrnod cyntaf, gan fy helpu gyda'r trên a ffeindio fy ffordd o amgylch yr adeilad ac ati).
Mae'r tîm yma yn llawn edmygedd at sgil a thalent Samuel ac roeddem mor falch ei fod wedi ymuno â ni am yr wythnos. Daeth yn aelod o'r tîm yn syth bin ac fe wnaeth lawer o waith mewn amser byr iawn. Fe wnaeth hyd yn oed gadeirio'r cyfarfod tîm a gawn ar ddydd Gwener a rhoddodd y dasg i'r tîm o rannu beth oedd eu hoff ffilm neu gyfres wedi'i hanimeiddio – a arweiniodd at nifer o sgyrsiau diddorol.
Rydym mor falch fod Samuel wedi cael wythnos brofiad gwaith werthfawr efo ni a fedrwn ni ddim aros i gael cyhoeddi ei waith – a dweud y gwir, mae Samuel wedi gwirfoddoli i orffen rhai rhannau yn ei amser ei hun dros yr wythnosau nesaf, ar ôl cael adborth ar ei waith, fel eu bod yn barod i'w cyhoeddi!
Da iawn Samuel, roedd hi'n bleser dy gael yma yn Uchelgais Gogledd Cymru. Rydym yn meddwl fod gennyt ddyfodol mawr a disglair iawn o dy flaen.