Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi croesawu’r gydnabyddiaeth a roddwyd i’w brosiect Cydnerth, yn ystod areithiau gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng nghynhadledd Ynni Morol Cymru heddiw.
Yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, mae Cydnerth yn fuddsoddiad yng nghynllun ynni llanw Morlais sy'n cael ei redeg gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn. Bydd y prosiect yn cefnogi ehangu Morlais – gan gyflawni buddion megis ysgogi twf economaidd, swyddi o ansawdd uchel, a sicrhau bod Gogledd Cymru yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol ynni llanw a chynhyrchu trydan glân.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn ei haraith:
"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Uchelgais Gogledd Cymru a Menter Môn Morlais wedi cytuno ar delerau ariannu mewn egwyddor ar gyfer prosiect Cydnerth. Bydd y buddsoddiad hwn o £8.9m drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn diogelu Morlais i'r dyfodol.
""Bydd buddsoddiad Cynllun Twf Gogledd Cymru nawr yn galluogi capasiti grid 18 megawat y cynllun i gynyddu dros amser i 240 megawat.”

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, hefyd yn cefnogi’r prosiect gan ddweud:
“Mae Llywodraeth y DU yn gefnogol i brosiect Morlais, sy’n addo harneisio ynni’r llanw a chreu swyddi o ansawdd uchel yn ein cymunedau arfordirol.
"Fel rhan o'n cenhadaeth ynni glân, rydym wedi cynyddu o 50% y gyllideb ffrwd llanw sydd wedi'i chlust nodi, a fydd yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd ar gyfer ynni llanw yng ngogledd Cymru ac yn sbarduno twf economaidd."
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:
"Ni ellir tanbrisio arwyddocâd Cydnerth. Fel y cynllun llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi derbyn caniatâd, mae'r effaith gadarnhaol a'r buddion yn sgil y cynllun yn sylweddol, a bydd yn cadarnhau lle ein rhanbarth fel arweinydd mewn ynni llanw."
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglen Ynni Carbon Isel Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn:
"Mae Cydnerth yn newyddion cadarnhaol iawn i'r sector ynni morol yng Nghymru ac mae'n atgyfnerthu ymrwymiad ein rhanbarth i ddyfodol cynaliadwy – creu'r math cywir o swyddi ochr yn ochr â buddion amgylcheddol."
Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:
“Rydym yn ddiolchgar i Uchelgais Gogledd Cymru am eu buddsoddiad a’u cefnogaeth barhaus trwy brosiect Cydnerth. Trwy’r gefnogaeth hon gan Gynllun Twf Gogledd Cymru gallwn nawr gymryd y cam nesaf i ehangu cynllun ynni llanw Morlais, gan ddod â buddion i’n cymunedau, creu swyddi lleol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi leol a chyfrannu at dwf cynaliadwy’r rhanbarth.”
Mae Morlais wedi'i leoli oddi ar arfordir gogledd-orllewinol Ynys Cybi, Ynys Môn a bydd yn cynhyrchu trydan gan ddefnyddio ynni o rai o'r adnoddau llanw cryfaf yn y DU.