Bydd Gogledd Cymru yn adeiladu ar ei chryfder fel arweinydd ym maes ynni carbon isel, wedi i'r achos busnes llawn ar gyfer Cronfa Ynni Glân y rhanbarth, sy’n werth £24.6 miliwn gael ei gymeradwyo’n ddiweddar.
Bydd y gronfa, sy'n rhan o raglen Ynni Carbon Isel Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn cynnig arian dyled gyfalaf yn bennaf i brosiectau'r sector preifat gyda chyllid cyfalaf grant/dyled ar gael i brosiectau'r sector gwirfoddol sy'n canolbwyntio ar ynni glân. Bydd gan y gronfa yr hyblygrwydd i ystyried buddsoddiadau mewn sectorau eraill a thrwy fecanweithiau cyllido eraill lle mae prosiectau'n cyd-fynd yn glir ag amcanion y gronfa. Disgwylir y bydd y gronfa yn cynhyrchu £100 miliwn mewn buddsoddiad rhanbarthol, yn creu dros 150 o swyddi newydd, yn lleihau cyfwerth â charbon deuocsid hyd at 125,000 tunnell, ac yn cefnogi perchnogaeth leol.
Bydd y buddsoddiad yn cefnogi ystod o dechnolegau a gweithgareddau, gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy, prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ôl-ffitio, systemau ynni clyfar, a gweithgynhyrchu ynni glân.
Dywedodd y Cyng Gary Pritchard, Arweinydd, Cyngor Sir Ynys Môn a’r Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglen Ynni Carbon Isel Uchelgais Gogledd Cymru:
"Mae cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn yn gam mawr ymlaen i'n rhaglen Ynni Carbon Isel. Mae'r Gronfa Ynni Glân wedi'i chynllunio i ymateb i anghenion ein rhanbarth, gan ddarparu'r gefnogaeth gywir i sefydliadau sydd eisiau ysgogi arloesedd a helpu i gyflawni ein nodau hinsawdd.
"Rydym yn falch o gymryd dull cydweithredol, gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i hyrwyddo cyfleoedd newydd a sicrhau y gall ein cymunedau elwa o'r trawsnewidiad i economi sero net."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae cymeradwyo’r Gronfa Ynni Glân yn newyddion gwych i Ogledd Cymru, gan agor y drws i fwy o gyfleoedd ar gyfer sector ynni glân ffyniannus y rhanbarth. Gyda’i hadnoddau naturiol toreithiog, ei gweithlu medrus, a’i ymrwymiad i gynaliadwyedd, mae Gogledd Cymru mewn sefyllfa unigryw i arwain y ffordd o ran harneisio ynni adnewyddadwy. Edrychaf ymlaen at weld datblygiadau arloesol a fydd yn sbarduno twf economaidd wrth hyrwyddo ein trawsnewidiad i ddyfodol mwy gwyrdd.”
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith:
“Mae’r golau gwyrdd i’r Gronfa Ynni Glân yn newyddion gwych i Ogledd Cymru. Wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU, trwy Gynllun Twf Gogledd Cymru, mi fydd yn pweru twf economaidd ac yn creu swyddi newydd a fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld prosiectau arloesol yn dod ymlaen i gael cefnogaeth, gan atgyfnerthu enw da cynyddol Gogledd Cymru yn y sector ynni glân a chyfrannu at dwf economaidd a chenadaethau ynni glân Llywodraeth y DU.”
Bydd y gronfa, sydd i'w lansio ym mis Gorffennaf, ar agor ar gyfer ceisiadau dros gyfnod cychwynnol o bum mlynedd, gyda'r potensial i ymestyn i 2035 yn dibynnu ar ddefnydd a pherfformiad. Rhaid i brosiectau fod ar waith o fewn 36 mis ar ôl derbyn buddsoddiad, a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu cyllid cyfatebol. Trwy ddatgloi buddsoddiad, bydd y gronfa yn cyflymu'r cynnydd tuag at dargedau sero net i Gymru a'r DU.
Penodwyd yr ymgynghorwyr UMi (mewn partneriaeth ag Optimum Elite ac Auditel), ynghyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (sy'n gweithio gydag Ynni Cymunedol Cymru a Mantell Gwynedd), ddiwedd 2024 i helpu i lunio a chyflawni'r gronfa. Gyda'i gilydd, maent yn cyfuno arbenigedd masnachol ochr yn ochr â dealltwriaeth fanwl o'r sector gwirfoddol, a fydd yn sicrhau bod y gronfa’n cael ei dylunio a’i chyflawni yn effeithiol.
Trwy gefnogi arloesedd a seilwaith ynni glân, nod y gronfa yw gwneud Gogledd Cymru yn chwaraewr allweddol yn nhrawsnewidiad ynni'r DU, tra'n darparu manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol parhaol i'r rhanbarth.