Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi cyhoeddi piblinell gref o brosiectau newydd, fydd yn cael cyfle i ymgeisio yn y dyfodol am ran o gyllid y Cynllun Twf sydd heb ei ddyrannu.

Nod y datblygiad yw sbarduno twf rhanbarthol drwy gyflawni prosiectau economaidd cynaliadwy ledled y Gogledd, fydd yn creu swyddi ac yn cyd-fynd ag ymrwymiadau amgylcheddol. 

Mae pob prosiect newydd posib, gydag 16 wedi'u cadarnhau - ac 17fed yn amodol ar gadarnhau sgôp, wedi'u rhoi ar Restr wrth Gefn. Rhaid i'r prosiectau yn awr lunio Achosion Busnes i sicrhau rhan o'r cyllid - fydd yn cael eu hystyried o ran eu heffaith ar y rhanbarth a pha mor sydyn allant fwrw ymlaen i gael eu cyflawni.  

Lluniwyd y Rhestr wrth Gefn ar ôl i Uchelgais Gogledd Cymru adolygu ei brosiectau Cynllun Twf ei hun - gan ryddhau £51m o gyllid cychwynnol, ynghyd â phroses mynegiant o ddiddordeb dilynol. Cafodd partneriaid Uchelgais Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eu gwahodd i gyflwyno eu cynigion blaenoriaeth ar gyfer y sector cyhoeddus a phreifat i'w hystyried. 

Bu'r cyllid a ryddhawyd gan Uchelgais Gogledd Cymru, yn dilyn adolygiad portffolio, yn bosib oherwydd ei benderfyniad i dynnu dau o'i brosiectau Cynllun Twf yn ôl, a symud tri i'r Rhestr wrth Gefn newydd - gan ddod â chyfanswm y cynlluniau ar y rhestr i 20.  

quotation graphic

Y Cyng. Mark Pritchard, Cadeirydd, Uchelgais Gogledd Cymru:

 

"Mae ein henw yn dweud y cyfan - mae gennym uchelgeisiau ar gyfer Gogledd Cymru ac rydym eisiau cyflawni yn gynt ac mewn ffordd fwy blaengar i'r rhanbarth. Mae'r Rhestr wrth Gefn newydd hon yn cynnwys prosiectau gyda photensial i wneud yn union hynny - oherwydd dylent allu llunio Achosion Busnes dros y 12-18 mis nesaf gyda'r bwriad o symud yn sydyn at gyflawni, petaent yn derbyn cymeradwyaeth. Bydd y canlyniad yn gwella cyflymdra cyflawniad twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth."  

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:  

“Rydym yn croesawu’r gwaith a wnaed gan Uchelgais Gogledd Cymru i adolygu prosiectau presennol a nodi piblinell o gynigion newydd posibl. Mae hyn yn rhoi cyfle i bwyso a mesur y cynnydd hyd yma a datgloi cyfleoedd newydd, gan wneud y mwyaf o’r potensial i fuddsoddi mewn datblygiadau trawsnewidiol a all sicrhau twf a swyddi cynaliadwy yn gyflym ar draws y rhanbarth. Edrychwn ymlaen at weld y gwaith hwn yn mynd rhagddo dros y misoedd nesaf.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Y Fonesig Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru: 

 

“It’s great to see a strong reserve list of projects come forward for investment. 

  

“The purpose of UK Government’s funding of Ambition North Wales is to deliver economic growth to the region and create well-paid jobs that will put more money in people’s pockets. It’s important that successful projects help us to deliver on that commitment.” 

quotation graphic

Rhestrir y prosiectau, sy'n eistedd ar draws rhaglenni'r Cynllun Twf, yma.

Bydd cynnydd ar gyflawnadwyedd prosiectau'r Rhestr wrth Gefn yn cael ei adolygu bob chwe mis gan Uchelgais Gogledd Cymru. Mae posibilrwydd y gallai hyn roi cyfle i gynigion prosiect ychwanegol gael eu hystyried. Gofynnir i sefydliadau gyda chynlluniau arfaethedig o'r fath ymgysylltu â thîm datblygiad economaidd eu hawdurdod lleol perthnasol yn y lle cyntaf.