-
gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru a Phrif Weithredwr Dros Dro, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
Pan adewais Ogledd Cymru yn 20 oed, nid gwneud hynny oherwydd fy mod i eisiau oeddwn i; gadewais oherwydd, fel cymaint o rai eraill, roeddwn i'n teimlo na fyddai aros yn caniatáu i mi ddilyn yr yrfa yr oeddwn i eisiau ei dilyn. Dros ddau ddegawd yn ddiweddarach, dychwelais gydag ymdeimlad cryf o bwrpas ac ymrwymiad i gyfrannu at ranbarth yr wyf wedi ei alw'n gartref erioed.
Nawr, fel Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, rwy'n ymroddedig i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael y dewis i aros ac adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus a boddhaus yng Ngogledd Cymru heb deimlo bod gorfodaeth arnynt i edrych yn rhywle arall.
Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn gam sylweddol tuag at greu'r dewis hwnnw. Drwy fuddsoddiad o £240 miliwn – a ariennir yn gyfartal gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU - a chydag uchelgeisiau gwerth cyfanswm o £1 biliwn, mae'r Cynllun Twf yn ceisio creu miloedd o swyddi newydd ac economi ffyniannus.
Fodd bynnag, nid twf economaidd yw'r unig elfen; mae'n ymwneud â chreu twf cynaliadwy a chynhwysol a fydd yn caniatáu i bobl ifanc ffynnu yn lleol mewn sectorau sy'n cyd-fynd â chryfderau'r Gogledd, megis gweithgynhyrchu gwerth uchel, bwyd-amaeth, twristiaeth ac ynni carbon isel.
Un o gonglfeini'r weledigaeth hon yw mynd i'r afael â rhwystrau hirsefydlog sydd wedi dal rhannau o'n heconomi'n ôl, gan gynnwys seilwaith digidol cyfyngedig a diffyg safleoedd tir ac eiddo deniadol i fusnesau. Drwy fynd i'r afael â'r heriau hyn yn uniongyrchol, gallwn greu amgylchedd lle mae swyddi medrus a gyrfaoedd gwerth uchel ar gael i'n pobl ifanc yma yn y rhanbarth.
Rydym hefyd yn gwybod bod gwir drawsnewid yn golygu mwy na buddsoddiad busnes yn unig. Er mwyn i berson ifanc wirioneddol ystyried aros yn y Gogledd, mae angen opsiynau trafnidiaeth dibynadwy, tai fforddiadwy, a mynediad at hyfforddiant ac addysg o'r radd flaenaf sy'n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Mae'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a datblygu strategol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn hanfodol i'r ecosystem ehangach hon.
Ein nod yw peidio â dal pobl ifanc yn ôl na chyfyngu ar eu gorwelion; yn hytrach, rydym am eu grymuso gyda'r dewis i aros, gan wybod bod ganddynt bob cyfle i lwyddo yma. I blentyn yn yr ysgol gynradd heddiw, rwy'n gobeithio y bydd y dyfodol yn cynnig opsiynau hyfyw ar draws economi'r Gogledd sy'n tyfu, boed hynny mewn sectorau datblygedig fel gwynt ar y môr ac ynni adnewyddadwy neu mewn diwydiannau sefydledig fel amaethyddiaeth a thwristiaeth.
Ar ben hynny, rydym am i'r Gogledd fod yn fan lle mae pobl yn cael eu denu nid yn unig i aros ond hefyd i ddychwelyd ar ôl amser i ffwrdd. Mae llawer o bobl, gan gynnwys fi fy hun, yn teimlo'r hiraeth yn ddiweddarach mewn bywyd. Drwy adeiladu economi ddeinamig, wydn, gyda chyfleoedd gwaith amrywiol a thirwedd ddiwylliannol gyfoethog, gallwn groesawu'n ôl y rhai sydd am ailgysylltu a chyfrannu at y rhanbarth.
Mae ein huchelgeisiau yn bellgyrhaeddol, ac mae'r Cynllun Twf yn gyfrwng hanfodol i ddod â'r nodau hyn o fewn cyrraedd. Ond bydd gwireddu'r weledigaeth hon yn golygu cydweithio parhaus rhwng awdurdodau lleol, busnesau, sefydliadau addysgol, a'n cymunedau. Gyda'n gilydd, gallwn greu Gogledd Cymru sy'n barod i gynnig y dewis i'r genhedlaeth nesaf nad oedd gennym ni bob amser - dewis i aros a ffynnu.