Mae menter sgiliau bwysig sy'n anelu at gryfhau gweithlu sector twristiaeth a lletygarwch gogledd Cymru yn y dyfodol bellach yn symud i'r cyfnod cyflawni yn dilyn lansio Academi Croeso, partneriaeth newydd a gefnogir drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru.
Dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai, mae'r prosiect yn dod â chyflogwyr, addysgwyr a chyrff diwydiant at ei gilydd trwy fodel prif ganolfan a lloerennau sydd wedi'i gynllunio i greu un llwybr cydlynol i hyfforddiant, prentisiaethau a datblygiad gyrfa ar draws yr economi ymwelwyr.
Mae sector twristiaeth a lletygarwch y rhanbarth yn cyfrannu'n sylweddol at economi sylfaenol gogledd Cymru, gan gefnogi miloedd o swyddi. Ond dywed cyflogwyr bod heriau hirsefydlog ynghylch recriwtio, cadw a chanfyddiadau o'r diwydiant yn parhau i atal twf.
Crëwyd Academi Croeso i fynd i'r afael â'r materion hyn trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau, gwella mynediad at hyfforddiant, a datblygu llwybrau gyrfa mwy eglur i bobl ar bob cam.
Wrth siarad ar bodlediad Uchelgais Gogledd Cymru, dywedodd Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf yn Uchelgais Gogledd Cymru, bod y fenter yn rhan o Raglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth y Cynllun Twf a'i nod yw cryfhau sylfaen sgiliau'r rhanbarth.
Dywedodd bod disgwyl i'r prosiect gefnogi mwy na 250 o brentisiaid dros ddeng mlynedd, creu bron i 70 o swyddi a chyfrannu dros £36 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros. Pwysleisiodd Elliw hefyd bwysigrwydd cydweithio, gyda mwy na 100 o ymgysylltiadau wedi'u cynllunio gyda chyflogwyr, busnesau bach a chanolig, ac unig fasnachwyr.
Yng nghanol y model mae campws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos, sy'n gwasanaethu fel prif ganolfan.
Y partneriaid lloeren yw Portmeirion Cyf., Theatr Clwyd a Zip World, ac mae partneriaethau strategol Snowdonia Hospitality and Leisure, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol - i gyd yn cynnig amgylcheddau hyfforddi ymarferol ar draws y rhanbarth.
Disgrifiodd Gwenllian Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Masnachol grŵp y coleg, y fenter fel ffordd o greu un pwynt mynediad ar gyfer sgiliau yn y sector, gan ddweud: "Mae'n un ffenestr siop... yn siarad efo un llais a'n bod ni yma fel un i ymateb i anghenion a chyfleoedd economi gogledd Cymru."
Ychwanegodd Gwenllian fod y buddsoddiad drwy'r Cynllun Twf yn galluogi'r "cyfleusterau gorau yn y dosbarth", gan roi mynediad i ddysgwyr at amgylcheddau sy'n adlewyrchu lleoliadau go iawn.
Bwriad y model hefyd yw ehangu cyrhaeddiad hyfforddiant y tu hwnt i swyddi twristiaeth a lletygarwch uniongyrchol. Tynnodd Gwenllian sylw at ddiddordeb cynyddol o sectorau eraill lle gallai trosglwyddo gwybodaeth, prentisiaethau a hyfforddiant masnachol chwarae rôl ehangach. Dywedodd fod y fenter yn adlewyrchu hyder yn y sector a'r rhanbarth, gyda'r bartneriaeth yn arwydd o ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi mewn pobl a chymunedau.
Mae partneriaid sy'n ymwneud â chyflawni yn credu bod gan y fenter y potensial i ail-lunio sut mae gwahanol rannau o'r economi ymwelwyr yn gweithio gyda'i gilydd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Swyddog Gweithredol Theatr Clwyd, Liam Evans-Ford, nad oedd y diwydiannau creadigol yn cael eu hystyried yn rhan o'r gweithlu twristiaeth a lletygarwch yn draddodiadol, er y gorgyffwrdd amlwg mewn sgiliau a'r rôl y mae lleoliadau diwylliannol yn ei chwarae wrth ddod ag ymwelwyr i'r rhanbarth. Bydd y theatr yn darparu o leiaf 50 o brentisiaethau ar draws meysydd marchnata, cynhyrchu, digwyddiadau, rheolaeth dyletswyddau a lletygarwch, gyda chefnogaeth ei chyfleusterau sydd newydd eu hailddatblygu.
Ym Mhortmeirion Cyf., dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Robin Llewelyn fod y cyfle i gryfhau cysylltiadau rhwng lleoliadau lletygarwch a chynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn fantais allweddol. Esboniodd y gallai'r prosiect gefnogi perthynas agosach rhwng ceginau, cynhyrchwyr a chyflenwyr, gan roi cyfle i brentisiaid ddeall y gadwyn lawn, o gynnyrch lleol i brofiad ymwelwyr. Nododd Robin hefyd nad yw llawer o bobl sy'n mynd i'r maes lletygarwch yn ei weld bob amser fel gyrfa hirdymor, a dywedodd fod gan y prosiect y potensial i newid canfyddiadau trwy gynnig llwybrau strwythuredig a chyfleoedd datblygu.