Mae achos busnes amlinellol ar gyfer y ganolfan sgiliau twristiaeth gyntaf yng Nghymru wedi derbyn sêl bendith gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Gyda chyrraedd y garreg filltir hon gall y prosiect symud ymlaen i ddatblygu achos busnes llawn, sef y cam olaf er mwyn sicrhau arian Cynllun Twf.
Grŵp Llandrillo Menai sy’n arwain ar y Rhwydwaith Talent Twristiaeth, gyda’r nod o drawsnewid sut mae sgiliau ar gyfer y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn cael eu datblygu. Trwy gydlynu gwaith sector cyhoeddus a sector breifat ar hyfforddiant a datblygu cynnyrch, bwriad partneriaid yw hyrwyddo twf mewn twristiaeth yn y rhanbarth gyda phwyslais yn benodol ar gynaliadwyedd.
Y Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yw Aelod Arweiniol rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, dywedodd:
“Roedden ni’n falch o allu cymeradwyo’r achos busnes amlinellol ar gyfer y prosiect hwn yn ddiweddar. Mae’n gam pwysig ac yn un fydd yn cyfrannu at ddatblygu economi sylfaen gref yn y rhanbarth, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd gwaith a ddaw o’n diwylliant, ein hamgylchedd a’n tirwedd.
“Mae cyfanswm buddsoddiad yn y Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn £12.88m a hynny mewn seilwaith addysg a hyfforddiant mewn sector sy’n allweddol i economi’r ardal. Bydd tua 100 o fusnesau twristiaeth a lletygarwch ar draws y rhanbarth yn elwa o’r cynllun gydag uwchsgilio’r gweithlu, creu hyd at 68 o swyddi newydd a chefnogi 250 o brentisiaethau.”
Mae Lawrence Wood yn Bennaeth Coleg Llandrillo, mae’n egluro:
“Rydyn ni’n falch bod y prosiect hwn wedi cyrraedd cam mor bwysig wrth i ni greu rhwydwaith addysg a hyfforddiant lletygarwch a thwristiaeth unigryw ar gyfer Gogledd Cymru.
“Bydd cydweithio rhwng y ganolfan ragoriaeth newydd yng Ngholeg Llandrillo a chyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf yn ein lleoliadau partner yn sicrhau datblygu gweithlu o safon uchel ar gyfer y sector ac yn hyrwyddo twf economaidd.”
Nod y prosiect yn rhoi’r seilwaith angenrheidiol yn ei le i ddarparu hyfforddiant a phrentisiaethau gyda phwyslais ar arloesi a diwylliant yn ogystal â chynaliadwyedd.
Bydd canolfan hyfforddi yn cael ei datblygu ar gampws Llandrillo-yn-Rhos Grŵp Llandrillo Menai er mwyn cynnig cymwysterau arbenigol. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan rwydwaith o fusnesau a sefydliadau yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Portmeirion, Snowdonia Hospitality & Leisure a Zip World, oll yn darparu cyfleoedd prentisiaeth.
Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr, Portmeirion Cyf:
“Bydd y buddsoddiad cyfalaf a grëwyd gan Gynllun Twf Gogledd Cymru yn galluogi Portmeirion Cyf i ddatblygu rhaglen brentisiaeth mewn cyfleusterau wedi’i hadeiladu’n bwrpasol. Ei nod fydd datblygu sgiliau rheoli ac arwain er mwyn i bobl leol allu ymuno â’r diwydiant lletygarwch ar lefel uwch, gan arwain at weithlu â sgiliau uwch a swyddi mwy cynaliadwy. Ar yr un pryd bydd yn codi proffil y diwydiant ac yn arddangos y llu o gyfleoedd gyrfa ragorol sy’n bodoli o fewn y sector.”
Jeremy Barlow, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
“Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth hon. Bydd yn dod â chyfleoedd a sgiliau i bobl ifanc sy’n chwilio am waith yn un o’r gyrfaoedd niferus sydd eu hangen i ofalu am y lleoedd anhygoel yn ein gofal ac i sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad gwych.”
Glenn Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr, Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd:
“Rydym wrth ein bodd bod ymroddiad a dyfalbarhad Grŵp Llandrillo Menai wedi’u gwobrwyo gyda chymeradwyaeth Achos Busnes Amlinellol llwyddiannus ar gyfer y Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Mae’r sector bywiog, arloesol a deinamig hwn yn cyfrannu cymaint at ein heconomïau lleol a gwledig ac rydym yn falch o chwarae ein rhan mewn hyfforddi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o newydd-ddyfodiaid. Bydd bargen Uchelgais Gogledd Cymru yn caniatáu inni gyflwyno cyfleusterau trawsnewidiol ochr yn ochr â phrentisiaethau medrus yn y byd go iawn sy’n arwain at yrfaoedd cynaliadwy, wedi’u hintegreiddio â rhaglen addysgol o safon fyd-eang.
“Rydym yn diolch i Lawrence, Claire a’r holl dîm yng Ngholeg Llandrillo am eu gwaith caled parhaus yn troi cysyniad 2018 yn brosiect sy’n newid y diwydiant ac yn taflu goleuni ar ragoriaeth ar sector lletygarwch Gogledd Cymru.”
Dywedodd Andrew Hudson, Prif Swyddog Masnachol Zip World:
“Ni allai’r prosiect cyffrous hwn gyda Grŵp Llandrillo Menai, ddod ar amser gwell i ni wrth gynllunio ein twf i’r dyfodol tra’n adeiladu hefyd ar ein cynnig twristiaeth cynaliadwy. Bydd yn creu’r math o gyfleusterau sydd o safon yd-eang y gall ein cymunedau fod yn falch ohonynt a gobeithio y byddant yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent twristiaeth.’’
Mae prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn rhan o raglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth Cynllun Twf Gogledd Cymru. Y prif amcan yw adeiladu ar y sector amaeth, bwyd a diod yng Ngogledd Cymru, tra hefyd yn cefnogi buddsoddiad pellach mewn twristiaeth o ansawdd uchel.
Mae achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae pob cynllun busnes yn cynnwys cyfnod cynllunio'r prosiect ac yn nodi opsiynau sy'n sicrhau'r gwerth cyhoeddus gorau yn dilyn gwerthusiadau manwl.