Mae gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar Cydnerth, prosiect fydd yn cefnogi ymestyn cynllun ynni llanw Morlais, gan nodi carreg filltir bwysig i economi carbon isel Gogledd Cymru.

Mae gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar Cydnerth, prosiect fydd yn cefnogi ymestyn cynllun ynni llanw Morlais, gan nodi carreg filltir bwysig i economi carbon isel Gogledd Cymru.  

Gyda’r gweithlu eisoes ar y safle  ym Mharc Cybi, ger tref Caergybi, y nod yw cryfhau seilwaith y grid ar gyfer Morlais, sy’n cael ei redeg gan menter gymdeithasol leol, Menter Môn Morlais Cyf. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda chyllid hefyd gan Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd Cydnerth sy’n brosiect gwerth £16 miliwn yn sicrhau dyfodol Morlais drwy gryfhau a chynyddu capasiti’r grid dros amser o 18MW i 240MW. 

Mae’r gwaith adeiladu cychwynnol yn cynnwys gosod ceblau o dan y ddaear i drosglwyddo trydan glân o is-orsaf Morlais ger Ynys Lawd i’r grid cenedlaethol.  

quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Gary Prichard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a’r Aelod Arweiniol dros y Rhaglen Ynni Carbon Isel:

“Mae hwn yn gam mawr ymlaen i Morlais a Gogledd Cymru. Gall y prosiect bellach ddefnyddio cyllid o’r Cynllun Twf i sicrhau ei ddyfodol, gan greu cyfleoedd economaidd, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chefnogi swyddi lleol. Bydd hefyd yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol ynni llanw a thrydan glân.” 

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Menter Môn Morlais Cyf:

“Mae hyn yn arwyddocaol ac yn rhan bwysig o’r daith tuag at gyrraedd potensial adnoddau llanw Ynys Môn a sefydlu’r ardal fel canolfan bwysig ar gyfer ynni cynaliadwy. Mae’r gwaith ym Mharc Cybi yn hanfodol i’r nod hwnnw. Fel sefydliad lleol, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu budd economaidd i’n cymuned wrth i ni ddatblygu cynllun fydd yn diogelu’r amgylchedd. Rydyn ni’n ddiolchgar am gefnogaeth y Cynllun Twf trwy Uchelgais Gogledd Cymru, mae’n  hanfodol wrth i ni symud Morlais ymlaen.” 

quotation graphic

Cwmni Jones Bros Civil Engineering UK, o Ogledd Cymru, gyda'i record o greu swyddi a phrentisiaethau lleol, sydd wedi sicrhau'r contract ar gyfer y gwaith adeiladu a gosod ceblau ar gyfer Cydnerth. 

quotation graphic

Dywedodd Eryl Roberts, cyfarwyddwr contractau Jones Bros:

“Rydyn ni’n falch iawn o gael ein penodi i gyflawni Cydnerth, cam nesaf gosod seilwaith ar gyfer cynllun Morlais, sydd ar ein carreg drws yma yng Ngogledd Cymru. Yn debyg i bob un o’n prosiectau, rydyn ni’n falch o ddarparu cyfleoedd cadwyn cyflenwi a chyflogaeth lleol ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio ar y safle i gyflawni’r cynllun pwysig hwn.” 

quotation graphic

Mae Cydnerth yn rhan o Raglen Carbon Isel Cynllun Twf Gogledd Cymru, sy’n fuddsoddiad o £1 biliwn yn economi’r rhanbarth, gyda £240 miliwn ohono yn cael ei ariannu ar y cyd gan Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. 

quotation graphic

Dywedodd Rebecca Evans MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: 

"Mae dechrau'r gwaith adeiladu ar brosiect Cydnerth yn cynrychioli carreg filltir bwysig arall yn nhaith Gogledd Cymru i ddod yn bwerdy ynni adnewyddadwy. Bydd y buddsoddiad hwn o £16 miliwn, a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru, yn datgloi potensial llawn cynllun ynni llanw Morlais ac yn dangos ein hymrwymiad diysgog i'r newid i garbon isel. Drwy gynyddu capasiti'r grid o 18MW i 240MW, nid yn unig yr ydym yn cefnogi cynhyrchu ynni glân - rydym yn creu cyfleoedd economaidd parhaol a swyddi o ansawdd uchel i gymunedau lleol." 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith: 
“Mae’n newyddion gwych bod y prosiect seilwaith mawr hwn yng Nghaergybi bellach ar y gweill. Mae prosiect Cydnerth yn helpu i atgyfnerthu enw da cynyddol Gogledd Cymru fel canolfan ynni glân. 

 “Rwyf wrth fy modd bod cyllid Llywodraeth y DU yn cefnogi’r prosiect ac yn ein helpu i gyflawni ein cenadaethau ynni glân a thwf economaidd.” 

quotation graphic