Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi croesawu’n gryf gyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd Wylfa ar Ynys Môn yn dod yn safle ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd. . 

Disgwylir i raddfa’r buddsoddiad yn Wylfa fod yn ddigynsail a gallai gynhyrchu digon o drydan i bweru Cymru gyfan a gweithredu fel catalydd enfawr ar gyfer twf economaidd ar Ynys Môn ac ar draws y rhanbarth ehangach. Bydd cannoedd o swyddi’n cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu yn unig, gyda miloedd o swyddi newydd i ddilyn – gan ddatgloi cyfleoedd i fusnesau lleol, gwelliannau seilwaith, a datblygu sgiliau ar draws y rhanbarth. 

Yn ogystal â hwb sylweddol i dwf rhanbarthol, bydd yr orsaf newydd yn darparu gyrfaoedd o ansawdd uchel - gan alluogi pobl ifanc i adeiladu bywydau a gyrfaoedd gwerth chweil yn agos at eu cartrefi, yn ogystal â denu pobl yn ôl i'r ardal. Mae hyn yn arbennig o allweddol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith er mwyn helpu i gadw a chryfhau hunaniaeth ddiwylliannol.

quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd, Uchelgais Gogledd Cymru:

“Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Ogledd Cymru. Mae Wylfa wedi cael ei gydnabod ers tro fel safle addas ar gyfer buddsoddiad niwclear mawr o ystyried ei leoliad strategol, cysylltedd grid cadarn a gwaith paratoi helaeth - felly mae cael cadarnhad ar ei ddatblygiad yn newyddion hynod gadarnhaol. 

“Mae’r safle mewn sefyllfa unigryw i ddarparu ynni glân, dibynadwy tra’n creu miloedd o swyddi ac adfywio cymunedau. Mae Uchelgais Gogledd Cymru felly’n falch o gefnogi’r prosiect, a hoffem annog llunwyr polisi a buddsoddwyr i wneud cychwyn ar y rhaglen waith cyn gynted â phosibl, er budd Cymru a’r DU yn ehangach.”

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Arweiniol Rhaglen Ynni Carbon Isel, Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Môn:  

 “Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ar gyfer y gwaith o adeiladu niwclear newydd ar Ynys Môn. Os, fel yr ydym yn gobeithio, y bydd y cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu - bydd yn darparu sicrwydd economaidd a ffyniant am ddegawdau i ddod.”

“Er siomedigaethau’r gorffennol, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i letya niwclear newydd ar yr amod ei fod yn darparu buddion trawsnewidiol ar gyfer yr hirdymor - o ran swyddi lleol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi a ffyniant ar gyfer ein cymunedau a’n trigolion. Wrth gwrs, mae parchu cymunedau’r Ynys, diogelu’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ynghyd ag ymrwymiad i ymgysylltu cyhoeddus ystyrlon hefyd yn parhau i fod yn hanfodol.

“Rwy’n croesawu cyhoeddiad heddiw gan gydnabod bod y gwaith caled o sicrhau’r fargen orau ar gyfer ein hynys a’i thrigolion yn cychwyn rwan.”

quotation graphic