Mae prosiect wedi dechrau i ddarparu arweiniad ac argymhellion wedi'u hariannu i fusnesau bach a chanolig eu maint (SMEs) ar fabwysiadu technolegau cyfathrebu di-wifr newydd.

Wedi'i arwain gan Uchelgais Gogledd Cymru, ariennir y fenter Asesiadau Cysylltedd Busnesau Bach a Chanolig eu Maint trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn cael ei gyflawni gan BIC Innovation mewn partneriaeth ag Intelligens Consulting.

Anogir busnesau SME sydd wedi'u lleoli yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn i ymgeisio am y prosiect hwn sydd wedi'i ariannu'n llawn, ac mae’r cyfleoedd yn gyfyngedig.

Bydd cefnogaeth i ymgeiswyr llwyddiannus yn cael ei darparu ar ffurf ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb – gan asesu eich defnydd presennol o dechnoleg a chyfleoedd i wella, ar y cyd â rhoi arweiniad arbenigol ar ystod eang o dechnolegau cysylltedd digidol ac atebion trawsffurfiol.

Yn dilyn yr ymgynghoriadau, bydd busnesau'n derbyn adroddiad penodol gydag argymhellion ar feysydd megis hyfforddiant a recriwtio, uwchraddio neu addasu eiddo, caffael a dewisiadau ariannu.

quotation graphic

Dywedodd Stuart Whitfield, Rheolwr y Rhaglen Ddigidol yn Uchelgais Gogledd Cymru:

"Mae hwn yn gyfle cyffrous i fusnesau Gogledd Cymru ddeall sut mae elwa o wella eu defnydd o dechnolegau di-wifr. Boed hynny wrth ddefnyddio rhwydweithiau preifat 5G soffistigedig mewn gweithgynhyrchu i fonitro a rheoli cyfarpar neu ddefnyddio synwyryddion LoRaWAN (Long Range Wide Area Network) sy'n eithaf syml a rhesymol eu pris i gadw llygad ar ddefnydd ynni, lefelau lleithder neu faint sydd mewn ystafell, mae'r dewis yn eang.

"Wrth i'r dechnoleg ddatblygu'n gyflym, felly hefyd mae'r cyfleodd yn mynd yn fwy hygyrch ac yn haws i'w defnyddio.

"Bydd y gefnogaeth benodol hon yn helpu busnesau i ymchwilio i ddewisiadau seilwaith di-wifr er mwyn bod yn fwy effeithlon ac i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd."⁠

quotation graphic

I fynegi diddordeb mewn derbyn ymgynghoriad, dylai busnesau bach neu ganolig eu maint yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd neu Ynys Môn anfon e-bost at: info@bic-innovation.com erbyn 19 Gorffennaf, 2024.

Mae rhagor o wybodaeth a ffurflen mynegi diddordeb ar gael yma hefyd.