• Alwen Williams Prif Weithredwr, Uchelgais Gogledd Cymru

    Mae Alwen Williams wedi'i phenodi'n Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd – a elwir yn Uchelgais Gogledd Cymru. 

    Mae'r penodiad yn dilyn pum mlynedd pan fu Alwen yn arwain ar gyflawni Cynllun Twf y rhanbarth fel Cyfarwyddwr Portffolio yn Uchelgais Gogledd Cymru – rôl y mae hi wedi'i chyfuno'n fwy diweddar â rôl Prif Weithredwr rhan-amser dros dro y CBC. 

    Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn sefydliad llywodraeth leol rhanbarthol newydd, a grëwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb statudol i gynhyrchu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a chynllun datblygu strategol rhanbarthol yn ogystal â dyletswydd i wella a hyrwyddo lles economaidd rhanbarthol.  

    Arweiniodd y cyfrifoldebau ychwanegol hyn o fewn cylch gwaith Uchelgais Gogledd Cymru, at greu rôl lawn amser y Prif Weithredwr. Bydd Alwen nawr yn arwain y CBC sydd hefyd yn golygu ei bod yn parhau i arwain ar gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a chydweithio â phartneriaid i gyflawni Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam. 

quotation graphic

Dywedodd Alwen Williams, Prif Weithredwr, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi i'r rôl gyffrous hon ar sail barhaol a llawn amser. Mae Gogledd Cymru yn gartref i mi ac yn lle sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae'n fraint gwirioneddol cael bod mewn rôl sy'n cyfrannu'n uniongyrchol tuag at ddyfodol ffyniannus i'n rhanbarth." 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd, Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:  
"Mae rôl y Prif Weithredwr yn hanfodol i ddatblygiad y Gogledd fel rhanbarth ac i sicrhau y gallwn ddangos ein gwerth ar lwyfan cenedlaethol a hyd yn oed byd-eang. Mae'r cyfrifoldebau sydd bellach yn eistedd o fewn Uchelgais Gogledd Cymru fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth yn helaeth ac mae angen arweinyddiaeth eithriadol i'w cyflawni. Rôl Alwen nawr yw cyflawni dros Ogledd Cymru a symud y rhanbarth ymlaen i'r dyfodol." 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Is-gadeirydd, Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:   
"Mae Alwen yn arweinydd eithriadol sydd â'r sgiliau i sicrhau bod Uchelgais Gogledd Cymru yn parhau i gyflawni ar gyfer y rhanbarth. Mae'r hyn y mae hi wedi'i gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf wedi dangos ei gallu i ddod â phartneriaid ledled y rhanbarth ynghyd gyda gweledigaeth glir sy'n canolbwyntio ar wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y Gogledd." 

quotation graphic

Cyn ymuno ag Uchelgais Gogledd Cymru yn 2019, cafodd Alwen yrfa 24 mlynedd gyda BT plc a'r darparwr seilwaith Openreach Ltd mewn ystod o wahanol rolau arweinyddiaeth strategol a gweithredol. Ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio yn Llundain a Chaerdydd, dychwelodd 'gartref' gan iddi gael ei magu yng Ngwytherin, ger Llangernyw a mynychu Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. 

Mae gan Alwen MSc mewn Systems Thinking a BA dosbarth cyntaf (anrh) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth drwy'r Brifysgol Agored, a thystysgrif mewn Cymell Gweithredol o Ashridge Hult Business School. Am ei chyfraniad i fusnes yn ystod ei gyrfa ym maes telathrebu, dyfarnwyd cymrodoriaethau er anrhydedd i Alwen gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam.  

Ar hyn o bryd, mae Alwen yn byw yn yr Wyddgrug, gyda'i gŵr Damian ac yn ei hamser hamdden mae'n aelod o bwyllgor datblygu King's Trust Cymru ac yn ymddiriedolwr Sefydliad Chwaraeon Cymru, elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau ariannol i chwaraeon a gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc.