Mae Dave Penrith a Nick Bennett wedi’u penodi’n Ymgynghorwyr Anweithredol i Uchelgais Gogledd Cymru.
Gyda’i gilydd, maent yn dod â chyfoeth o arbenigedd diwydiannol ym maes prosiectau cyfalaf, llywodraethu, peirianneg, trawsnewid digidol a datblygu economaidd i helpu hyrwyddo twf cynaliadwy a denu buddsoddiad i’r rhanbarth.
Byddant yn chwarae rolau blaenllaw fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd wrth ffurfio Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd, a fydd yn cynrychioli busnesau a chyflogwyr ledled Gogledd Cymru. Unwaith y bydd wedi’i sefydlu, prif bwrpas y Bwrdd fydd darparu cyngor annibynnol a her adeiladol i Uchelgais Gogledd Cymru.
-
Dave Penrith
Fel cyn Prif Beiriannydd Byd-eang yn Unilever, mae gan Dave Penrith dros 40 mlynedd o brofiad fel peiriannydd ac ym maes trawsnewid digidol. Mae wedi arwain mentrau Diwydiant 4.0, goruchwylio gweithrediad byd-eang technoleg gefeilliaid digidol mewn gweithgynhyrchu, ac wedi datblygu systemau sydd yn cael eu pweru gan AI i wella effeithlonrwydd cadwyni cyflenwi. Bu hefyd yn chwarae rhan allweddol yn yr ‘UK Ventilator Challenge’ yn ystod pandemig COVID ac erbyn hyn mae’n cynghori sefydliadau ar drawsnewid a phrosiectau cyfalaf.
-
Nick Bennett
Mae Nick Bennett, sy’n Gyfarwyddwr Cynghori Strategol yn Savills ar hyn o bryd, yn dod â chyfoeth o brofiad ym maes polisi cyhoeddus a datblygu economaidd ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus, a dielw. Bu’n Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, ac yn gynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru. Yn ei rôl bresennol, mae Nick wedi arwain mentrau adfywio sylweddol ledled Gogledd Cymru ac wedi cynghori ar strategaethau mewnfuddsoddi.
Uchelgais Gogledd Cymru yw’r enw gweithredol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC). Corff rhanbarthol statudol yw hwn sy’n dod â chwe awdurdod lleol ynghyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i hyrwyddo cydweithio ar les economaidd, trafnidiaeth a chynllunio strategol.
Dywedodd Alwen Williams, Prif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru:
“Rydym yn falch iawn o groesawu Dave a Nick i’r rolau pwysig hyn. Bydd eu gwybodaeth gyfunol ym maes arloesi peirianneg a strategaeth economaidd yn ein helpu i lunio economi gynaliadwy a gwydn yma yng Ngogledd Cymru.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a Chadeirydd y CBC:
“Mae penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd newydd i’r Bwrdd Ymgynghorol yn cryfhau ein gallu i gysylltu gwybodaeth a mewnwelediad busnes â blaenoriaethau lleol. Bydd eu cyfraniad yn helpu sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau’n gystadleuol, yn denu buddsoddiad, ac yn sicrhau cyfleoedd ar draws ein rhanbarth.”
Wrth gael ei benodi, dywedodd Dave Penrith:
“Rwy’n angerddol am ddefnyddio technoleg ac arloesi i greu gwerth go iawn i gymunedau. Mae’r rôl hon yn gyfle i ddod â diwydiant a blaenoriaethau rhanbarthol ynghyd i adeiladu economi sy’n barod ar gyfer y dyfodol yma yng Ngogledd Cymru.”
Ychwanegodd Nick Bennett:
“Mae gan Ogledd Cymru botensial gryf ar gyfer twf. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar draws sectorau a defnyddio fy mhrofiad i gefnogi buddsoddiad ac adfywio, a hyrwyddo ffyniant cynhwysol i’r rhanbarth.”
Unwaith y bydd y Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd wedi’i sefydlu, bydd yn cyfarfod bob dau fis ac yn cynghori ar faterion sy’n ymwneud â lles economaidd, trafnidiaeth, a chynllunio. Dylai arweinwyr busnes sydd â diddordeb ymuno â’r Bwrdd Busnes Ymgynghorol gysylltu â gwyb@uchelgaisgogledd.cymru i gael rhagor o wybodaeth a chofrestru eu diddordeb.