Mae galwad olaf yn cael ei gwneud, yn annog ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol teithio yng ngogledd Cymru, cyn i'r cyfle gau ar 14 Ebrill.
Anogir y cyhoedd, busnesau, sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol – pawb sydd â diddordeb – i edrych ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft ar gyfer Gogledd Cymru, ac i roi adborth.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru - Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, yn gwahodd ymatebion, ar ôl datblygu'r Cynllun gyda ei partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru, a Llywodraeth Cymru.
Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ei le tan 2030, a'i fwriad yw darparu gwell cyfleoedd teithio, gwella cysylltedd digidol a lleihau effeithiau amgylcheddol.
Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig:
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu heffeithio gan gludiant a hynny yn fwy nag y maent yn ei sylweddoli. Er enghraifft, a ydynt bob amser yn gyrru, gan gredu nad oes fawr o ddewis arall? A ydynt yn teimlo yn ynysig oherwydd diffyg gwasanaethau neu eisiau gweld newid yn y ffordd yr ydym yn teithio gan symud i ddulliau sy'n well i'r amgylchedd? Dyma'r amser i bobl adael i ni wybod drwy ymateb i'n Cynllun drafft a dweud wrthym beth sy'n bwysig iddyn nhw."
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Is-gadeirydd y Pwyllgor:
"Mae cysylltiadau teithio da yn angenrheidiol i alluogi cymunedau ac economïau lleol i ffynnu. Felly, rydym eisiau cymaint o bobl, grwpiau a sefydliadau â phosib, i gael dweud eu dweud. Mae'n bwysig ein bod yn clywed gan drawstoriad eang o bobl - o rai sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig a threfol i bobl ifanc a phobl hŷn - dylai pawb geisio dylanwadu ar ddyfodol teithio yn ein rhanbarth."