Mae un o brosiectau ynni carbon isel sylweddol o bortffolio Cynllun Twf Gogledd Cymru wedi cael ei gymeradwyo yn ddiweddar gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Mae’r penderfyniad yn golygu gall y prosiect bellach symud ymlaen i’r cam cyflawni.
Bydd prosiect Cydnerth yn diogelu cynllun ynni llanw Morlais, a redir gan fenter gymdeithasol Menter Môn, at y dyfodol. Drwy fuddsoddi yn ei seilwaith, bydd y Cynllun Twf yn galluogi capasiti grid 18MW y cynllun i gynyddu dros amser i ganiatáu’r 240MW llawn. Bydd yr estyniad yn creu hyd at 230 o swyddi newydd a chyfleoedd newydd i’r gadwyn gyflenwi, gan gadarnhau safle’r rhanbarth o fewn y sector ynni llanw. Mae’r prosiect gwerth £16m yn cael ei gefnogi gan fenthyciad o £8.87m gan Uchelgais Gogledd Cymru.
Mae Cynderth yn un o saith prosiect o fewn rhaglen Ynni Carbon Isel Cynllun Twf Gogledd Cymru – sy'n fuddsoddiad o £1 biliwn yn economi’r rhanbarth. O hyn, mae £240 miliwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Croesawodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cadeirydd, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd, y penderfyniad:
"Mae hon yn garreg filltir bwysig i Morlais a Gogledd Cymru. Gall y prosiect rwan wneud yn fawr o arian y Cynllun Twf er mwyn hybu’r sector, datgloi cyfleoedd economaidd, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chefnogi swyddi lleol. Bydd yn sicrhau bod y rhanbarth yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol ynni llanw ac wrth gynhyrchu trydan glân.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae cymeradwyo prosiect Cydnerth yn gam mawr ymlaen i Ogledd Cymru fel arweinydd yn y maes ynni llanw ac arloesi carbon isel. Bydd y buddsoddiad hwn yn hybu twf economaidd ac yn creu swyddi o ansawdd uchel, gan adeiladu ar ein cyfran ecwiti gwerth £8m ym mhrosiect ehangach Morlais ac atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddyfodol cynaliadwy. Gyda chefnogaeth gwerthfawr Cynllun Twf Gogledd Cymru, rydyn ni’n sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i arwain yn y maes , gan ddefnyddio ei hadnoddau naturiol am genedlaethau i ddod."
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffiths:
“Rwy'n falch iawn o weld cynnydd ar y prosiect ynni carbon isel hwn wrth iddo symud gam yn nes at ddarparu swyddi a buddsoddiad newydd o fewn y sector ynni llanw yng Ngogledd Cymru.
“Prif genhadaeth Llywodraeth y DU yw sicrhau twf economaidd fel rhan o’n Cynllun ar gyfer Newid.
“Mae prosiectau fel Cydnerth yn allweddol i sicrhau llwyddiant yn y genhadaeth hon, a dyna pam mae buddsoddiad Llywodraeth y DU yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru mor bwysig. Ynghyd â’n partneriaid, rydym am greu swyddi newydd a fydd yn cyfrannu at ffyniant yr economi leol.”
Wrth groesawu’r penderfyniad, dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:
"Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Uchelgais Gogledd Cymru sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen efo’r prosiect. Gyda chefnogaeth Cynllun Twf Gogledd Cymru, gallwn gymryd y cam nesaf i ehangu cynllun ynni llanw Morlais, gan ddod â budd i'n cymunedau, creu swyddi lleol, a chyfrannu at dwf cynaliadwy'r rhanbarth."
Mae Morlais wedi ei leoli oddi ar arfordir gogledd-orllewin Ynys Cybi, Ynys Môn a bydd yn cynhyrchu trydan gan ddefnyddio ynni o adnodd llanw sydd ymysg y cryfaf yn Ewrop. Dyma’r cynllun llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi derbyn caniatâd, a fydd yn gweld datblygwyr ynni llanw yn gosod eu dyfeisiau yn y môr o 2026 i gynhyrchu pŵer carbon isel glân.