Yn ymateb i gyhoeddiad llywodraeth y Deyrnas Unedig mai Wylfa yw’r safle sy’n cael ei ffafrio gan y llywodraeth ar gyfer gorsaf ynni niwclear gigawat ar raddfa fawr, dywedodd Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, Uchelgaid Gogledd Cymru: 

quotation graphic

“Mae’r gobaith y bydd Wylfa’n dod yn orsaf ynni niwclear gigawat ar raddfa fawr yn newyddion cadarnhaol. Byddai cyfleuster o’r fath yn denu buddsoddiad enfawr, yn creu lefel sylweddol o swyddi medrus sy’n talu’n dda ac yn gosod Ynys Môn a Gogledd Cymru ymhellach fel lleoliad blaenllaw ar gyfer technoleg ynni carbon isel.  

“Yr hyn sy’n bwysig nawr yw i Lywodraeth y DU roi sicrwydd ar y cynlluniau ac ymgysylltu’n llawn â rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol i sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ar gyfer cymunedau lleol a bod buddion y cyfle hwn yn cael eu huchafu ar draws Ynys Môn a Gogledd Cymru.”   

“Er ein bod yn cefnogi’r cyhoeddiad ar Wylfa, byddem hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU a Great British Nuclear i roi blaenoriaeth i leoli Adweithydd Niwclear Bach (SMR) neu Adweithydd Modwla Uwch (AMR) yn Nhrawsfynydd fel rhan o becyn buddsoddi ategol ehangach yn y sector niwclear yng Ngogledd Cymru.” 

 

quotation graphic