Yn Uchelgais Gogledd Cymru rydym am benodi dau Ymgynghorydd Anweithredol i helpu gyda llunio dyfodol economaidd y rhanbarth

Rydym yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan arweinyddion rhagorol o'r sector preifat i lunio dyfodol economi'r rhanbarth trwy greu Bwrdd Cynghori Busnes newydd.

Bydd yr Ymgynghorwyr yn gweithredu fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd fydd yn darparu mewnwelediad strategol, her adeiladol, a chefnogaeth wybodus i Uchelgais Gogledd Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Trwy weithredu fel pont rhwng y gymuned fusnes a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, bydd yr Ymgynghorwyr Anweithredol yn dylanwadu ar gyfeiriad polisi, yn hyrwyddo arloesedd, ac yn sicrhau bod uchelgeisiau economaidd y rhanbarth wedi'u seilio ar gyfleoedd yn y byd go iawn.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn arweinwyr ysbrydoledig sy'n gallu dod â: 

  • Phrofiad sylweddol mewn arweinyddiaeth busnes neu ddatblygiad economaidd rhanbarthol.
  • Dealltwriaeth ddofn o dirwedd economaidd Gogledd Cymru a'i photensial.
  • Ymrwymiad i dwf economaidd cynhwysol, cynaliadwy a hirdymor. 
quotation graphic

Dywedodd Alwen Williams, Prif Weithredwr, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Mae hwn yn gyfle unigryw a chyffrous i unigolion sydd â meddwl strategol, beiddgar ac sydd ag angerdd am ddatblygu rhanbarthol er mwyn cael effaith barhaol ar daflwybr economaidd Gogledd Cymru.

"Mae'n bwysig bod gennym y bobl iawn wrth lyw y Bwrdd Cynghori Busnes newydd - fel corff deinamig, blaengar sydd wedi'i gynllunio i yrru trawsnewidiad economaidd ystyrlon, cynhwysol."

quotation graphic

Dylai'r rhai sydd â diddordeb i gael eu hystyried ar gyfer un o'r ddwy rôl Ymgynghorydd Anweithredol gyflwyno mynegiant o ddiddordeb erbyn

17:00 ar 22 Awst, 2025. ⁠

Mae rhagor o fanylion am y rolau a'r broses ymgeisio ar gael drwy'r dolenni isod.

Gallwch hefyd lawrlwytho pecyn gwybodaeth isod.