Beth yw Safonau’r Gymraeg?
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw'r ddeddfwriaeth a greodd safonau'r Iaith Gymraeg.
Mae'r safonau'n hyrwyddo ac yn hwyluso defnydd yr iaith Gymraeg ac yn sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru. Mae'r Mesur hefyd yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
Ein Hysbysiad Cydymffurfio
Mae Safonau Iaith Gymraeg sydd yn ofynnol i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ei bodloni wedi'u rhestru yn ein Hysbysiad Cydymffurfio a gyhoeddwyd ar 16 Awst 2024.
Cyd-bwyllgorau Corfforedig a Safonau'r Gymraeg
Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn destun Safonau'r Gymraeg yr un modd â'u cynghorau unigol a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Mae'r Rheoliadau Cydbwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 wedi diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig at y rhestr o gyrff a chategorïau o gyrff y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r safonau
Mae'r safonau'n sicrhau cysondeb priodol a disgwyliadau clir ynghylch sut mae'n rhaid i CBC ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg i bartneriaid, rhan-ddeiliaid, a'r cyhoedd ynghyd â sut mae'n rhaid iddynt hyrwyddo defnydd yr iaith drwy ei wasanaethau.
Pa weithgareddau mae’r safonau’n effeithio arnynt?
Mae 176 o safonau yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau, pob un wedi’u grwpio yn y pum maes allweddol:
- Safonau cyflenwi gwasanaethau
- Safonau llunio polisi
- Safonau gweithredu
- Safonau hybu
- Safonau cadw cofnodion
Nid oes rheidrwydd ar Gomisiynydd y Gymraeg i’w gwneud yn ofynnol i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol gydymffurfio â phob safon, ond bydd mwyafrif y safonau yn gymwys.
Ymhellach, mae gan Gomisiynydd y Gymraeg ddyletswydd statudol i fonitro cydymffurfiaeth sefydliadau â Safonau’r Gymraeg, ac ymchwilio i gŵynion ac achosion o dor-cydymffurfiaeth. Mae o fewn ei bŵer i osod camau gorfodi, camau cyfreithiol a dirwyon.
I gael rhagor o wybodaeth am safonau’r Gymraeg yn y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, cysylltwch â gwyb@uchelgaisgogledd.cymru.