Y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) ar gyfer Gogledd Cymru yw'r strategaeth i gyflawni system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy, fforddiadwy ac integredig ar draws y rhanbarth.
Wedi’i ddatblygu gan Uchelgais Gogledd Cymru – fel Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) y rhanbarth, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, mae’r CTRh yn gosod gweledigaeth feiddgar i wella cysylltedd, lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat, a chefnogi twf economaidd cynhwysol.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar yn 2025 ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft, cafodd adborth ei ystyried yn ofalus a’i ddefnyddio i adolygu’r cynllun a’i ddogfennau cysylltiedig – a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo ym mis Gorffennaf. Cymeradwywyd y fersiwn derfynol honno o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (2025-2030) yn swyddogol gan Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar 28 Hydref 2025.
Bydd awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru yn dechrau cyflwyno cynlluniau’r CTRh ym mis Ebrill 2026, gyda monitro ac adolygu yn cael ei arwain gan Is-bwyllgor Trafnidiaeth y CBC.
Bydd cyflawni’r CTRh a’i flaenoriaethau, yn cefnogi’r economi i ffynnu yn y tymor hir ac mae’n hanfodol ar gyfer gwella cysylltedd a gwella ansawdd bywyd trigolion ac ymwelwyr. Trwy flaenoriaethu buddsoddiadau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith teithio llesol ar gyfer beicio a cherdded, a datblygu atebion symudedd arloesol, nod y CTRh yw lleihau dibyniaeth ar ddefnyddio ceir preifat a hyrwyddo opsiynau teithio mwy ecogyfeillgar.
Yn ogystal, mae’r cynllun yn pwysleisio pwysigrwydd lleihau effaith amgylcheddol negyddol ein rhwydwaith trafnidiaeth, gan gyfrannu at ymrwymiad Gogledd Cymru i gynaladwyedd a lliniaru newid hinsawdd.
Bydd cyflawni’r CTRh a’i flaenoriaethau’n llwyddiannus yn cefnogi’r economi ranbarthol, yn gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau, ac yn creu system drafnidiaeth fwy cysylltiedig a gwydn ar gyfer y dyfodol.
Trwy gydweithio ag awdurdodau lleol, awdurdod y parc cenedlaethol, Trafnidiaeth Cymru, busnesau lleol a chymunedau, bydd y CTRh yn helpu Gogledd Cymru i drosglwyddo i rwydwaith trafnidiaeth fwy cynaliadwy ac integredig, a fydd o fudd i bawb yn y rhanbarth.