Ariennir y prosiect Treialon IoT Amaethyddiaeth Glyfar yn llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac fe’i darperir gan Mentera ar ran Uchelgais Gogledd Cymru. Cafodd 16 fferm ledled Gogledd Cymru y cyfle i dreialu’r technolegau digidol diweddaraf sydd wedi’u dylunio i fynd i’r afael â rhai o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Roedd pŵer y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thechnolegau LoRaWAN (Long Range Wide Area Network) yn ganolog i’r rhwydwaith yma ffermwyr. Cafodd ffermwyr fudd o gael hyfforddiant a chymorth ar sut i ddefnyddio dangosfyrddau data i wella cynhyrchiant eu busnesau. Daeth y gwaith i ben gyda digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth amaeth-dechnoleg, dan arweiniad Mentera, ar fferm ger Cerrigydrudion, er mwyn rhannu prif ganfyddiadau, mewnwelediadau a gwersi a ddysgwyd o’r treialon.

 

Dyma fanylion y ffermydd sy’n rhan o’r cynllun:

  • Thomas Bletcher, Fferm Argoed Hall, Yr Wyddgrug

    Iechyd a Lles y Fuches: Amgylchedd a Dŵr Gwartheg Dan Do  

    •  Llaeth 
    • 300 hectar 
    • 450 o fuchod 
    • Mae’r busnes yn cadw ei anifeiliaid cyfnewid ei hun 
    • Mae’n tyfu ei wenith ac indrawn ei hun 

    Cynnal iechyd a lles y fuches: 

    Monitro amodau amgylcheddol siediau (tymheredd, lleithder a CO2) i sicrhau lle byw addas a chyfforddus er mwyn sicrhau bod yr anifeiliaid mor fodlon â phosibl.  

    Monitro’r defnydd o’r tanc dŵr yn siediau’r fuches laeth i sicrhau bod dŵr glân yn cael ei gyflenwi’n barhaus – os yw’r defnydd o ddŵr yn lleihau’n sylweddol / yn stopio, gall cafnau gael eu baeddu. 

    •  Synwyryddion Tymheredd, Lleithder a CO2 (SenseCap S2103) 
    • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored ar gafnau (Dragino SW3L-LB/LS) 

  • Rhodri Jones, Brynllech, Gwynedd

    Monitro’r System Ddŵr: Canfod Problemau Cyflenwi 

    • Fferm fynydd 
    • 265 hectar 
    • Biff a Defaid 

    Mae’r busnes yn cadw ei anifeiliaid cyfnewid ei hun 

    Mae’n gwella ei hunangynhaliaeth o ran protein ar gyfer y da byw drwy wneud y defnydd mwyaf o borthiant (glaswellt, meillion gwyn a choch) 

    Mae’n monitro’r system ddŵr sydd newydd ei datblygu ar y fferm i ganfod problemau’n gynnar a mesur effeithlonrwydd ac argaeledd dŵr, gan gynnwys glawiad, er mwyn gwneud penderfyniadau rheoli gwybodus. 

    • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB/LS) 
    • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120) 
    • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB-010) 

  • David Williams, Fferm Clawdd Offa, Sir y Fflint

    Monitro’r Pridd a’r Tywydd i Optimeiddio’r Cynhyrchiant o Laswellt 

    • Fferm Laeth  
    • 150 hectar 
    • 260 o wartheg Jersey X yn lloia  
    • Godro unwaith y dydd   
    • System sy’n seiliedig ar borfa   

    Monitro’r Pridd a’r Tywydd i Optimeiddio’r Cynhyrchiant o Laswellt 

    Synhwyrydd tywydd i fonitro amodau amgylcheddol ledled y fferm, nodi patrymau a chydberthnasoedd â lleithder ac iechyd y pridd, ac wedi hynny gyda’r cynhyrchiant o laswellt. 

    Mesur amodau’r pridd (tymheredd, lleithder ac EC) i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus. 

    • Synhwyrydd Lleithder Pridd, Tymheredd ac EC 
    • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120)   

  • David Round, Cwr Du, Llanfairpwll

    Synhwyro Pridd Perllan i Gynhyrchu Ffrwythau yn Effeithlon 

    • Fferm 70 acer sy’n canolbwyntio ar arallgyfeirio  
    • Organig 
    • Diadell fechan o ddefaid brid prin 
    • Prif ffocws arallgyfeirio: coed ffrwythau arbenigol/uchel eu gwerth, sef eirin ysgaw a helyg y môr a chynhyrchion uniongyrchol i ddefnyddwyr (diodydd) 
    • Fferm solar fechan 

     Synhwyro pridd mewn perllan i gynhyrchu ffrwythau’n effeithlon. 

    • Trosglwyddydd Synhwyrydd Lleithder Pridd ac EC (Dragino SE0X-LB) 
    • Synhwyrydd pH Pridd (Dragino SPH01-LB) 

  • Llyr Jones, Derwydd, Llanfihangel Glyn Myfyr

    Canfod Problemau mewn Sied Ddofednod: Dŵr a Golau 

    • Llaeth, Biff a Defaid 
    • Ieir Dodwy Maes ac Organig  
    • Yn cyflenwi wyau i Tesco 
    • Fferm ucheldir 
    • 500 hectar 

    Canfod problemau mewn sied ddofednod: dŵr a golau: 

    Monitro’r dwyster golau yn y siediau dofednod. Anfonir rhybudd pan fydd yn wahanol i’r amodau gorau posibl, yn enwedig ar adegau pan nad yw staff yn bresennol (dros nos). 

    Monitro argaeledd dŵr a nodi problemau cyflenwi dŵr yn brydlon er mwyn sicrhau cyflenwad parhaus, glân o ddŵr ac atal cymhlethdodau posibl.  

    • Synhwyrydd Dwysedd Golau Di-wifr (SenseCap S2102)  
    • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB/LS) 
    • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB) 

  • Rhodri Wyn Jones, Fronalchen, Gwynedd

    Monitro’r System Ddŵr: Canfod Problemau Cyflenwi 

    • Fferm Biff a Defaid 
    • 120 hectar 
    • Fferm Iseldir ac Ucheldir  
    • Magu lloi  
    • Arallgyfeirio – Maes Gwersylla a Pharc Carafannau Fronalchen 

    Monitro’r system ddŵr ar y fferm: 

    Monitro’r system ddŵr ar y fferm i ganfod problemau’n gynnar a mesur argaeledd dŵr, gan gynnwys glawiad, a hygyrchedd mewn caeau ar wahân (dŵr mewn tanciau) er mwyn gwneud penderfyniadau rheoli gwybodus. 

    Gorsaf dywydd i fonitro amodau amgylcheddol ledled y fferm, sy’n ddefnyddiol i sefydlu rhybuddion ar gyfer trothwy tymheredd o amgylch rhewi (rheoli pibellau rhewi). 

    • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB/LS) 
    • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120) 
    • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB-010) 

  • Huw Roberts, Fferm Hafod Wen, Wrecsam

    System Rybuddio ar gyfer Gweithrediadau a Diogeledd y Fferm 

    • Buchod Lim X Sugno  
    • Fferm 60 hectar  
    • Mae’r fferm yn cadw ei heffrod cyfnewid ei hun  
    • Mae’n tyfu 40 erw o ŷd bob blwyddyn  

    System Rybuddio Gweithrediadau a Diogeledd y Fferm 

    Monitro’r felin fwydo a’r cymysgydd i ddiffodd unwaith y bydd y bin storio yn llawn. 

    Gwella system ddiogeledd y fferm gan ddefnyddio synwyryddion sy’n ymateb i symudiad cerbyd ar y lôn/iard. Bydd monitro o bell gan ddefnyddio system rybuddio yn rhoi tawelwch meddwl pan fydd staff i ffwrdd. 

    • Synhwyrydd Pellter Radar Microdon (Dragino MDS120-LB/LS) 
    • Synhwyrydd Torri Pelydryn Is-goch 

  • Phillip Hughes, Swyddfa Hendwr, Corwen

    Giatiau Clyfar ar gyfer Diogelwch Da Byw 

    • Biff a Defaid  
    • > 400 hectar ar wasgar dros sawl parsel o dir  
    • 80 hectar o iseldir, 80 hectar o ffridd, 240 hectar o dir mynydd 
    • 1000 o famogiaid bridio wedi’u rhannu’n ddwy ddiadell 
    • Yn magu 280 o loi biff ar gontract 
    • Mae arallgyfeiriadau yn cynnwys safle gwersylla a gwaith treulio anaerobig  

    Synwyryddion agor/cau giatiau: Mae trespaswyr yn achosi problemau’n gyson mewn ardaloedd bryniog anghysbell drwy adael gatiau ar agor 

    • Giât Awyr Agored LoRaWAN 4G/Solar  
    • Synhwyrydd Cau/Agor Drysau/Giatiau Awyr Agored (Dragino DS03A-LB/LS) 

  • Dylan Hughes, Llanllibio Groes

    Monitro’r Pridd a’r Tywydd i Optimeiddio’r Cynhyrchiant o Laswellt 

    • Biff a Defaid  
    • 240 o aceri yn un ar gyfer biff a defaid 
    • 350 o aceri ar gyfer pori yn y gaeaf 
    • 400 o famogiaid bridio ynghyd â 130 o loi stôr 
    • Ŵyn ym mis Rhagfyr, mis Chwefror a mis Mawrth, tewhau ŵyn gartref. 

    Monitro’r pridd a’r tywydd i optimeiddio’r cynhyrchiant o laswellt 

    • Trosglwyddydd Synhwyrydd Lleithder Pridd ac EC (Dragino SE0X-LB)   
    • Synhwyrydd pH Pridd (Dragino SPH01-LB) 
    • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120)  

  • James Gould, Meadow House, Wrecsam

    Monitro’r System Ddŵr: Canfod Problemau Cyflenwi 

    • Ffermio defaid 
    • Fferm iseldir  
    • 52 hectar 
    • 110 o ddefaid 
    • Caeau pori is sy’n dueddol o gael llifogydd (mor isel â 10 troedfedd uwchben lefel y môr)  
    • Mae’r caeau wedi’u rhannu’n padogau ar gyfer pori cylchdro  

    Monitro cyflenwad dŵr y prif gyflenwad i olrhain defnydd, pwysedd, a chanfod gollyngiadau posibl a phroblemau cyflenwi sy’n digwydd (mesuryddion llif dŵr, mesurydd pwysedd). 

    • Synhwyrydd Pwysedd Dŵr/Aer (Dragino PS-LB) 
    • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB-010)   
    • Mesurydd Dŵr Clamp a Synhwyrydd Gollyngiadau 

  • Sian a Llion Jones, Moelogan Fawr, Llanrwst

    Monitro’r System Pwmp Dŵr Solar: Canfod Namau ac Olrhain Defnydd 

    • Dechreuwyd rheoli’r fferm yn 2018 
    • 150 o wartheg Stabiliser 
    • 800 o famogiaid mynydd Cymreig 
    • Fferm fynydd ag iddi fannau sydd wedi’u gwella’n sylweddol 
    • 330 hectar 

    Monitro’r System Pwmp Dŵr Solar: Canfod Namau ac Olrhain Defnydd 

    • Synhwyrydd Pwysedd Aer/Dŵr – Math Trochi (PS-LB/LS-I) 
    • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB-010)   
    • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120)     
    • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB) 

  • Sion Roberts, Pennant, Powys

    Gwella Iechyd a Chynhyrchiant Da Byw: Iechyd y Pridd, Dŵr, a Rheoli Siediau 

    • Fferm fynydd 
    • 325 hectar 
    • Biff a Defaid 
    • Yn magu lloi hyd nes eu bod yn 12 mis oed 
    • Cedwir diadell o ddefaid mynydd Cymreig a diadell groesfrid, a gwerthir ŵyn tewion yn fyw 
    • Arallgyfeirio’r busnes fferm: Cabanau gwyliau gwledig (Gwyliau Pennant Holidays) 

    Gwella Iechyd a Chynhyrchiant Da Byw:  

    Mesur argaeledd dŵr a nodi problemau o ran y cyflenwad dŵr os byddan nhw byth yn digwydd. 

    Mesur a monitro amgylchedd siediau’r lloi er mwyn sicrhau’r iechyd a’r perfformiad gorau posibl. 

    Mesur amodau’r pridd (tymheredd a lleithder) i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus. 

    • Synwyryddion Tymheredd, Lleithder a CO2 (SenseCap S2103)   
    • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB)   
    • Trosglwyddydd Synhwyrydd Lleithder Pridd ac EC (Dragino SE0X-LB)   

  • Gareth Foulkes, Pentrefelin, Dinbych

    Monitro Glaw, Iechyd Pridd, Dŵr Ffo a Chymylogrwydd Afon 

    • Godro ar Raddfa Fechan, Gwartheg Biff Llaeth, Garddwriaeth, Dofednod, Mêl 
    • 60 hectar  
    • Fferm iseldir  
    • Arallgyfeirio: Siop fferm sy’n gwerthu cynnyrch a chynhyrchion cartref  

    Nodi patrymau a chydberthnasoedd â glawiad, lleithder pridd, dŵr ffo a dyddodion gwaddod a chymylogrwydd yr afon ar wahanol bwyntiau. 

    • Trawsnewidydd Synhwyrydd Ansawdd Dŵr/Cymylogrwydd (Dragino WQS-LB) 
    • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120)   
    • Synhwyrydd pH Pridd (Dragino SPH01-LB) 
    • Trosglwyddydd Synhwyrydd Lleithder Pridd ac EC (Dragino SE0X-LB)   
    • Synhwyrydd Pwysedd Aer/Dŵr – Math Trochi (Dragino PS-LB/LS-I) 

  • Andrew Gresty, The Cloy, Wrecsam

    Monitro Clyfar o Ffensys Trydan i Ymateb i Ddiffygion a’u Trwsio 

    • Fferm iseldir 
    • 75 hectar 
    • Gwartheg biff a sugno  
    • Henffordd X 

    Monitro Clyfar o Ffensys Trydan i Ymateb i Ddiffygion a’u Trwsio ar unwaith: 

    Monitro’r cyflenwad o bŵer ar hyd yr ardaloedd o ffensys trydan ledled y fferm i nodi diffygion ar unwaith a darparu rhybudd am foltedd isel neu broblemau posibl. Bydd hyn yn caniatáu atgyweiriadau prydlon, gan sicrhau bod y ffensys yn parhau i fod yn effeithiol, ac yn arbed amser o’i gymharu â gwiriadau â llaw. 

    • Synwyryddion Monitro Ffensys Trydan (FENCYBOY) 

  • Aled Lloyd Owen, Tyn y Bryn, Abergele

    Iechyd Anifeiliaid: Gwella Ffrwythlondeb y Fuches Sugno 

    • Defaid a buches sugno 
    • 56 hectar a thir comin 
    • 200 o famogiaid Cymreig ynghyd â 100 o famogiaid croesfrid a diadell fechan o ddefaid Wyneblas Caerlŷr pedigri 
    • 12 o heffrod sugno, gyda tharw ar log 

    Iechyd Anifeiliaid: Gwella Ffrwythlondeb y Fuches Sugno: 

    Monitro ymddygiad yr heffrod a gweithgarwch y tarw i sefydlu a yw’r tarw sydd ar log yn gweithio. 

    • LoRaWAN GPS/Olrhain Symudiad (MOKO LW001-BG PRO) 

  • Huw Jones, Fferm Pen-lan, Clwyd

    System Rybuddio sy’n Olrhain Gweithrediadau ac Asedau’r Fferm. 

    • Fferm Defaid a Biff  
    • Fferm ucheldir 
    • 354 hectar 
    • System sy’n seiliedig ar laswelltir   
    • Arallgyfeirio – Coed Nadolig a Llety Gwyliau  

    Gwella Diogeledd y Fferm gan Ddefnyddio Systemau Rhybuddio sy’n Olrhain Asedau a Gweithrediadau. 

    Gwella system ddiogeledd y fferm gan ddefnyddio synwyryddion agor/cau a synwyryddion olrhain asedau. Bydd monitro o bell â system rybuddio yn rhoi tawelwch meddwl pan fydd staff i ffwrdd o’r fferm. 

    • LoRaWAN GPS/Olrhain Symudiad (MOKO LW001-BG PRO)   
    • Synwyryddion Monitro Ffensys Trydan (FENCYBOY)   
    • Synhwyrydd Cau/Agor Drysau/Giatiau Awyr Agored (Dragino DS03A-LB/LS)