Mae ein hymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft ar gyfer Gogledd Cymru bellach wedi cau, ar ôl bod ar agor am 12 wythnos - o 20 Ionawr i 14 Ebrill 2025.

Yn Uchelgais Gogledd Cymru – fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd – fe wnaethom ddatblygu’r Cynllun ochr yn ochr â phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.  

Yn ystod y cyfnod ymgynghori buom yn annog y cyhoedd, busnesau, sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol, ymwelwyr – mewn gwirionedd, pawb â diddordeb – i edrych ar y Cynllun drafft, a rhoi adborth. Roedd modd ymateb ar-lein – drwy Ystafell Ymgysylltu Rithwir, drwy e-bost neu drwy FREEPOST.

Roedd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft yn amlinellu ein polisïau a’n hymyriadau strategol hyd at 2030, ar draws amrywiol ddulliau trafnidiaeth a theithio. Gan ganolbwyntio ar integreiddio ac arloesi, ei nod oedd rhoi mwy o ddewisiadau teithio i drigolion ac ymwelwyr a gwell cysylltedd digidol, tra hefyd yn lleihau ein heffaith amgylcheddol. Roedd dogfennau ategol yn cynnwys cynllun monitro a gwerthuso, cynllun cyflawni ar gyfer cynlluniau awdurdodau lleol, ac arfarniad integredig o lesiant.

Er mwyn sicrhau bod y Cynllun ar gael yn eang, cafodd ei gynhyrchu fel dogfen ‘Hawdd ei Ddeall’ gan Anabledd Dysgu Cymru, mewn fformat ‘Hawdd ei Ddeall’ ar wahân, a chyhoeddwyd Cwestiynau Cyffredin hefyd. Er gwybodaeth, mae’r dogfennau hyn a’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol llawn (drafft), ar gael i’w lawrlwytho isod.

Os hoffech dderbyn copi electronig o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft ar gyfer Gogledd Cymru neu unrhyw un o’i ddogfennau cysylltiedig, anfonwch e-bost at gwyb@uchelgaisgogledd.cymru.

Mae'r holl adborth a gawsom yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ystyried yn ofalus a'i ddefnyddio i ddiweddaru a chwblhau ein cynlluniau. Rydym yn bwriadu cyhoeddi a mabwysiadu ein Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru terfynol yn ddiweddarach eleni.