Rhwydwaith Gogledd Cymru yw uchelgais Llywodraeth Cymru am weledigaeth fuddsoddi gwerth biliynau o bunnoedd ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth aml, integredig yng ngogledd Cymru. Bydd yn rhwydwaith sydd wedi ei gysylltu'n well, yn fwy hygyrch ac yn llawn cyfleoedd.

Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn gynllun hirdymor uchelgeisiol sy'n cynnwys trydaneiddio Prif Reilffordd Gogledd Cymru, gwasanaethau amlach a gwell cysylltedd rhwng gogledd Cymru a Llundain, Glannau Mersi, Swydd Gaer a gogledd Lloegr.

Bydd yn cysylltu pobl a chymunedau yng ngogledd Cymru a'r rhanbarthau cyfagos gyda swyddi, cyfleoedd, hamdden a gwell ansawdd bywyd. Bydd yn helpu busnesau i ffynnu, gan drawsnewid rhagolygon economaidd y rhanbarth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn cyd-fynd â dyheadau a pholisïau Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar:

  • Wasanaethau rheilffordd mwy aml ar Brif Reilffordd Gogledd Cymru
  • Cysylltiadau uniongyrchol â Lerpwl a gwell lefelau gwasanaeth ar Reilffordd Wrecsam i Lerpwl
  • Gorsaf newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
  • Gwell cyfleusterau cyfnewidfa yng Ngorsaf Shotton
  • Tocynnau mwy integredig
  • Gwell cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i gyfleoedd cyflogaeth ym Mharth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam 

quotation graphic

Yn lansiad Rhwydwaith Gogledd Cymru, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Nid casgliad o brosiectau yn unig yw Rhwydwaith Gogledd Cymru; mae'n dyst i'n cred ym mhotensial y rhanbarth hwn.  Mae’n ddatganiad na fydd gogledd Cymru bellach yn ôl ystyriaeth, ond yn arweinydd ym maes trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig. 

Wrth i ni symud ymlaen, rhaid i ni gofio nad yw hyn yn ymwneud â llinellau ar fap, amserlenni ar sgrin neu ddur a choncrit yn unig. Mae’n ymwneud â bywydau’r bobl a wasanaethwn, y busnesau a gefnogwn, a’r dyfodol rydyn ni’n ei adeiladu. 

Gyda gweledigaeth feiddgar a bwrw 'mlaen â’r uchelgais am newid, gellir cyflawni pethau anhygoel."

quotation graphic